Galeri 2 - Mae’r sinema dwy sgrin newydd yn barod ers 21 Medi. I ddathlu’r agoriad, cafodd Rhys Ifans a’r Gweinidog, Dafydd Elis Thomas, eu gwahodd i ddad-orchuddio cerflun Llŷr Erddyn Davies y tu allan i’r adeilad.
Yn yr adeilad newydd hon, mae:
- dwy sgrin bwrpasol (119 a 65 sedd)
- mynedfa
- swyddfa docynnau
- gofod arddangos celf a chrefft
- ystafell gelf
- siop crefftau ac
- ystafell gyfarfod.
Richard Murphy Architects sydd wedi dylunio’r adeilad a chwmni adeiladu o Lysfaen, RL Davies & Sons sydd wedi ei chodi. Hwn yw’r prosiect denu twristiaeth gyntaf i’w gwblhau.
Rheilffordd Eryri - Mae’r adeilad newydd bron yn barod. Mae MPH Construction yn dal i weithio ar y manion yn ystod yr wythnos, ond mae’r adeilad yn agored i’r cyhoedd ar y penwythnos. Mae arddangosfa cystadleuaeth posteri’r Rheilffordd i’w gweld hyd at 28 Hydref.
Bydd yr adeilad ar agor i’r cyhoedd ym mis Rhagfyr ar gyfer Trenau Siôn Corn, gydag agoriad swyddogol fis Mai 2019. Yn yr orsaf newydd bydd siop a swyddfa tocynnau newydd, caffi a gofod digwyddiadau.
Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon – Cwmni sy’n brofiadol mewn adfer meysydd treftadaeth, Grosvenor, fydd yn adeiladu’r datblygiad newydd hwn. Bydd y gwaith yn cychwyn y mis yma. Y gobaith yw y bydd yn barod mewn 18 mis.
Prosiect STAMP - Yn yr adeilad, mae Bedwyr Williams wedi codi sgrin fawr sy’n arddangos gwaith artistiaid lleol. Y gobaith yw y bydd y gofod digwyddiadau yn hwb ar gyfer digwyddiadau celf a chymunedol lleol.