Dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Llechi Cymru

Dynodiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru (Llechi Cymru) 

 

Cefndir 

Mae stori Llechi Cymru yn un oesol. Mae i’r tirwedd le arbennig yng nghalonnau trigolion. Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn adrodd stori esblygiad bro dawel, amaethyddol i fod yn ardal lle nad oedd dianc rhag y diwydiant llechi. Dyma lle ymddangosodd chwareli, trefi a phentrefi, a chafodd ffyrdd a rheilffyrdd eu cerfio trwy Eryri i borthladdoedd y glannau.

Cyngor Gwynedd sydd wedi  arwain ar yr ymgais i sicrhau Safle Treftadaeth y Byd UNESCO i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, trwy weithio gydag amrediad o bartneriaid o’r sector gyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.

Prif amcan sicrhau’r dynodiad oedd cydnabod pwysigrwydd ein diwydiant a’n cymunedau llechi a’i rôl yn y byd er mwyn sbarduno twf economaidd ac adfywiad cymdeithasol yng Ngogledd Orllewin Cymru. 

Mae’r dynodiad yn cynnwys chwech ardal allweddol sydd wedi cael eu dewis i arddangos gwerth eithriadol byd-eang (outstanding universal value):

  1. Chwarel lechi Penrhyn, tref Bethesda, a Dyffryn Ogwen i Borth Penrhyn
  2. Tirwedd Mynyddig Chwarel Lechi Dinorwig
  3. Tirwedd Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle
  4. Chwareli Llechi Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor, Rheilffyrdd a Melin
  5. Ffestiniog, ei ceudyllau a chwareli llechi ‘prifddinas llechi’ a’r rheilffordd i Borthmadog
  6. Chwarel Lechi Bryneglwys, pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn

Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yw’r lleoliad diweddaraf yn y DU i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ar ôl derbyn yr anrhydedd ar 28ain o Orffennaf, yn sesiwn rhif 44 Pwyllgor Treftadaeth y Byd. 

Y dirwedd yw’r pedwerydd o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru, gan ddilyn Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.

 

Mwy o wybodaeth 

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch llechi@gwynedd.llyw.cymru neu ymweld â gwefan llechi.cymru.

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol:

Facebook

Instagram

Twitter