Academi Hwylio a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli (Plas Heli)

Cefndir y prosiect

Bu i £8.9 miliwn gael ei sicrhau er mwyn cynnig mwy o weithgareddau awyr agored yng Ngwynedd a rhoi hwb i’r economi lleol.

Derbyniodd Cynllun Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau Pwllheli gefnogaeth ariannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd. Roedd hyn yn cynnwys tua £4 miliwn o raglen Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd ac o Gronfa Arian Cyfatebol Targed Llywodraeth Cymru.

Datblygwyd y cynllun ym Mhwllheli er mwyn cefnogi y diwydiant hamdden a morol drwy:

  • gynnig darpariaeth ar gyfer cystadlaethau hwylio o safon
  • datblygu’r ardal i fod yn gyrchfan ar gyfer hwylwyr gorau’r byd
  • agor y drws i hwylwyr newydd, yn cynnig cyfleodd i fwy o bobl ddatblygu sgiliau gweithgareddau awyr agored ac yn adnodd i’r gymuned gyfan
  • gynnig canolfan i gynnal gweithgareddau cymunedol ehangach yn y dref

Drwy gydol y cynllun bu i Gyngor Gwynedd weithio mewn partneriaeth gyda Plas Heli, Clwb Hwylio Pwllheli; Llywodraeth Cymru; Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru; Plas Menai; Coleg Llandrillo (Cymru), Cymdeithas Hwylio Cymru a'r gymuned ehangach i ddatblygu’r academi a’r ganolfan weithgareddau.

 

Cysylltu â ni: 

Am unrhyw wybodaeth ynglŷn a chyfleusterau, digwyddiadau a chystadlaethau dilynwch y linc i safle we Plas Heli. Plas Heli - Adra