Pwyllgor Iaith Gwynedd yn galw ar y Llywodraeth i ddangos mwy o ymrwymiad i'r iaith

Dyddiad: 24/11/2022

Mae Cadeirydd Pwyllgor Iaith Cyngor Gwynedd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw arnynt i ddangos mwy o ymrwymiad i’r iaith drwy ddarparu cyfieithu ar y pryd yn ddiofyn yn eu cyfarfodydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Elfed ap Elwyn byddai hyn yn gam mawr tuag at normaleiddio defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith ac annog mwy o weithwyr sector cyhoeddus ar draws Cymru i ddefnyddio’r iaith.

 

Yn ôl y Cynghorydd Elfed ap Elwyn, os am gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n hanfodol i’r Llywodraeth arwain drwy esiampl a gwneud mwy na’r isafswm i gwrdd â Safonau y Gymraeg.

 

Meddai’r Cynghorydd Elfed ap Elwyn, Cadeirydd Pwyllgor Iaith Cyngor Gwynedd: “Mae’n destun siom a rhwystredigaeth i mi fod rhaid i siaradwyr Cymraeg ofyn am wasanaeth cyfieithu mewn cyfarfodydd. Rydw i wedi gofyn i’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg pa ymdrechion rhagweithiol sy’n cael eu gwneud gan y Llywodraeth er mwyn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfodydd ac annog siaradwyr Cymraeg – eu swyddogion eu hunain neu swyddogion sefydliadau eraill – i ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyfarfodydd.

 

“Rydw i hefyd eisiau gwybod pa ymdrechion sy’n cael eu gwneud o fewn adrannau’r llywodraeth i hybu a hyrwyddo’r iaith a sicrhau bod swyddogion yn ymwybodol o ofynion Safonau’r Gymraeg wrth gynnig i fynychwyr gyfrannu i gyfarfodydd yn Gymraeg.

 

“Yn syml, hoffwn weld y Llywodraeth yn dilyn esiampl Cyngor Gwynedd a darparu cyfieithu ar y pryd yn ddiofyn.”

 

Mae’r Cynghorydd ap Elwyn wedi datgan ei bryder nad yw’r Safonau sydd yn ymwneud â chyfarfodydd yn mynd ddigon pell wrth warchod hawliau siaradwyr Cymraeg.

 

“Mewn gwirionedd, mae’r drefn ar hyn o bryd yn rhoi’r baich ar siaradwyr Cymraeg i ofyn am wasanaeth nad ydyn nhw eu hunain yn ei ddefnyddio,” meddai. “Rydw i’n pryderu fod hyn yn ei hun yn rhwystr i bobl sydd eisiau defnyddio eu Cymraeg.”

 

Ategwyd alwad y Pwyllgor Iaith gan yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg ar Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Menna Jones. Meddai: “Rydw i’n cefnogi cais fy nghyd gynghorydd ac yn edrych ymlaen i glywed ateb y Gweinidog.

 

“Fel Cyngor, rydym wedi gweithio’n galed ers blynyddoedd i arwain y ffordd a sicrhau fod y Gymraeg yn iaith gwaith yn ogystal a iaith gymunedol. Mae’r siwrne wedi teimlo’n unig ar brydiau, felly dwi’n falch o weld fod sefydliadau eraill fel Cymdeithas Bêl-Droed Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri wedi cymryd camau breision yn ddiweddar i normaleiddio’r defnydd o’n iaith a’n enwau cynhenid Cymreig.

 

“Rydw i’n galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y cyfle hwn i ymrwymo i gynnal cyfarfodydd yn Gymraeg lle bynnag y bo hynny’n bosib, a darparu cyfieithu ar y pryd yn ddiofyn. Drwy wneud hyn byddent yn cymryd cam enfawr ymlaen wrth godi statws y Gymraeg yma yn ein gwlad ein hunain.”