Yn ddiweddar mae Tîm Ailgylchu Arfon wedi croesawu aelod newydd i’w plith, gydag Angharad Williams yn cael ei phenodi fel y ferch gyntaf i dderbyn swydd gyda’r criw casglu. Dyma gyfle i ni felly groesawu Angharad i’r Cyngor a dod i wybod ychydig mwy amdani.
Beth wnaeth i ti geisio am swydd gyda’r Tîm Ailgylchu?
Roedd hi’n amser i mi newid gyrfa ar ôl treulio pymtheg mlynedd yn gweithio i gwmni Argos. Dwi wedi cael fy magu ar fferm ac roeddwn yn ysu i gael gweithio allan yn yr awyr agored a chael gweld cefn gwlad. Dwi wedi hen arfer codi’n gynnar, sy’n beth da gan fod rhaid i mi fod yn y depo erbyn hanner awr wedi pump yn y bore.
Beth wyt ti’n ei fwynhau am y swydd?
Y peth dwi’n ei fwynhau fwyaf ydi cael fy ngwerthfawrogi gan y cyhoedd, mae hynny’n deimlad arbennig iawn. Does ’na ddim un diwrnod yn mynd heibio lle dydyn ni heb dderbyn gair o ddiolch gan drigolion Arfon neu focs o siocled.
Mae’r swydd yn fy nghadw i'n ffit hefyd, dwi’n cerdded saith i ddeg milltir y dydd a hynny wrth weithio. Dwi’n fwy na pharod am fy ngwely erbyn hanner awr wedi wyth ar ôl cerdded yr holl filltiroedd.
Dwi mor lwcus o gael gweithio hefo criw da sydd wedi fy nghroesawu’n syth. Mae’n braf gallu cael hwyl wrth weithio a chael gweld y wlad. Cyn cychwyn yn y swydd yma doeddwn i erioed wedi bod yn Rhyd Ddu, ond rŵan dwi’n cael gweithio yno ar y rownd a dwi’n edrych mlaen i fynd yno i gerdded dros yr Haf.
Sut deimlad ydi bod y ferch gyntaf yn y swydd?
Roeddwn ychydig yn bryderus ar y dechrau o ran sut y bysa'r tîm yn cymryd ataf, ond maent wedi bod yn wych ac wedi edrych ar fy ôl o’r munud cyntaf! Does dim yn ormod o drafferth iddynt a dwi’n teimlo fel un o’r criw yn barod. Roeddwn yn rhoi pwysau ar fy hun ar y dechrau gan fy mod eisiau gwneud bob dim yn iawn, ond dwi’n prowd iawn ohona fi fy hun am gymryd y cam yma a mynd am y swydd.
Dwi’n gobeithio y gwnaf annog mwy o ferched i drio am swyddi yn y maes. Digwydd bod, mae un o’r genod yr oeddwn yn gweithio hefo hi yn Argos wedi dweud yn barod y bysa ganddi ddiddordeb trio am swydd fel hyn.
Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?
Dwi’n hoff iawn o rygbi ac yn aelod o dîm rygbi merched Caernarfon. Mae gennai hefyd wregys du (black belt) mewn cic-focsio.