Iechyd Meddwl

Gall problemau iechyd meddwl effeithio unrhyw un ar unrhyw amser. Mae ein timau iechyd meddwl cymunedol yn cynnig help a gwasanaethau i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl a'u gofalwyr. Mae'r timau'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsus, therapyddion galwedigaethol a seicolgwyr. 


Llyfryn gwybodaeth: Edrych ar ôl fy hun

 

Gallwn:

  • ddarparu triniaeth a gofal i bobl ag anghenion iechyd meddwl tymor byr neu anghenion tymor hir mwy cymhleth
  • eich helpu i gael cymorth personol tymor hir i'ch helpu i fyw mor annibynnol â phosib
  • cynnig cyngor a rhannu manylion cyswllt sefydliadau defnyddiol
  • cefnogi gofalwyr.


Cysylltu â ni

Os ydych yn teimlo eich bod chi neu rywun arall angen y gefnogaeth hon, gofynnwch i'ch meddyg eich cyfeirio atom, neu cysylltwch ag un o'n timau:

  • Tîm Iechyd Meddwl de Gwynedd: 03000 850027   
    Ysbyty Alltwen, Tremadog, Porthmadog, Gwynedd
  • Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Arfon: 01248 363470 
    Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd