Chwilio am fusnesau lleol a sefydliadau yng Ngwynedd i gynnig cyfleoedd cyflogaeth

Dyddiad: 20/09/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am fusnesau, mudiadau a sefydliadau eraill yn lleol fyddai’n gallu cynnig cyfleodd i oedolion sydd ag anableddau dysgu i gymryd cam tuag at y byd gwaith.

Bwriad y cynllun – sy’n cael ei weithredu trwy Tîm Anabledd Dysgu yng ngwasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd – yw cefnogi oedolion sydd ag anableddau neu anawsterau eraill i gael mynediad i gyfleodd cyflogaeth.

Yng Ngwynedd, mae bron i 100 o unigolion ar Gynllun Cyfleoedd Gwaith Cyngor Gwynedd, ac yn cael hyfforddiant a phrofiad yn y byd gwaith go iawn. Drwy ennill sgiliau newydd a magu hyder, y gobaith yw eu bod yn gallu symud ymlaen i fod mewn gwaith cyflogedig hir dymor a chyfrannu i’r gymuned, ac yn wir mae 37 bellach wedi cymryd y cam hwn. 

Ar hyn o bryd, mae gan y gwasanaeth gytundebau gyda Cyngor Tref Caernarfon, archfarchnadoedd, mudiadau a busnesau fel Williams Homes yn Bala, Siop Llanaelhaearn a Premier Inn Porthmadog.

Dau o’r unigolion sy’n gweithio’n rheolaidd diolch i’r cynllun yw Iwan a Llŷr.

Mae Iwan yn gwneud gwaith cynnal a chadw i Gyngor Tref Caernarfon, ac yn gyfrifol am gadw adnoddau Parc Coed Helen yn lân a thaclus.

Meddai: “Dwi’n cadw’r lle yn lan a twt. Dwi’n checio os ydi’r parc yn lan, yn llnau ac yn agor y toiled ac yn llnau’r changig rooms. Dwi’n licio’r gwaith.”

Mae Llŷr yn gerddor talentog ac yn gweithio i gwmni o’r enw Bwthyn Sonic yn canu’r piano i wahanol gynulleidfaoedd yng Ngwynedd a Môn.

Eglurodd Richard ‘Jonjo’ Jones, Gweithiwr Cefnogi Cyfleodd Gwaith o fewn gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd:

“Dwi wrth fy modd yn gweld y bobl dwi’n gweithio gyda nhw yn cael gwaith a chyflog, fel arall mi fyddan nhw mewn gwasanaeth dydd ac o bosib ddim yn cyrraedd eu llawn botensial o fedru ysgwyddo cyfrifoldeb a gallu cyfrannu’n llawn i gymdeithas.

“Mae ymchwil gynhaliwyd gan Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn dangos fod dau o bob tri o oedolion gyda anabledd dysgu yn dweud eu bod eisiau gwaith cyflogedig. Ond ar hyn o bryd, yn anffodus, mae llai na 5% yng ngogledd Cymru sydd yn ennill cyflog. Drwy weithio efo’n gilydd, gallwn i gyd fod yn rhan o’r jig-so i gael mwy o bobl i fewn i’r byd gwaith.

“Mae llawer o waith yn mynd ymlaen yn y cefndir i gael y lleoliad gwaith cywir i’r unigolyn, rydan ni’n trafod efo nhw ac yn siarad efo’u teuluoedd er mwyn eu paratoi ar gyfer y gweithle.

“Rydan ni hefyd yn cefnogi’r busnes neu sefydliad er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen ac mae hyfforddiant hefyd ar gael. Mae’n bosib trefnu profiad gwaith i ddechrau cyn symud ymlaen at gyflogaeth llawn.

“Os oes yna fusnes neu sefydliad allan yna fyddai’n hoffi bod yn rhan o’r cynllun – o fusnes bach teuluol i gwmni neu elusen mawr – byddwn wrth ein bodd i gael siarad gyda chi a gweld beth sy’n bosib.

“Drwy fod yn rhan o’r cynllun gallwch newid byd unigolyn a’u teulu. Mae cael gweithio ochr-yn-ochr a phobl eraill ac ennill cyflog yn rhoi balchder a hunan hyder anfesuradwy. Mae pawb sy’n rhan o’r broses ar eu hennill ac yn dysgu o’r profiad.”

Am fwy o wybodaeth ac am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r tîm drwy CyfleoeddGwaith@gwynedd.llyw.cymru