Cyngor Gwynedd yn penodi Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol newydd

Dyddiad: 07/11/2022
Ian-Jones

Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Ian Jones yn bennaeth newydd Adran Cefnogaeth Gorfforaethol. Mae’n olynu Geraint Owen, a benodwyd yn Gyfarwyddwr Gorfforaethol newydd y Cyngor yn ddiweddar.

Wedi ei fagu yng Nghaernarfon gan fynychu Ysgol Y Gelli ac Ysgol Syr Hugh Owen, mae wedi gweithio ym myd Llywodraeth Leol ers 1988 ac yn Rheolwr Siartredig.

Wrth gael ei benodi, dywedodd: “Mae’n fraint o’r mwyaf cael fy newis fel Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol newydd Cyngor Gwynedd.

“Ers i mi ymuno gyda Chyngor Sir Gwynedd ac yna Cyngor Gwynedd mae wedi bod yn bleser cael gweithio gyda staff mor ymroddgar a phroffesiynol.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd o fewn yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, ac i arwain y tîm talentog o swyddogion sydd gennym er mwyn parhau i roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.”

Meddai’r Cynghorydd Menna Jones, Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd:

“O ofal cwsmer i wasanaethau cefnogol, mae yna ystod eang o wasanaethau o fewn yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol sy’n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi gwaith y Cyngor. Mae gan Ian profiad helaeth yn y maes yma ac rwyf yn edrych ymlaen at gyd-weithio gydag ef.

“Rydym yn diolch yn fawr i Geraint Owen am ei holl waith dros y blynyddoedd fel Pennaeth yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol ac yn falch o gael parhau i gyd-weithio gydag ef yn ei rôl newydd fel un o Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor.”