Cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwneud sylw / cwyn ar-lein am y Gwasanaethau Cymdeithasol 

Mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn ein helpu i wella'n gwasanaeth. Os ydych yn anhapus ag unrhyw agwedd ar eich gofal cymdeithasol, rhowch wybod i ni gynted â phosib fel y gallwn weithio ar y broblem.

Rydym hefyd am gael gwybod pan fo pethau'n mynd yn dda neu os oes gennych syniadau ynghylch sut y gallwn wneud pethau'n wahanol neu'n well.

 

Pwy all wneud cwyn?

  • unrhyw un sy'n derbyn gwasanaeth neu riant / gwarcheidwad
  • unrhyw un sy'n credu y gwrthodwyd gwasanaeth iddo'n annheg
  • cynrychiolydd (e.e. cyfreithiwr, eiriolwr), perthynas neu ffrind i'r un sy'n derbyn gwasanaeth (neu sy'n credu y dylent). Fel arfer, byddwch angen caniatâd gan y person hwn neu brawf fod gennych ddiddordeb yn eu lles.

 

Beth sy'n digwydd pan fydda i'n gwneud cwyn?

Byddwn yn:

  • gofyn i chi esbonio'r broblem
  • gofyn i chi beth hoffech chi i ni ei wneud i wella pethau
  • cydnabod eich cwyn ac yn cadarnhau beth fydd yn digwydd nesaf
  • ceisio canfod beth aeth o'i le
  • rhoi gwybod i chi lle rydym arni
  • ymateb yn ysgrifenedig, yn y fformat mwyaf addas.

 

Beth sy'n digwydd os nad ydw i'n fodlon?

Mae opsiynau pellach yn cynnwys:

 

Cysylltu â ni

Defnyddiwch y manylion isod i wneud sylw / cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig.

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd:

Gallwch siarad ag unrhyw aelod o staff Gwasanaethau Cymdeithasol, a byddant yn pasio'ch pryder neu'ch sylw ymlaen i'r Swyddog Gofal Cwsmer priodol.