Her Cymunedau Mentrus

Mae prosiect Her Cymunedau Mentrus yn gweithio gyda Chanolfan Henblas, Menter y Plu a Phartneriaeth Ogwen. Mae'r prosiect yn torri tir newydd a gwireddu eu syniadau er mwyn cylchdroi arian o fewn eu cymunedau a chreu swyddi.

 

Canolfan Henblas, Y Bala

Mae'r prosiect yn cefnogi datblygiad Canolfan Henblas. Mi fydd hyn yn galluogi mwy o fusnesau lleol symud i'r adeilad. a fydd yn creu hwb cymunedol a lleoliadau swyddfa.

Mwy o wybodaeth.

 

Menter y Plu, Llanystymdwy

Mae Menter y Plu yn y broses o benodi Swyddog Datblygu i ddatblygu wahanol prosiectau yn y Fenter. Mi fydd y Swyddog Datblygu yn gyfrifol am ymgysylltu yn Lleol ac archwilio syniadau i ddatblygu cyfloedd cyflogaeth, gwirfoddoli a hyfforddiant a sicrhau ffyniant a pharhad busnes i’r gymuned.

Mwy o wybodaeth.

 

Partneriaeth Ogwen, Bethesda

Mae Partneriaeth Ogwen wedi adnabod nifer o ffrydiau gwaith ar gyfer y prosiect yma o dan faner ‘Cefnogi Busnesau a Mudiadau Cymunedol Dyffryn Ogwen’ .  Pwrpas y prosiect yw gweithio gyda busnesau a mentrau Cymunedol yn Nyffryn Ogwen, i ddatblygu prosiect a fydd yn annog cydweithio agosach o fewn y Dyffryn i gryfhau’r economi sylfaenol yn Lleol.

Mwy o wybodaeth.