Datganiadau preifatrwydd a chwcis

Newid gosodiadau cwcis

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd pan rydych yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae’r datganiadau isod yn esbonio sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, sut rydym yn gwarchod eich preifatrwydd a beth yw eich hawliau.

 Datganiadau preifatrwydd gwasanaethau'r Cyngor

 

Gwybodaeth bersonol: Unrhyw beth sy’n gallu cael ei ddefnyddio i adnabod unigolyn byw, er enghraifft enw a chyfeiriad.


Gwybodaeth sensitif: 
Mae rhai mathau o wybodaeth amdanoch chi yn fwy arbennig ac angen eu gwarchod yn fwy gan eu bod yn sensitif (gwybodaeth categori arbennig) sef:

  • Credoau gwleidyddol neu athronyddol
  • Bywyd rhywiol a rhywioldeb
  • Iechyd
  • Ethnigrwydd
  • Aelodaeth undeb llafur
  • Data genetig neu biometrig (olion bysedd neu technoleg adnabod wyneb)
  • Cofnodion troseddol.

Rydym angen defnyddio gwybodaeth amdanoch chi er mwyn:

  • Cynnig gwasanaethau a rhoi cefnogaeth i chi
  • Rheoli gwasanaethau
  • Ymchwilio i gwynion
  • Edrych ar ansawdd gwasanaethau
  • Gwneud yn siwr bod gwariant yn briodol
  • Helpu i ymchwilio wasanaethau newydd a’u cynllunio

Mae nifer o resymau cyfreithiol pam fod angen i ni gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth ydi’r rheswm wrth gasglu’r wybodaeth gennych. Fel rheol byddwn yn gwneud hynny lle

  • rydych chi wedi rhoi eich caniatâd
  • mae gennych gontract efo ni
  • mae angen er mwyn i ni gyflawni ein dyletswyddau statudol
  • mae angen er mwyn gwarchod rhywun mewn argyfwng
  • mae’r  gyfraith yn dweud bod rhaid
  • mae angen am resymau cyflogaeth
  • mae angen er mwyn darparu gwasanaethau iechyd neu gofal cymdeithasol
  • rydych chi eisoes wedi gwneud eich gwybodaeth yn gyhoeddus
  • mae angen ar gyfer achosion cyfreithiol
  • mae angen er budd cymdeithas
  • mae angen i warchod iechyd cyhoeddus
  • mae angen i bwrpas archifo, ymchwil neu bwrpasau ystadegol. 

Os ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth, mae gennych yr hawl i’w dynnu nôl ar unrhyw adeg. Cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor os am wneud hyn (manylion cyswllt ar waslod y dudalen).

 

Lle bo modd, byddwn ond yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol os oes ei hangen i ddarparu gwasanaeth neu ymateb i ofyn.

Mae’r gyfraith yn rhoi nifer o hawliau i chi:


Gofyn am wybodaeth amdanoch chi eich hun

Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.

Ond, ni fydd yn bosib i ni roi gwybodaeth i chi os ydi’r cofnod yn cynnwys:

  • gwybodaeth gyfrinachol am bobl eraill; neu
  • gwybodaeth mae gweithiwr proffesiynol yn credu y byddai’n achosi niwed difrifol i les corfforol neu feddyliol chi neu rywun arall; neu
  • oe bai rhoi’r wybodaeth yn ein hatal rhag atal neu ddatrys trosedd

Gwneud cais i weld gwybodaeth amdanoch chi 

Ceir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at 2 fis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

 

Gofyn i ni gywiro gwybodaeth rydych yn credu sy’n anghywir

Dylech roi gwybod i ni os ydych yn credu bod gwybodaeth amdanoch yn anghywir.

Mae’n bosib na fyddwn yn medru newid na dileu’r wybodaeth bob amser ond fe wnawn ni gywiro unrhyw beth sy’n ffeithiol anghywir.

Caniateir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at ddeufis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

 

Dileu gwybodaeth (right to be forgotten)

Mewn rhai achosion gallwch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth, er enghraifft:

  • lle nad oes angen eich gwybodaeth bersonol mwyach
  • lle rydych wedi tynnu eich caniatâd yn ôl
  • lle mae eich gwybodaeth wedi ei defnyddio yn anghyfreithlon
  • lle bo gofyn cyfreithiol i ddileu’r wybodaeth 
  • lle rydych wedi gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth
  • lle mae data wedi ei gasglu fel rhan o wasanaeth ar-lein i blant (llwytho app neu wefannau cymdeithasol)

Ni allwn ddileu eich gwybodaeth lle:

  • mae’r gyfraith yn dweud bod rhai i ni ei chadw
  • mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mynegiant rhydd
  • mae'n cael ei defnyddio i bwrpasau iechyd cyhoeddus sydd er budd y cyhoedd
  • mae'n cael ei defnyddio i bwrpas ymchwil neu ystadegol
  • mae ei angen ar gyfer hawliadau cyfreithiol.

Gofyn i ni gyfyngu’r defnydd o’ch gwybodaeth bersonol

Mae gennych yr hawl i ofyn am hyn lle:

  • rydych wedi darganfod bod gwybodaeth amdanoch yn anghywir ac wedi ein hysbysu
  • rydych wedi gwrthwynebu prosesu ac mae angen i ni gael amser i benderfynu os yw ein seiliau yn gorbwyso hawliau’r unigolyn
  • nid oes gennym hawl cyfreithiol i ddefnyddio’r wybodaeth ond rydych am i ni gyfyngu’r defnydd yn hytrach na’i dileu’n gyfangwbl
  • nid oes gennym reswm i’w gadw ond rydych chi ei angen er mwyn sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliad cyfreithiol
  • ceir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at ddeufis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.

 

Symud eich gwybodaeth i ddarparwr arall (data portability)

Mae gennych hawl i ofyn am eich gwybodaeth bersonol mewn fformat cyffredin neu gael ei rhoi i ddarparwr gwasanaeth arall.

Fodd bynnag, gall hyn ond digwydd os ydym yn:

  • defnyddio eich gwybodaeth efo’ch caniatâd neu trwy gontract
  • mae’r prosesu yn digwydd yn awtomataidd (gan gyfrifiadur)

Mae’n anhebygol y bydd modd arfer yr hawl yma gyda mwyafrif gwasanaethau’r Cyngor.


Gwrthwynebu prosesu gwybodaeth

Mae gennych hawl i wrthwynebu o dan yr amgylchiadau a ganlyn:

  • Rydym wedi prosesu eich gwybodaeth ar sail buddion cyfreithlon neu  dasg gyhoeddus/awdurdod swyddogol;
  • Lle mae marchnata cyhoeddus;
  • I brosesu oherwydd ymchwil neu ystadegau

Byddwn yn cydymffurfio efo’r cais oni bai:

  • Fod rhesymau cryf, cyfreithlon dros brosesu
  • Bod angen sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol

 

Hawliau o ran penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Mae gennych yr hawl i ofyn am esboniad o unrhyw benderfyniadau sydd wedi eu gwneud gan gyfrifiadur (hy penderfyniadau heb unrhyw ymyrraeth gan unigolyn).

Gallwch gwestiynu unrhyw benderfyniadau a wnaed gan gyfrifiadur amdanoch, oni bai fod angen gwneud hyn ar gyfer contract, mae yna ofyn cyfreithiol neu rydych wedi rhoi eich caniatâd i hyn ddigwydd.

Mae'n bosib hefyd i chi wrthwynebu i unrhyw ‘broffilio’, sef pan fo penderfyniadau yn cael eu gwneud amdanoch sy’n seiliedig ar eich gwybodaeth bersonol e.e cyflwr iechyd.

Byddwn yn eich hysbysu os ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i’ch proffilio.

Rydym yn rhannu eich gwybodaeth gyda nifer fawr o sefydliadau allanol er mwyn gallu darparu gwasanaeth i chi.

Byddwn yn dweud wrthych pwy ydi’r sefydliadau wrth gasglu’r wybodaeth gennych.

Weithiau mae gennym ddyletswydd cyfreithiol i rannu gwybodaeth gydag eraill, e.e. llysoedd, Adran Gwaith a Phensiynau, HMRC. Gallwn hefyd rannu gwybodaeth gyda chyrff allanol er mwyn canfod ac atal twyll, er enghraifft, y Fenter Twyll Cenedlaethol.

Dylid nodi y byddwn yn rhannu efo Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn cysylltiad a’i waith archwilio ac astudiaethau. O ran gwaith ar y cyd, gall gwybodaeth gael ei rhannu o dan y ddyletswydd a nodir yn adran 33 Mesur Llywodraeth (Cymru) 2009. 

Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth os teimlir fod risgiau penodol i’r cyhoedd neu staff neu i warchod plant neu unigolion bregus.

Rydym wedi arwyddo Cytundeb Fframwaith Bersonol Cymru WASPI sef set o safonau cyson ar gyfer rhannu gwybodaeth am ddefnyddwyr ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yng Nghymru.

Felly, mewn rhai achosion fe fydd protocol rhannu gwybodaeth penodol o dan fframwaith Cymru. Bydd y cytundeb rhwng y partneriaid i gyd yn esbonio pa wybodaeth sy’n cael ei rhannu, pryd, sut a gyda phwy.


Sut rydym yn gwarchod eich gwybodaeth?

Rydym yn cymryd camau priodol i warchod eich cofnodion, boed nhw ar bapur neu’n electronig.

Gwneir hyn trwy wahanol ffyrdd, e.e. sicrhau bod rheoli mynediad i wybodaeth ar systemau i’r bobl sydd angen gwybod yn unig, trosglwyddo gwybodaeth mewn dulliau priodol (defnyddio amgryptio) a hyfforddi staff.


Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd hyn yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth. Mae gennym restr gadw sydd yn datgan am ba mor hir y dylid cadw gwahanol fathau o gofnodion.

Datganiadau preifatrwydd gwasanaethau'r Cyngor

Newid gosodiadau cwcis

Pan fyddwch yn ymweld â'r wefan hon am y tro cyntaf byddwch yn cael neges yn dweud bod yn cwcis yn cael eu defnyddio ar y wefan. Efallai na fydd rhannau o'r wefan yn gweithio'n iawn os ydych yn dewis gwrthod cwcis gan y wefan hon.

Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan - pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb. Gellir eu defnyddio hefyd i gofio manylion mewngofnodi ar gyfer rhai gwasanaethau, e.e. ceisiadau am swyddi ar lein.

Mae'r wybodaeth isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:

Pa gwcis mae'r wefan yn ddefnyddio
CwciEnwPwrpas 
Ystadegau Google Analytics _ga
_gid
_gat
Mae’r cwci hwn yn cofnodi eich defnydd o’r wefan. 

Mae’n cael ei ddefnyddio i ddiben dadansoddi ystadegau yn unig, a fydd yn ein helpu ni i wella ein gwefan. 

Nid yw’r cwci yn dal unrhyw wybodaeth bersonol na sensitif. 

Gweler hefyd: Google Analytics Opt-out Browser Add-on.
Ystadegau Siteimprove SiteAnalyze Nmstat Mae’r cwci hwn yn cofnodi eich defnydd o’r wefan. 

Mae’n cael ei ddefnyddio i ddiben dadansoddi ystadegau yn unig, a fydd yn ein helpu ni i wella ein gwefan. 

Nid yw’r cwci yn dal unrhyw wybodaeth bersonol na sensitif. 
Ystadegau Siteimprove SiteAnalyze ASP.NET_SessionId Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi’r drefn y byddwch yn edrych ar dudalennau yn ystod eich ymweliad â’r wefan. 

Gall yr wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn ceisio lleihau eich siwrnai chi fel cwsmer o fewn y safle, a’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol yn gynt. 
Iaith Iaith Mae’r wefan yn defnyddio cwcis i weithio’n ddwyieithog ac i gofio eich dewis iaith. 

Os ydych yn dewis peidio â derbyn cwcis mae’n bosibl na fydd gwefan y Cyngor yn gweithio mewn modd mor soffistigedig. Mae’n bosibl y byddwch yn mynd i fersiwn Gymraeg y dudalen bob tro wrth i chi bori drwy’r safle a bydd angen i chi glicio ar y botwm English yn y gornel dop ar y dde er mwyn gweld fersiwn Saesneg y dudalen.
Sesiwn ASP System Rheoli Cynnwys ASPSESSION(AQBDCQBD)

Gall y llythrennau yn y cromfachau amrywio
Mae’r system rheoli cynnwys yn defnyddio’r cwci hwn wrth i chi symud o un dudalen i’r llall o fewn y wefan. Bydd yn cadw cofnod o’ch sesiwn tra rydych ar y wefan. 

Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr. 
Taliadau ar-lein JSESSIONID Mae’r cwci hwn yn dal gwybodaeth wrth i’r cwsmer symud o un dudalen i’r llall o fewn y tudalennau taliadau ar-lein. 

Nid yw’n dal unrhyw wybodaeth bersonol na sensitif.
Cynllunio – Dilyn a Darganfod UwdSessionID Mae’r cwci yn cael ei ddefnyddio i gofio dewis iaith defnyddiwr o fewn y system Cynllunio - Dilyn a Darganfod yn unig.

Bydd y cwci'n cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr. 
Cynllunio – Dilyn a Darganfod JSESSIONID Mae’r cwci wedi ei osod o fewn y system chwilio am geisiadau cynllunio. Bydd y cwci yn cadw cofnod o’ch sesiwn wrth i chi chwilio’r system. 

Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr. 
Prawf cwcis Ebase EbaseCookieTest Mae’r cwci hwn yn berthnasol i’r adran Fy Nghyfrif ble bydd gofyn i chi fewngofnodi. 

Y cwci hwn sy’n dal yr wybodaeth ynglŷn ag os yw’r cwcis ar eich cyfrifiadur wedi eu troi i ffwrdd a’i peidio, ac yna’n dethol yr wybodaeth fydd yn ymddangos yn seiliedig ar hynny.
Sesiwn Ebase JSESSIONID Mae’r cwci wedi ei osod o fewn yr adran Fy Nghyfrif. Bydd y cwci yn dal gwybodaeth ynglŷn ag a ydych wedi mewngofnodi ai peidio. 

Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Symud rhwng tudalennau Ebase 1_pageSeq_4_(GAL_FY_NGHEISIADAU) Bydd y geiriad yn amrywio yn ddibynnol ar lle ydych chi o fewn y wefan a’r hyn rydych yn ei wneud.

Pwrpas y cwci hwn yw cofio eich manylion wrth i chi symud yn ôl ac ymlaen rhwng tudalennau o fewn yr adran Fy Nghyfrif. Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Sesiwn LimeSurvey ls56277422392735315346-runtime-publicportal Mae’r cwci hwn yn bethnasol i holiaduron. Pwrpas y cwci yw helpu i rwystro defnyddiwr rhag cwblhau yr un holiadur nifer o weithiau ble mae hynny’n berthnasol. 

Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Profi cwcis CwciPrawfTestCookie Cwci sesiwn sydd yn gwirio os yw cwcis ymlaen yn eich porwr yw hwn. Hyn sydd yn pennu a yw y faner cwcis yn cael ei harddangos ar y dudalen ai peidio. 

Bydd y cwci yn cael ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Cwci Cyngor Gwynedd CwciCyngorGwyneddCookie Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi a ydych wedi derbyn cwcis oddi ar y wefan hon ai peidio. 

Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei ddal yn y cwci hwn.
YouTube    Os byddwch yn dewis chwarae fideo YouTube sydd wedi ei osod ar dudalen ar wefan Cyngor Gwynedd, bydd YouTube yn gosod cwci. Mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio’r ‘privacy-enhanced mode’ sy’n rhwystro YouTube rhag gosod y cwci oni bai eich bod yn dewis chwarae’r clip fideo.
Canlyniadau etholiadau ardal_
rhanbarth_
Mae’r cwcis yma’n yn cael eu defnyddio i gofio pa ardaloedd a rhanbarthau rydych wedi eu chwyddo. 

Mae’r cwcis yn cael eu defnyddio o fewn eich porwr yn unig ac yn cael eu dileu pan fyddwch yn cau eich porwr. 
Holiadur bodlonrwydd ar y wefan holiadur_(x)_cwblhau neu holiadur_(x)_gwrthod 

Bydd y rhif sy’n ymddangos yn y cromfachau (x) yn cyfeirio at y fersiwn o’r holiadur.

Mae cwci hwn yn cael ei ddefnyddio i gofio a ydych eisoes wedi cwblhau’r holiadur neu a ydych wedi nodi nad ydych am gymryd rhan.

Bydd yn defnyddio’r wybodaeth i sicrhau na fyddwch yn cael eich gwahodd i gwblhau’r holiadur eto os ydych eisoes wedi ei gwblhau, neu os ydych eisoes wedi nodi nad ydych am gymryd rhan.

 

 


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, neu i wneud cwyn, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data’r Cyngor: SwyddogDiogeluData@gwynedd.llyw.cymru

Bydd y swyddog yn gwneud pob ymdrech i ymateb i’ch ymholiad neu gwyn yn y lle cyntaf ond mae gennych yr hawl hefyd i gysylltu efo Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer

SK9 5AF

E-bost: casework@ico.gsi.gov.uk

Ffôn: 0303 123 1113.