Help efo costau byw

Dyddiad: 08/11/2022
Cynhelir cyfres o ffeiriau gwybodaeth ledled Gwynedd i helpu pobl leol gyda costau byw.

Wrth i gostau byw godi’n uwch nag erioed, mae Cyngor Gwynedd yn gwneud popeth o fewn ei allu i helpu pobl leol ddygymod â’r argyfwng y gaeaf hwn. Mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau fod pobl leol yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol maent yn gymwys amdano.

Trefnwyd y sesiynau hyn a chrëwyd tudalen benodol ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw gyda’r bwriad o ddarparu cymorth ymarferol i bobl Gwynedd.

Bydd mwy na dwsin o wasanaethau a sefydliadau gwahanol yn cael eu cynrychioli yn ystod y sesiwn galw heibio, gan gynnwys:

  • Cyngor Gwynedd – cyngor am fudd-daliadau, biliau ynni, chwilio am waith, gwasanaethau ieuenctid, cymorth i deuluoedd sydd efo plant.
  • Nyth – Gwasanaeth Llywodraeth Cymru i gynghori pobl am gynhesu eu cartrefi.
  • Gwasanaeth Gwaith a Phensiwn y Llywodraeth.
  • Scottish Power
  • Cymdeithasau Tai Adra, Grŵp Cynefin a Tai Gogledd Cymru.
  • Dŵr Cymru.
  • Cyngor ar Bopeth (CAB).
  • Y Dref Werdd – Menter gymdeithasol yn gweithio er budd yr amgylchedd a’r gymuned.

Bydd y ffair wybodaeth yn ymweld a’r lleoliadau canlynol:

  • Canolfan Hamdden Dolgellau – 8/11/2022, 3.30-5.30pm.
  • Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth – 15/11/2022, 9.30am-2.30pm.
  • Neuadd Goffa Harlech – 22/11/2022, 3.30-6.30pm.
  • Canolfan Nefyn – 24/11/2022, 9.30-11.30am.
  • Coed Mawr, Bangor – 29/11/2022, 3.30-6.30pm.
  • Canolfan Talysarn – 6/12/2022, 3.30-6.30pm.
  • Noddfa, Caernarfon – 08/12/2022, 3.30-630pm.
  • Tŷ Elidir, Deiniolen – 13/12/2022, 3.30-6.30pm.