Ardal Fenter Eryri

Ers 2012, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru i hwyluso datblygiad o fewn dau o brif safleoedd strategol Meirionnydd – safle Pwerdy Trawsfynydd a Chanolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr.

Mae’r safleoedd yn rhan o Ardal Fenter Eryri Llywodraeth Cymru, ac mae eu datblygiad yn cael ei lywio gan fwrdd o arbenigwyr

Mae’r Cyngor yn cynorthwyo gwaith yr Ardal Fenter gan ei fod yn ymrwymedig i gefnogi unrhyw ddatblygiad all ddod a swyddi sy’n talu’n dda i Wynedd ac i ardal Meirionnydd yn benodol, fel a nodir yng Ngynllun Gwynedd 2018-23.

Fel rhan o’r gwaith, mae’r Cyngor yn cydlynu Bwrdd Trosolwg ar gyfer y safleoedd sy’n cynnwys cynrychiolwyr y sefydliadau sy’n allweddol i’w datblygiad.

 

Datblygu safle Trawsfynydd

Mae nifer o weithgareddau ar y gweill i ddatblygu ardal safle cyn bwerdy Trawsfynydd, er mwyn ymateb i'r her economaidd fydd yn deillio o dadgomisiynu’r atomfa:


Strategaeth Datblygu Safle Trawsfynydd

Mae'r Cyngor, gan weithio mewn partneriaeth gyda Magnox Ltd (rheolwyr y safle), Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (perchnogion yr safle), yn awyddus i ddatblygu cyfleoedd all ddeillio o asedau ac adnoddau rhagorol y Safle i greu a chynnal swyddi gwerth uchel i drigolion lleol..

Strategaeth Datblygu Safle Trawsfynydd

Fel rhan o’r gwaith, mae nifer o astudiaethau wedi’u cwblhau, yn cynnwys dadansoddiad o’r effaith economaidd tebygol o orffen y gwaith dadgomisiynu ar y safle heb ddiwydiant amgen i gymryd ei le.

Yn ogystal ag edrych yn uniongyrchol ar ddenu swyddi gwerth uchel i’r safle, mae prosiectau wedi’u cwblhau i ddatblygu Llyn Trawsfynydd fel y gall pobl leol ac ymwelwyr fwynhau’r amgylchedd unigryw sydd o’i amgylch. Bellach, gellir dilyn cylchdaith o amgylch y Llyn a manteisio ar ystod o weithgareddau a chyfleusterau gan gynnwys caffi.

Cysylltwch â ni:

Datblygu Canolfan Awyrofod Eryri, Llanbedr

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a pherchnogion maes awyr Llanbedr i ddatblygu Canolfan Awyrofod Eryri, i alluogi i’r safle i gyflawni ei botensial, drwy ddychwelyd i fod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer cerbydau awyr di-beilot.  Roedd y safle, wedi arbenigo yn y dechnoleg yma ar hyd ei oes gyda’r Awyrlu, gan gyflogi dros 150 ar un adeg.

Fel rhan o becyn ehangach o welliannau, mae cynllun i wella’r mynediad i’r safle trwy gael ffordd newydd, wedi ei ddatblygu drwy ymgynghoriad eang a’i gyflwyno am ganiatâd cynllunio.

Map awyrofod

 

Gwybodaeth Bellach:

Cysylltwch â ni: