Cyngor Gwynedd yn gwneud defnydd da o wastraff bwyd

Dyddiad: 21/11/2022

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, mae 8-10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd yn dod o’n gwastraff bwyd. Mae hyn yn cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd, ond mae newidiadau bach y gall pawb ohonom eu gwneud yn ein bywydau bob dydd i beri newid er gwell.

Mae rhywfaint o wastraff bwyd yn anochel ac nid yw’n golygu eich bod yn wastraffus.

Efallai eich bod yn meddwl nad yw pethau fel plicion, plisgyn wy ac esgyrn yn dda i ddim, ond gall Cyngor Gwynedd wneud defnydd da ohonynt – y cyfan sy’n angen i chi ei wneud yw eu rhoi yn eich bin brown i’w casglu bob wythnos.

Bob blwyddyn, mae dros 11,000 o dunelli o wastraff bwyd yn cael ei droi’n drydan a chompost ar safle Gwyriad y Cyngor ger Clynnog Fawr.

Gall holl gartrefi Gwynedd gael biniau gwastraff bwyd brown am ddim – cadi bach a fydd yn ffitio’n hawdd mewn cwpwrdd o dan y sinc neu ar gownter y gegin, a bin mwy i’w roi allan ar ddiwrnod casglu, yn ogystal â bagiau leinio am ddim.

Os nad oes gennych chi un eisoes, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/ArchebuBin i archebu un.