skip to main content
Fy Nghyfrif
English
Cyngor Gwynedd
Yr Iaith Gymraeg
Cartref
>
Y Cyngor
>
Swyddi a Gyrfaoedd
>
Gweithio i Wynedd
>
Buddion o Weithio i Ni
>
Yr Iaith Gymraeg
Yma yng Nghyngor Gwynedd cewch gyfle i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws pob swydd, sector ac ardal o fewn y Sir.
Cymraeg yw prif iaith weinyddol y Cyngor. Golygai hyn ein bod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad sydd yn defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd yn y gweithle.
Drwy ymuno â ni, gallwch fanteisio ar gyfleon i ddatblygu eich sgiliau ieithyddol. Mae hyfforddiant yn cael ei gynnig i ddysgu Cymraeg ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, a hynny ar draws pob lefel.
Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru ac hefyd yn cymryd camau pellach i hybu ac hwyluso defnydd o’r Gymraeg ar draws y Sir drwy ein Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd.
Am fwy o wybodaeth:
Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd 2022
Fframwaith iaith Gwynedd
Yr iaith Gymraeg yng Ngwynedd
Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-2023
Chwilio am swydd
Gweld holl swyddi
Tanysgrifio i'r bwletin swyddi
Cefnogaeth i Waith