Strategaeth a gweledigaeth Bangor
Mae Bangor yn ganolfan isranbarthol ar gyfer Gogledd Cymru. Mae'r sawl sy’n byw, astudio a gweithio yn y ddinas yn ymfalchïo ynddi. Heddiw, mae heriau yn wynebu ei ffyniant a'i bywiogrwydd.
Mae Cyngor Dinas Bangor a Chyngor Gwynedd wedi sefydlu Partneriaeth Strategol Bangor er mwyn arwain ar ymdrechion adfywio'r ddinas. Mae'r bartneriaeth wedi ei sefydlu i baratoi Strategaeth a Gweledigaeth tymor hir ar gyfer Bangor.
Mae'r Strategaeth a'r Weledigaeth yn canolbwyntio ar fanteisio ar rôl Bangor fel y ganolfan isranbarthol ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn. Dyma gydnabod ei chryfderau a photensial a chael gwared â'r agweddau negatif sy'n bod yma ers dros ddegawd.
Tair thema'r Strategaeth a'r Weledigaeth
- Datblygu a'r amgylchedd
- Economi a hyrwyddo
- Tai, iechyd a lles
Prosiectau allweddol y Bartneriaeth:
Strategaeth a Gweledigaeth Bangor
Mwy o wybodaeth...
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni: