Mae trigolion Gwynedd ymhlith yr hapusaf yng Nghymru. 'Does syndod a dweud y gwir, o ystyried bod rhan helaeth o'r sir o fewn ardaloedd o harddwch eithriadol, yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri. Gydag amgylchedd glân a hamddenol, mae arfordir a mynyddoedd Gwynedd yn hafan ddelfrydol i adfywio'r enaid.
Mae ein cymunedau ymhlith y mwyaf diogel yn y wlad, a'n dwyieithrwydd naturiol yn cyfoethogi'r diwylliant lleol ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'n lle gwych i fagu’r genhedlaeth nesaf, ac mae'r ysgolion a cholegau addysg bellach sydd yn y sir yn cynnig addysg a hyfforddiant heb eu hail.
Yn syml, mae Gwynedd yn lle anhygoel i fyw.
Mae Cyngor Gwynedd yn ...
- Gwasanaethu 125,171 o bobl Gwynedd
- Gorchuddio 2,525 km sgwâr
- Un o gyflogwyr mwyaf y sir, yn cyflogi dros 7,000 o staff (3,000 llawn amser / 4,000 rhan amser)
Mae gan Wynedd ...
- 29.6% o’r gweithlu yn gweithio yn y meysydd Addysg ac Iechyd
- 2,896 km o ffyrdd
- Oddeutu 61,000 o anheddau
- 301 km o arfordir
- 65% o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg
Llesiant Gwynedd a Môn | Asesiad Llesiant Gwynedd
Ymweld ag Eryri: Eryri Mynyddoedd a Môr