Mae Dylan Owen sy’n gweithio yn Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd y Cyngor newydd gymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol hefo gradd dosbarth cyntaf o’r Brifysgol Agored. Mae Dylan wedi gweithio ei ffordd fyny drwy’r Cyngor, sy’n profi nad oes rhaid dilyn y trywydd academaidd traddodiadol i gyrraedd eich nod. Cwblhaodd Dylan ei radd yn rhan amser tra’n parhau i weithio i wasanaethau plant y Cyngor.
Cyfnod o wirfoddoli sbardunodd Dylan i newid ei yrfa. Ar ôl gadael yr ysgol, bu’n gweithio i bapur newydd ond nid oedd yn cael y boddhad yr oedd yn chwilio amdano felly dechreuodd wirfoddoli efo pobl ifanc cyn cael gwaith fel gweithiwr allweddol gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
“Doeddwn i heb feddwl am fynd mewn i’r maes gwaith cymdeithasol nes i mi ddechrau gwirfoddoli hefo pobl ifanc. Roedd hyn yn fy ngalluogi i adeiladu profiad a chychwynnais weithio i’r Cyngor cyn symud ymlaen a gweithio fy ffordd fyny drwy wahanol swyddi o fewn yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd gan ennill cymwysterau'r un pryd.
“Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig fod staff yn deall bod hyfforddiant a chefnogaeth ar gael o fewn y Cyngor er mwyn eich helpu i ddatblygu a chyrraedd eich nod. Dwi ddim yn berson clyfar nac academaidd o gwbl, dwi’n fwy ymarferol ac yn dysgu wrth wneud. Mi wnes i fethu fy Lefel A yn yr ysgol a wnes i erioed ddychmygu y byddwn yn cael y cyfle i fynd i’r brifysgol.
Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi'r cyfle i mi adeiladu sgiliau ac ennill profiad wrth weithio a dwi’n teimlo’n lwcus iawn o hynny. Cefais y cyfle i wneud NVQ Lefel 3 Iechyd a Gofal a chwrs cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd yn gyfwerth â Lefel 4 a credydau’r brifysgol. Heb y cyfleoedd yma, fyswn i ddim wedi gallu mynd ymlaen i gwblhau gradd Gwaith Cymdeithasol.
Mi wnes i wir fwynhau’r cwrs Gwaith Cymdeithasol. Dwi’n teimlo ei fod wedi cyfoethogi fy ngwaith ymarferol er ei fod yn dipyn o waith. Roedd yn rhaid bod yn hunan-ddisgybledig i roi eich pen lawr a gwneud y gwaith ond roedd o werth o yn y diwedd. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r Cyngor am y gefnogaeth ac eisiau annog eraill i fynd amdani ”, meddai Dylan.
Ar ôl yr holl flynyddoedd yn y maes gofal, mae Dylan dal i fwynhau cael gweithio gyda phobl ifanc.
“Mae pob diwrnod yn wahanol yn y gwaith ac yn amrywio o un peth i’r llall. Dydi gwaith byth yn ddiflas ac mae’n sicr yn eich cadw chi ar flaenau eich traed. Be dwi’n ei fwynhau fwyaf am fy swydd ydi’r cyfle i gyfarfod gwahanol bobl a'u helpu. Dwi’n mwynhau’r her o allu mynd mewn i sefyllfa a rhoi cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc allu symud ymlaen a gwella eu bywydau”, ychwanegodd Dylan.
Dewch i wybod mwy am hanes Dylan drwy wylio’r fideo byr yma: