Taclo fandaliaeth a graffiti hiliol ar Lôn Las Ogwen
Dyddiad: 09/11/2022
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r Tynal Tywyll ar lwybr Lôn Las Ogwen rhwng Tregarth a Bethesda wedi dioddef sawl achos o graffiti a hefyd fandaliaeth sydd wedi difrodi’r goleuadau yn y twnnel.
Mae llawer o’r graffiti yn cyfleu negeseuon di-sail ynglŷn â brechlyn Cofid ac yn ddiweddar mae wedi cynnwys cyfeiriadau hiliol eithafol.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Mae Lôn Las Ogwen yn lwybr hynod boblogaidd ac mae teuluoedd o bob oed wedi bod yn falch i allu teithio trwy’r hen dwnnel reilffordd dros y blynyddoedd diweddar.
“Mae’n drist iawn clywed am yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol, a’r hiliaeth yn arbennig. Fandaliaeth ddi-hid yw’r graffiti sy’n creu pryder i ddefnyddwyr y Lôn Las ac ni ddylid ei ddioddef.
“Yn ogystal â’r pryder mae’r graffiti hyll yn ei achosi i drigolion sy’n defnyddio’r llwybr, mae costau glanhau'r graffiti ac atgyweirio difrod yn cymryd adnoddau prin ac amser staff. Dyma arian ac amser y gallai’r Cyngor fod yn ei ddefnyddio'n well i gynnal a gwella Lôn Las Ogwen.
“Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif yn difetha mwynhad pobl leol ac ymwelwyr sy’n dod o bob rhan o’r byd sy’n defnyddio Lôn Las Ogwen, ac yn difrïo grŵp lleiafrifol fel hyn. Rydym yn erfyn ar y rhai sy’n gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda’r Heddlu.”
Meddai’r Arolygydd Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae graffiti yn drosedd, mae'n gostus cael ei wared ac nid yw heb ddioddefwyr. Gall gael effaith sylweddol ar y rhai sy'n cael eu targedu ac rydym bob amser yn annog pobl i adrodd i ni fel y gallwn ymchwilio.
“Ni fydd y math hwn o droseddu yn cael ei oddef a bydd yn ymdrin ag o yn gadarn, felly byddwn yn annog pobl i fod yn wyliadwrus, riportio troseddau a’n ffonio ni ar 999 os ydyn nhw’n gweld trosedd ar y gweill.”
Mae’r digwyddiad wedi ei adrodd i’r Heddlu. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiadau yma, dylid cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu www.northwales.police.uk gan nodi rhif digwyddiad B132336.
Nodiadau:
- Mae Lôn Las Ogwen yn llwybr cerdded, beicio a marchogaeth 7 milltir o hyd sy’n ymestyn o Borth Penrhyn Bangor i Fethesda. Fe’i ddatblygwyd dros gyfnod o 20 mlynedd. Y rhan olaf i’w gwblhau oedd ail agor yr hen dwnnel rheilffordd yn 2018 sy’n cael ei adnabod fel y Tynal Tywyll. Yn dilyn y gwaith yma roedd posibl teithio oddi ar y ffordd rhwng Tregarth a Bethesda.
- Mae Lôn Las Ogwen yn rhan allweddol o rwydwaith llwybrau Teithio Llesol Gwynedd sy’n caniatáu teithio ar droed neu feic rhwng cymunedau Dyffryn Ogwen a Bangor.