Storm Dennis - Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu Dydd Sadwrn 15 Chwefror

Dyddiad: 14/02/2020

Gyda rhagolygon o wyntoedd cryf a glaw trwm, dyma awgrymiadau defnyddiol er mwyn helpu i atal sbwriel a chadw eich cymuned yn daclus pan fydd y tywydd yn gwaethygu.

 Os yw eich cynwysyddion ailgylchu dim ond yn hanner llawn ac y gallwch ymdopi, ystyriwch aros tan yr wythnos ganlynol pan all y tywydd fod yn well i'w gadael allan.

Rhowch eich cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu allan ar fore'r casgliad mor agos at 6am â phosib ond heb fod yn hwyrach na hynny a chasglwch nhw cyn gynted â phosib ar ôl y casgliad.

Lle bynnag y bo modd, rhowch y cynwysyddion mewn man cysgodol, er enghraifft yn erbyn ffens neu wal, er mwyn ei amddiffyn rhag y gwynt ac rhowch eitemau trymach o gwmpas ac ar ben unrhyw sachau a chynwysyddion ysgafnach.

Bydd nodi rhif neu enw'ch tŷ ar eich cynwysyddion yn ei wneud yn haws i'r criwiau casglu a'ch cymdogion eu dychwelyd.

Bydd ein criwiau yn codi deunydd y maent wedi'u gollwng a efallai y gallant godi eitemau sydd wedi'u chwythu yn agos at gynwysyddion, ond ni allant bob amser godi eitemau sydd wedi chwythu bellteroedd maith i lawr y stryd. Os gwelwch yn dda, gwnewch bopeth y gallwch i atal gwastraff rhag cael ei chwythu gan y gwynt, a rhowch wybod am unrhyw broblemau sbwriel difrïol:

https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/C%C5%B5n-Iechyd-yr-Amgylchedd-a-Safonau-Masnach/Troseddau-amgylcheddol/Ysbwriel-ar-y-stryd.aspx