Cyngor Gwynedd yn rhoi gofal arbennig i ddwy warchodfa natur

Dyddiad: 21/11/2022
Dros y misoedd nesaf, bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio â gwirfoddolwyr a mudiadau lleol ar waith cynnal a chadw hanfodol ac ar welliannau pellach ar warchodfeydd natur Morfa Madryn a’r Foryd.

 

Mae Morfa Madryn, sydd rhwng Llanfairfechan ac Abergwyngregyn; a’r Foryd, sydd rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle; ill dwy yn gynefinoedd hynod werthfawr ar gyfer adar y môr sy’n bwydo ar gyfoeth y mwd a’r hesg. Mae’r ddau safle gerllaw Llwybr Arfordir Cymru ac yn lleoedd gwych i werthfawrogi byd natur Gwynedd ar ei orau.

 

Mae’r gwaith yn cael ei ariannu’n rhannol gydag arian grant drwy gronfa Partneriaethau Natur Lleol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Mae’r Foryd yn adnabyddus yn lleol fel rhywle i fynd i grwydro a mwynhau awyr iach a golygfeydd y Fenai, ond mae hefyd, yn anffodus, yn denu gwersyllwyr anghyfreithlon.

 

“Mae hynny’n gallu arwain at broblem sbwriel, ymddygiad gwrth-gymdeithasol a niwed i fywyd gwyllt. Er mwyn helpu i leihau’r problemau bydd y Cyngor yn gosod cloddiau pridd i rwystro mynediad i wersyllwyr a phlannu’r safle o’u mewn fel rhan o ddôl blodau gwyllt.

 

“Bydd mwy o gyfleusterau picnic cyfrifol yn cael eu datblygu hefyd, a bydd cuddfan newydd sbon yn cael ei gosod, a honno wedi ei gwneud o hen gynhwysydd cludo nwyddau ar longau.”

 

Morfa Madryn yw un o’r llefydd gorau yng Nghymru i weld y gornchwiglen, ond gan fod yr aderyn bach hynod hwn yn adeiladu ei nyth ar y ddaear mae’n agored i adar fel brain neu anifeiliaid fel llwynogod  ddwyn ei wyau neu gywion. Mae cŵn hefyd yn gallu aflonyddu arnynt, a hawdd iawn fyddai i bobl sathru ar nyth yn ddamweiniol, felly mae’n holl bwysig cynnal ffensys i’w gwarchod.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Er mwyn creu bwyd i’r adar, bydd dolydd blodau gwyllt yn cael eu plannu gerllaw a bydd y gwair yn cael ei bori’n briodol, ar amseroedd priodol, gan wartheg.

 

“Yr hyn sy’n rhyfeddol yw bod Morfa Madryn wedi ei greu yn wreiddiol allan o safle oedd yn cael ei ddefnyddio i storio gwastraff adeiladu’r A55!”

 

Erbyn y gwanwyn bydd llawer iawn o’r gwaith cynnal a chadw ac adeiladu o’r newydd wedi ei gwblhau a’n bwriad felly yw cynnal diwrnod agored ym Morfa Madryn er mwyn denu mwy o wirfoddolwyr.

 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y Bartneriaeth Natur Leol cysylltwch â: partneriaethnatur@gwynedd.llyw.cymru