Gweithio i ni
Mae gan Gyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol:
Cynllun pensiwn
Mae'r Cyngor yn gweithredu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae gwybodaeth am y gronfa ar gael ar wefan Cronfa Bensiwn Gwynedd.
Mae Polisi ymddeol, ymddeoliad cynnar ac ymddeoliad hyblyg Gwynedd wedi ei atodi ar waelod y dudalen hon.
Cyflogau
Rydym yn cynnig cyflogau teg sydd wedi eu harfarnu drwy'r adolygiad tâl lleol.
Gwyliau
Mae gan weithwyr y Cyngor hawl i rhwng 21 a 30 diwrnod o wyliau'r flwyddyn yn ddibynnol ar raddfa'r swydd. Yn ogystal, mae gan weithwyr hawl i 8 diwrnod o wyliau banc / gwyliau cyhoeddus a 3 ½ diwrnod arall.
Absenoldebau arbennig
Yn ogystal â'r gwyliau uchod, gellir caniatáu absenoldeb gyda thâl mewn amgylchiadau arbennig er enghraifft, i symud tŷ, profedigaeth, apwyntiadau meddygol, ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus.
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Mae'r Cyngor yn cynnig nifer o gyfleoedd gweithio'n hyblyg er mwyn helpu gweithwyr i daro cydbwysedd iach rhwng bywyd cartref a gwaith. Gall gweithiwr fanteisio o'r trefniadau canlynol:
- Cynllun gweithio oriau ystwyth (ble mae amgylchiadau'n caniatáu)
- Cynllun rhannu swydd (ble mae amgylchiadau'n caniatáu)
- Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
- Absenoldeb ychwanegol heb dâl i rieni a gofalwyr a chyfle i weithio'n hyblyg os oes angen.
Hyfforddiant a datblygu
Mae Cyngor Gwynedd yn gweld gwerth uchel mewn buddsoddi yn ei adnodd pwysicaf - sef ei weithwyr. Gall pob gweithiwr ddisgwyl:
- Proses anwytho ffurfiol ac adolygiadau perfformiad parhaus
- Ystod eang o gyfleodd hyfforddi a datblygu mewnol ac allanol
- Cyfraniad tuag at aelodaeth o gyrff proffesiynol sy'n berthnasol i'r gwaith.
Iechyd a Diogelwch
Mae'r Cyngor yn ymdrechu i gyflawni'r safonau uchaf bosib wrth reoli iechyd, diogelwch a lles ei weithwyr.
Buddiannau ychwanegol
Mae nifer o fuddiannau pellach i'w cael o weithio i Gyngor Gwynedd, gan gynnwys:
- Cyfle i weithio mewn awyrgylch Gymraeg - Cymraeg yw iaith weinyddol swyddogol y Cyngor
- Cynllun cymorth i brynu car
- Mae nifer o ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd a lles yn cael eu cynnal i staff
- Cyfleusterau parcio ar gael i staff yn rhan fwyaf o swyddfeydd y Cyngor
- Profion llygaid am ddim, i swyddogion sy'n gwneud defnydd rheolaidd o Sgriniau Arddangos Gweledol (VDU's)
- Gwasanaeth Cwnsela MEDRA - gwasanaeth cwnsela cyfrinachol i swyddogion y Cyngor
- Darperir gwisg ac offer diogelwch priodol ar gyfer staff mewn swyddi penodol.
Am ragor o wybodaeth am becyn cyflogaeth Cyngor Gwynedd cysylltwch â ni ar (01286) 679951 neu defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau.