Gall rhieni disgyblion Blwyddyn 6 ddefnyddio'r ffurflen isod i wneud cais ar-lein i’ch plentyn gael mynychu un o ysgolion uwchradd Gwynedd ym mis Medi 2021.
Neu gallwch lawrlwytho ffurflen gais a'i dychwelyd i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi arni.
Lawrthlytho ffurflen: Cais am le mewn ysgol uwchradd
Bydd rhaid gwneud cais cyn 18 Rhagfyr 2020 (ar gyfer mynediad Medi 2021).
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i banel annibynnol.
Am fwy o wybodaeth am bolisi mynediad ysgolion Gwynedd, ewch i'r Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni.
Gallwch weld yn nalgylch pa ysgol mae eich cartref drwy chwilio am eich côd post ar Lle dwi'n byw.
Os ydych yn byw yng Ngwynedd ond yn dymuno anfon eich plentyn i ysgol mewn sir arall, mae rhaid i chi gysylltu efo’r sir honno a dilyn eu trefn nhw.