Adfywio Harlech
Mewn ymateb i nifer o fygythiadau a risgiau sy’n wynebu Harlech, mae Cyngor Gwynedd wedi cydweithio gyda partneriaid strategol a lleol er mwyn ceisio uchafu ar gyfleoedd yn y dref.
Mae Harlech yn adnabyddus am sawl rheswm yn barod:
- Treftadaeth arbennig
- Castell hanesyddol
- Cwrs golff pencampwriaeth Brenhinol Dewi Sant
- Arfordir rhagorol
- Cyfleoedd thechnoleg awyrofod ym maes awyr Llanbedr
Mae’r dref angen cyd-weledigaeth a chyfres o gynigion i symud ymlaen.
Gweld Blaenoriaethau Strategol Harlech
Mae Cyngor Gwynedd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cadw ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi datblygu canllaw strategol ar gyfer buddsoddiad yn Harlech. Bu i Chris Jones Regeneration gefnogi'r bartneriaeth strategol a bu cyfle i’r gymuned fod yn rhan o adnabod blaenoriaethau i’r dyfodol.
Cynllun Strategol Harlech
Mwy o wybodaeth
- E-bost: adfywio@gwynedd.llyw.cymru
- Ffôn: 01286 679513
- Cyfeiriad: Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH