Hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd gwefan Cyngor Gwynedd
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i wefan Cyngor Gwynedd, sef www.gwynedd.llyw.cymru ac i blatfform hunanwasanaeth Cyngor Gwynedd: https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/
Cyngor Gwynedd sy'n cynnal y wefan, ac rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu ei defnyddio. Mae hyn yn golygu y dylech, er enghraifft, allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- closio i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan drwy ddefnyddio darllenydd sgrin (er enghraifft NVDA)
Adborth a manylion cyswllt
Os ydych chi angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, er enghraifft, PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd i’w ddarllen, braille ac yn y blaen, cysylltwch â:
Byddwn yn ystyried eich cais, ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod i ni am broblemau efo'r wefan
Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o wella hygyrchedd ar y wefan. Os ydych yn dod ar draws problem sydd ddim yn cael ei rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn teimlo nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni: gwefan@gwynedd.llyw.cymru
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (Cyswllt allanol).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
Mae nifer o wahanol ffyrdd o gysylltu â ni: www.gwynedd.llyw.cymru/cysylltu
Mae dolenni cyflwyno sain ar gael yn nerbynfeydd Siop Gwynedd.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ar y wefan
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2).
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol gyda safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (cyswllt allanol) o ganlyniad i'r enghreifftiau nad ydynt yn cydymffurfio a restrir isod.
- Nid yw’r cyferbyniad lliw yn ddigonol mewn rhai rhannau o’r wefan. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 AA creiteria 1.4.3 (Cyferbyniad). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth uchel yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
- Does dim label gweladwy er mwyn egluro pwrpas ar rhai o’r meysydd mewnosod (input fields). Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 3.3.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth uchel yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
- Does dim disgrifiad ar rai o'r meysydd mewnosod (input fields). Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 3.3.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
- Does dim geiriad yn y pennawd ar rai tudalennau. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas). Byddwn yn cywiro y mater yma dros amser fel rhan o’r gwaith o adolygu pob tudalen.
- Mae'r un testun yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lincs sy'n arwain i wahanol dudalennau. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 2.4.4 (Pwrpas linc). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
- Rhai lincs ond yn bosib eu hadnabod efo lliw. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 1.4.1 (Defnydd o liw). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
- HTML yn cael ei ddefnyddio i fformatio peth cynnwys megis data tabular. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
- Cyrchfan linc lleol ddim yn bodoli ar rai tudalennau. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A s criteria 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas). Byddwn yn cywiro y mater yma dros amser fel rhan o’r gwaith o adolygu pob tudalen.
- Rhai elfennau IDs ddim yn unigryw. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 4.1.1 (Parsing). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
- Dim teitl ar gyfer yr iFrame. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â meini prawf y WCAG 2.1 A criteria 4.1.2 (Enw, Pwrpas, Gwerth). Mae hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth yn ein cynllun i wella hygyrchedd ar draws y wefan.
Gwelliannau afresymol
Mae peth o’r hen gynnwys yn defnyddio y tag 'bold' er mwyn tynnu sylw i destun. Mae hyn yn golygu nad ydym yn cwrdd â gofynion y WCAG 2.1 A criteria 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas). Rydym wedi uwchraddio ein System Rheoli Cynnwys sydd yn golygu ein bod erbyn hyn yn defnyddio y tag “strong”. Rydym yn ystyried ei bod yn anymarferol i ni fynd drwy'r holl dudalennau hanesyddol i addasu y tag hwn.
Rydym hefyd yn ymwybodol nad yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin.
Byddwn yn ceisio lleihau ein defnydd o PDFs ar y wefan ac yn sicrhau bod pob PDF sydd yn cael ei gyhoeddi o’r newydd ar y wefan yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae rhaglen waith mewn lle er mwyn cyfarch y materion sydd wedi eu nodi yn y datganiad hwn. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i’r materion sydd wedi eu hadnabod fel blaenoriaeth uchel. Byddwn yna yn symud ymlaen i wella y materion gyda blaenoriaeth is. Bydd rhai o’r materion yn cael eu cyfarch fel rhan o’r gwaith dydd i ddydd o adolygu tudalennau ar y wefan.
Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd er mwyn adrodd ar ein cynnydd.
Paratoi y datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Medi 2020.
Cafodd holl dudalennau y wefan eu profi ddiwethaf ar 14 Hydref 2020 gan Siteimprove.com
Cafodd 125 o dudalennau hefyd ei profi drwy Silktide.com yn ystod mis Hydref 2020.
Fe brofwyd: