Cyngor Gwynedd yn bwrw mlaen i fuddsoddi mewn cynllun ynni gwyrdd

Dyddiad: 23/11/2022

Bydd Cyngor Gwynedd yn buddsoddi £2.8 miliwn mewn cynllun ynni glan, fydd yn arwain at arbediad refeniw blynyddol o fwy na £500,000.

Yn ei gyfarfod ar 22 Tachwedd, cymeradwyodd y Cabinet yr argymhelliad i fuddsoddiad mewn paneli PV fydd yn cynhyrchu trydan o ynni’r haul. Daw’r arian cyfalaf o gronfeydd y Cyngor a bydd yn arwain at arbedion refeniw parhaol yn syth fel cyfraniad i gynllun arbedion y Cyngor.

Mae paneli solar cynhyrchu trydan eisoes wedi eu gosod ar adeiladau’r Cyngor, sy’n golygu nad oes angen prynu cymaint o drydan o’r grid cenedlaethol ac felly’n arwain at arbediad. Bydd y buddsoddiad yma’n cael ei wneud fel rhan o’r pedwerydd gwedd y cynllun ar gyfer 54 o adeiladau’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai ac Eiddo:

“Mae’r argyfwng hinsawdd yn rhywbeth sy’n dychryn nifer fawr ohonom ond dwi’n cymryd cysur o’r ffaith fod cynlluniau fel hwn yn gallu cyfrannu’n fawr at gwtogi ein dibyniaeth ar ynni traddodiadol sy’n gollwng carbon i’r atmosffer. Rydym am i Wynedd fod yn sir werdd a glan ac yn benderfynol o wneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol tra’n gwarchod ein amgylchedd fregus.

“Mae’n amserol ein bod yn gallu cyhoeddi’r penderfyniad yma yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2022. Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon o 40% erbyn 2021 a trwy gyfuniad o gynlluniau rydym eisoes wedi mynd tu hwnt i hyn yn gynharach na’r disgwyl.

“Nid yn unig yr ydym yn buddsoddi i wneud ein hadeiladau cyhoeddus a’n gwasanaethau yn fwy eco-gyfeillgar, ond rydym hefyd yn cefnogi cynlluniau sy’n helpu pobl leol i leihau ôl-droed carbon, er enghraifft trwy helpu i insiwleiddio cartrefi a darparu pwyntiau gwefru ceir trydan.”

Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, ble mae prisiau tanwydd a chostau eraill ar gynnydd, mae buddsoddiadau o’r fath hefyd yn gwneud synnwyr.

Eglurodd y Cynghorydd Craig ab Iago: “Nid ydym yn gwybod beth fydd costau ynni yn y dyfodol, ac mae’n annhebygol y byddent yn agos i’r 16.5c yr uned roedd y Cyngor yn ei dalu cyn yr hydref yn y blynyddoedd nesaf. Oherwydd hyn rydym yn hyderus y bydd y cynllun yn ad-dalu o fewn tua 10 mlynedd.”

Bydd y gwaith dylunio, tendro a gosod ar safle yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn nesaf.