Cronfa Cadernid Economaidd
MAE'R GRONFA BELLACH WEDI CAU.
I fusnesau gyda throsiant o £85,000 neu lai yn arferol
Beth yw'r Gronfa Cadernid Economaidd?
Cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer cyfnod 1 Gorffennaf i 31 Awst 2021 i fusnesau sydd wedi/yn/am barhau i gael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau mewn ymateb i COVID-19 sydd yn parhau.
Pwy sy'n gallu derbyn cymorth?
Yn fras, mae'r cymorth ar gyfer busnesau sydd wedi/yn/am barhau i gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cyfyngiadau (gwybodaeth bellach ar gael yng Nghanllawiau'r Gronfa).
Mae'r cymorth ar gael i fusnesau sy'n derbyn bil Trethi Annomestig ac i fusnesau sydd ddim.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr naill ai:
- wedi gorfod aros ar gau neu’n methu â masnachu oherwydd y cyfyngiadau parhaus;
- yn Ofod Digwyddiadau unigryw ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan reoliadau ymbellhau cymdeithasol parhaus;
- busnesau eraill sydd ag >60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai 2021;
- yn fenter sy'n dibynnu (60% neu fwy o'u gwerthiant) ar gyflenwi busnesau yn y cateogorïau uchod.
Mae'n rhaid i bob ymgeisydd hefyd fod yn disgwyl colli 60% neu fwy o'u cyfanswm trosiant ar gyfer Gorffennaf/Awst o'i gymharu a 2019.
Dylai busnesau fyddai gyda throsiant o fwy nac £85,000 y flwyddyn yn arferol (hynny yw heb effaith COVID-19) gyflwyno cais yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru drwy ymweld â gwefan Busnes Cymru, cyn 12pm ar 27 Gorffennaf 2021.
Dylai busnesau, wedi eu lleoli yng Ngwynedd, sydd efo trosiant sydd yn llai nac £85,000 y flwyddyn yn arferol (hynny yw heb effaith COVID-19) gyflwyno cais drwy gwblhau'r ffurflen sydd ar waelod y tudalen yma.
Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â phwy sydd yn gymwys i dderbyn cymorth yng Nghanllawiau'r Gronfa - sicrhewch eich bod wedi eu darllen cyn cyflwyno cais.
Faint sydd ar gael?
Bydd swm y grant yn amrywio yn unol â sut mae'r busnes wedi ei amharu a'r nifer sydd yn cael eu cyflogi:
cyfyngiadau mai 2021
| 1-3 o gyflogai | 4-9 o gyflogai |
Wedi gorfod aros ar gau neu’n methu â masnachu oherwydd y cyfyngiadau parhaus |
£5,000 |
£10,000 |
Busnes cadwyn gyflenwi |
£2,500 |
£5,000 |
Yn Ofod Digwyddiadau ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan reoliadau ymbellhau cymdeithasol parhaus |
£3,500 |
£7,000 |
Busnesau eraill sydd ag >60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus |
£2,500 |
£5,000 |
Hunan Fasnachwyr heb eiddo |
£1,000 |
- |
Gall y nifer o gyflogai gynnwys perchnogion sy'n ennill cyflog drwy dynnu elw o'r busnes a'r nifer o gyflogai cyfwerth ag amser llawn (FTE) sy'n cael eu cyflogi drwy'r drefn dalu Talu Wrth Ennill (PAYE) gan y busnes 1 Mai 2021.
Mae mwy o wybodeth yng Nghanllawiau'r Gronfa - sicrhewch eich bod wedi eu darllen cyn cyflwyno cais.
Sut allai gyflwyno cais?
- Ewch i wefan Busnes Cymru a chwblhewch y gwiriwr cymhwysedd i weld a ydych chi'n debygol o fod yn gymwys i gael cymorth.
- Darllenwch Canllawiau'r Gronfa.
- Casglwch y wybodaeth bydd ei hangen arnoch i gwblhau'ch cais (trosiant, nifer cyflogai, ac yn y blaen) a chopi o Fantolen Banc diweddar os nad ydych wedi derbyn arian gan y Cyngor yn flaenorol (i ni allu cadarnhau eich manylion).
- Cwblhewch a chyflwynwch eich cais ar-lein isod.
Beth yw'r amserlen?
Bydd y Gronfa yn agor am 12pm ar 26 Gorffennaf a bydd yn cau am 5pm ar 9 Awst 2021.
Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau derbyn eich cais wedi iddo gael ei gyflwyno.
Byddwn yn anelu at brosesu ceisiadau grant o fewn 30 diwrnod gwaith wedi i ni dderbyn yr holl dystiolaeth/wybodaeth sydd ei hangen.
A oes unrhyw gymorth i gyflwyno'r cais?
Os oes unrhyw faterion hygyrchedd a allai eich atal rhag llenwi ffurflen gais ar-lein, ffoniwch linell gymorth Busnes ar 03000 6 03000.
Gallwch gysylltu â thîm Cymorth Busnes y Cyngor yn uniongyrchol trwy e-bostio grantiaubusnes@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679231.
Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
Mae'r gwiriwr cymhwysedd ar gyfer y Gronfa ar gael yma.
Mae'r Canllawiau ar gyfer y Gronfa ar gael yma.
Pethau pwysig i'w cofio wrth gyflwyno cais
- Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r gwiriwr cymhwysedd a darllen Canllawiau'r Gronfa cyn i chi ddechrau cyflwyno cais.
- Sicrhewch eich bod yn cyflwyno cais cyn 5pm ar 9 Awst 2021.
- Sicrhewch fod gennych yr holl wybodaeth sy'n ofynnol cyn i chi gyflwyno eich cais ac yn darparu popeth sydd ei angen arno, i asesu'ch cais.
- Atebwch yr holl gwestiynau ar y ffurflen gais i'r gorau o'ch gallu.
- Gwiriwch eich cais yn ofalus cyn ei gyflwyno.
- Cofiwch all cais anghyflawn neu wallus gael ei wrthod.
Cadwch yn Saff - Cadwch ar y Blaen
Cofrestrwch i dderbyn ein
cylchlythyr cefnogi busnes a dilyn
@BusnesGwynedd ar Twitter