Cadw'n ddiogel

Diolch yn fawr am eich ymdrechion dros y misoedd i gadw eich hun, eich teulu a’n cymunedau yn ddiogel. Mae eich ymdrechion yn cyfrannu at leihau lledaeniad Covid-19 yma yng Ngwynedd.

Mae hi’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn dal ati i gadw at y rheolau er mwyn cadw’n iach. 

 

 

Gall gadael awyr iach i mewn leihau'r risg o ddal coronafeirws hyd at 70%

Os yw eich aelwyd estynedig neu ymwelwyr hanfodol, fel gweithwyr, yn eich cartref, neu os ydych yn byw gyda rhywun sydd â coronafeirws, agorwch ffenestri am gyfnodau byr o tua 10-15 munud.

 

Mwy o wybodaeth am gadw yn ddiogel ar gael yma, ynghyd â beth i’w wneud os oes gennych chi neu rywun yn eich teulu symptomau Covid-19.