Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
Ar 3 Tachwedd 2021 cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig bod y ceisiadau canlynol wedi llwydo yn eu cais am gfenogaeth o Gronfa Adfywio y DU
Mae'r dyddiad cau ar gyfer cwblhau prosiectau a ariennir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU wedi'i ymestyn i 31 Rhagfyr 2022.
- Dyraniad o £45.000
- Cynllun gan Gwmni Nod Glas Cyf. i gefnogi gwireddu rhaglen uchelgeisiol i wella llwybrau cylchol lleol gan uchafu’r buddion cyflogaeth, profiad, gwella sgiliau ac amgylcheddol i gymunedau lleol.
- Diweddaraf-
Gyda’r prosiect i’w gwblhau erbyn gwanwyn 2023 mae gwaith ar saith allan o’r wyth llwybr eisoes yn tynnu tua’r terfyn – llwybrau sy’n amrywio o 1.5 milltir i 12 milltir o hyd. Drwy gwella’r llwybrau sydd eisoes yn bodoli, eu cydgysylltu a’u gwneud yn fwy hygyrch i gerddwyr o bob gallu – o bobl ag anableddau, i rai sy’n gwthio pram, i heicwyr profiadol ar wyliau cerdded.
Taflenni ac arwyddion gyda chodau QR y gall cerddwyr eu sganio i ddysgu mwy am dreftadaeth a bywyd gwyllt Dyffryn Dyfi wedi ei creu.
Lle nad oedd yn bosib i berchnogion tir wneud gwaith y llwybrau ar tir eu hunain, penodwyd contractwr lleol i wneud y gwaith, fel bod y budd ariannol yn aros o fewn economi ardal Mawddwy.
Lansiwyd y llwybrau cerdded yn swyddogol ar 6 Rhagfyr gan y gyrrwr ceir rali rhyngwladol Elfyn Evans, sy’n dod o’r ardal.
- Cyswllt: arfonh@hotmail.co.uk
- Dyraniad o £589,203
- Cynllun gan Adra (Tai) Cyfyngedig i annog a chefnogi cadwraeth ynni a mabwysiadu technolegau sero net yng nghymunedau lleol drwy ddarbwyllo, arddangos, datblygu sgiliau ac ymchwil.
- Diweddaraf- Mae'r gwaith o ddatblygu canolfan sero-net ym Mhenygroes ar y gweill. 9 hyrwyddwr arbed ynni wedi'u recriwtio a'u hyfforddi hyd yma. Cefnogwyd 40 o fusnesau lleol i ennill y sgiliau sydd eu hangen i ôl-ffitio technoleg carbon niwtral i'r stoc dai leol bresennol.
- Am wybodaeth pellach am y cynllun ewch i Partneriaeth Sero Net Gwynedd
- Astudiaeth achos - Mae’r prosiect Sero Net Gwynedd gan Adra (Tai) Cyfyngedig yn annog a chefnogi cymunedau lleol i arbed ynni a mabwysiadu technolegau sero net. Gwnânt hynny drwy adfocatiaeth, arddangos, datblygu sgiliau a chynnal gwaith ymchwil.
Un sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy’r cynllun yw Canolfan Gymunedol Porthi Dre, Caernarfon. Drwy derbyn asesiad Tystysgrif Perfformiad Ynni ar yr adeilad cymunedol (graddfa D). Mae hefyd wedi cael asesiad to i ganfod cyflwr y to presennol yn fewnol ac yn allanol. Mae'r adeilad wedi ei adnabod gan y prosiect i dderbyn buddsoddiad o £16,080 a fydd yn mynd tuag at osod paneli solar. Bydd y gwaith yn dechrau yn fuan yn y flwyddyn newydd, mae’r hwb cymunedol yma hefyd wedi buddsoddi mewn cegin fasnachol sy’n eu galluogi i ddarparu hyd at 150 o brydau bob dydd. Mae'r paneli yn mynd i gyfrannu'n sylweddol at lleihau costau rhedeg y gegin.
Bydd gosod paneli solar yn cynyddu sgôr EPC y ganolfan gymunedol a bydd yn dangos sut y gall buddsoddi mewn technolegau glân ac atebion newydd gyfrannu at ddatrysiadau datgarboneiddio.
- Cyswllt: jessica.weale@adra.co.uk
- Dyraniad o £333,409
- Cynllun gan Grŵp Llandrillo Menai sy’n anelu i gefnogi busnesau bach a micro i ddeall a gwella eu gallu digidol a sero net. Bydd cyngor un i un wedi ei deilwra yn cael ei ddarparu i fusnesau cymwys i gefnogi eu dyheadau.
- Diweddaraf- Mae’r cynllun ar hyn o bryd yn cefnogi 18 o fusnesau bach ar draw y Sir i ddeall a gwella eu galluoedd Digidol a Sero Net yn well. Mae tri o’r busnesau hyn bellach yn cael eu mentora a’u cefnogi gan busnes@llandrillomenai i weithio trwy’r argymhellion ac amlygwyd yn eu gwerthusiadau i ddod yn fwy Gwyrdd ac yn fwy Digidol ar gyfer 2023. Mae un o fuddiolwyr cyntaf y rhaglen, Gwesty Eco Bryn Elltyd wedi’i ddyfarnu tystysgrif Carbon Negyddol a dyma’r pwynt gwefru cyrchfan Telsa cyntaf yng Nghymru.
- Am wybodaeth pellach am y cynllun ewch i: Academi Digidol Werdd
- Astudiaeth Achos - Wedi derbyn cefnogaeth gan y cynllun i ddeall a gwella eu sgiliau digidol a sero net, mae’r cynllun wedi cynnig cyngor un-i-un, wedi ei deilwra’n benodol i’w gofynion, er mwyn cefnogi eu dyheadau. Un sy’n elwa o’r cynllun yw Tom James Construction- Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3SL
Trwy gyfuno awgrymiadau cefnogol yr Academi Ddigidol Werdd gyda syniadau’r cwmni ei hun, mae’r gwelliannau posibl a gafodd eu hadnabod yn cynnwys gosod paneli solar ar do’r swyddfa, gwydr dwbl ar ffenestri cabanau’r safle, gwresogydd llosgi coed yn y pencadlys ac ystyried newid o diesel i biodiesel.
Y dull a’r amserlen a ddymunir gan Tom James Construction yw symud mor gyflym â phosibl i weithredu'r prosiect hwn, a gwneud hynny o fewn y cyfnod 2022/23, yn dibynnu ar argaeledd lleol biodiesel. Yr amserlen a ddymunir ar gyfer cwblhau'r prosiect hwn yw 2 flynedd a'r dyddiad cau a ddymunir yn 31/12/2023.
- Cyswllt: jones37g@gllm.ac.uk
- Dyraniad o £454,121
- Cynllun gan Cyngor Gwynedd i rymuso cymunedau lleol drwy lunio cynlluniau adfywio ardal ynghyd â chefnogi cynyddu gallu ardaloedd i lywio eu dyfodol drwy hyfforddiant a chymorth ymarferol.
- Diweddaraf- Asesiad cychwynnol o anghenion cymunedau lleol wedi'i gwblhau ac ymgynghoriad cymunedol cynhwysfawr ar y gweill (gweler Ardal Ni 2035(Llyw.cymru). Cyllid wedi'i ddyrannu i 7 grŵp i dderbyn hyfforddiant i feithrin gallu cymunedol, 15 grŵp/menter i gefnogi'r gwaith o ddatblygu syniadau, 6 menter newydd wedi'u cefnogi ynghyd â 13 o fentrau cymunedol presennol i ddatblygu a fod yn gynaliadwy
- Am wybodaeth pellach ewch i: Cefnogi Cymunedau
-
Astudiaeth achos - Cyngor Tref Cricieth wedi gweithio gyda’r Fforwm Busnes er mwyn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i gael barn busnesau, mentrau, grwpiau, ac aelodau’r gymuned, ar sut yr hoffent wella nifer yr ymwelwyr ar y stryd fawr ac annog mentergarwch lleol.
Mae syniadau yn cynnwys:
• Creu "archfarchnad rithiol" yng Nghricieth lle byddai posteri ym mhob siop yn dangos lle mae nwyddau gwahanol ar gael yn y dref. Byddai siopwyr yn cyfeirio cwsmeriaid at siopau eraill yn y dref am nwyddau nad oedd ganddyn nhw.
• Creu Marchnad Awyr Agored artisan yn y dref a gwella ansawdd y stondinau ar y Diwrnodau Ffair blynyddol ym mis Mai a Mehefin.
• Cydweithredu rhwng busnesau i nodi a gwella gwasanaethau cyflenwi presennol gyda chynnyrch ychwanegol ar y stryd fawr – ac ystyried y potensial ar gyfer siopau dros dro mewn siopau gwag – neu rannau o gaffis/gofod arall.
• Cynllun Cerdyn Teyrngarwch.
• Prosiect Ap Stryd Fawr ar gyfer pob busnes yn y dref sy'n cynnwys ble i brynu, opsiynau ar gyfer danfon cartref neu glicio a chasglu. Mae’r astudiaeth ddichonoldeb wedi nodi'r costau a'r adnoddau sydd eu hangen i weithredu'r syniadau a ffefrir.
- Cyswllt: adfywio@gwynedd.llyw.cymru
- Dyraniad o £154,895
- Cynllun gan Citizens Online i gefnogi oedolion gyda’r sgiliau digidol allweddol ar gyfer bywyd gan ganolbwyntio ar sgiliau digidol yn gysylltiedig â chyflogaeth, yn arbennig pobl hyn sydd wedi colli gwaith o ganlyniad i’r pandemig.
- Diweddaraf- Rheolwr Prosiect a 2 Hyrwyddwr Digidol wedi ei penodi. Dros 160 eisoes wedi'u cefnogi i ennill sgiliau digidol. 12 sesiwn grŵp yn cael ei cynnal o amgylch Gwynedd a 9 Hyrwyddwyr Digidol Gwirfoddol wedi ei hyfforddi.
- Am wybodaeth pellach am y cynllun ewch i: Gwynedd Ddigidol
- Astudiaeth achos - O wirfoddoli i waith – Richard yn hyrwyddo’r cynllun Gwynedd Ddigidol
Yn ei 20au wedi'i eni yn Ynysoedd y Philipinau ond wedi bod yn y DU ers pan oedd yn flwydd oed.
I gychwyn oedd Richard yn ymweld â thîm Gwynedd Ddigidol yn Nolgellau, cyn iddo ddod yn bencampwr digidol ar gyfer y rhaglen yn wirfoddol, ac yn medru ei ychwanegu ar ei CV.
Cyn i un o bencampwyr digidol llawn amser Gwynedd Ddigidol adael, fe wnaeth Tim Gwynedd Digidol annog Richard i ymgeisio am y swydd. Cynigiwyd y swydd iddo ar ôl bod yn ddi-waith am rai blynyddoedd ac mae bellach yn aelod parhaol o’r tim. Fel bron iawn pawb arall ym mhob rhan o’r wlad, gafodd amser anodd yn ystod clo’r cyfnod Covid. Ond, mae wedi magu hyder ac yn awyddus iawn i helpu a chefnogi pobl i greu cyfeiriadau e-bost a chyfrifon Zoom fel y gallant gysylltu â ffrindiau, teulu, ac aros mewn cysylltiad â’r byd.
- Cyswllt: llion.elis@citizenonline.org.uk
- Dyraniad o £502,373
- Cynllun gan Urdd Gobaith Cymru yng Ngwersyll Glan-llyn i hybu profiad a sgiliau yn y sector awyr agored. Bydd yn gwneud hyn drwy hyfforddi mwy o ymarferwyr awyr agored trwy gyfrwng y Gymraeg gan ymateb i’r bwlch sgiliau yn y sector.
- Diweddaraf- 10 o hyfforddeion wedi cael eu recriwtio a rhaglen o hyfforddiant dwys wedi ei pharatoi, fydd yn rhoi profiadau, sgiliau a chymwysterau ffurfiol yn y maes awyr agored iddyn nhw, fel eu bod nhw’n gymwys i arwain grwpiau mewn gweithgaredd. Mae cynhadledd yn cael ei threfnu i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a gyrfaoedd o fewn y sector gweithgareddau awyr agored cyfrwng Gymraeg, a bydd yn cael ei chynnal wedi diwedd yr haf.
- Am wybodaeth pellach am yr Urdd a Glan-llyn ewch i: www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/glan-llyn
- Astudiaeth achos - Mae prosiect gan Urdd Gobaith Cymru yng Nghanolfan Glan-llyn yn hyrwyddo sgiliau aphrofiad yn y sector awyr agored. Mae’n hyfforddi ymarferwyr gweithgareddau awyr agoredtrwy gyfrwng y Gymraeg gan fod prinder siaradwyr Cymraeg yn y maes yma. O swydd uchel yn un o golegau Gogledd Cymru i heriau’r awyr agored, mentrodd HannahWright i’r dwfn yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn trwy ddilyn rhaglen hyfforddiant a phrofiad aoedd yn arwain at gymhwyster cydnabyddedig o fewn y diwydiantMae Hannah Wright 32 oed o Wrecsam bellach yn teimlo'n fwy hyderus ac wedi datblygu ei sgiliau Personol, mae Hannah bellach yn gallu arwain gweithgareddau i blant a phobl ifancyn y gwersyll. Mae hi hefyd wedi elwa o brofiadau newydd mewn mynydda, dringo, aphadlo, yn ogystal ag ennill cymwysterau newydd, gan gynnwys cynorthwyydd pwll, hyfforddiant arweinydd mynydd, saethyddiaeth, a chymorth cyntaf.Mae Hannah yn edrych ar Llwybr gyrfa clir gyda chyfle i ddatblygu i fod ynarweinydd neu reolwr, i drefnu cyrsiau, yn enwedig ar lefel ddwyieithog.
- Cyswllt: huwantur@urdd.org
- Dyfarniad o £45,000
- Cynllun gan Sesiwn Fawr Dolgellau i ehangu arlwy’r gŵyl flynyddol i fwy nac un penwythnos o’r flwyddyn a hynny ar draws Meirionnydd trwy gynnal astudiaeth ddichonolrwydd gyda’r bwriad o ddatblygu sgiliau yn y celfyddydau a chyfleusterau adloniant yn yr ardal.
- Diweddaraf- Mae astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio i'r posibiliadau yn y dyfodol ac archwilio gwahanol ffyrdd o hyrwyddo, ehangu'r digwyddiad, wedi ei gwblhau. Yn ogystal, nododd yr astudiaeth ffyrdd o ateb y galw am docynnau drwy posibiliadau o gynnal yr ŵyl ar draws cyfres o benwythnosau yn ogystal â chreu mwy o le yn ei lleoliadau, gyda Sesiwn Fawr yn cael ei chynnal ar draws 13 o fusnesau yn y dref ar hyn o bryd yn flynyddol. Edrychodd yr Astudiaeth hefyd ar y posibilrwydd o gwella deunydd marchnata'r ŵyl, yn ogystal ag arallgyfeirio trafnidiaeth a thocynnau. Y gobaith yw y bydd argymhellion yr astudiaeth yn cael eu gweithredu ar gyfer digwyddiad 2023 ym mis Gorffennaf.
- Am wybodaeth pellach Sesiwn Fawr Dolgellau
- Cyswllt: swyddogdatblygu@sesiwnfawr.cymru
- Dyfarniad o £105,000
- Cynllun gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i asesu pa mor ymarferol yw datblygu System Ynni Lleol Clyfar yn yr ardal ac argymell dull priodol ar gyfer cyflawni.
- Diweddaraf- Astudiaeth i asesu dichonoldeb ac achos busnes ar gyfer datblygu Systemau Ynni Lleol Smart (SLES) yng Ngwynedd ac argymell dull priodol o weithredu.
Mae'r astudiaeth wedi ei gwblhau ac wedi adnabod tri ardal o fewn Gwynedd sydd â'r potensial i weithredu SLES, sy'n paru cynhyrchiant trydan gyda defnydd lleol, gan wneud cymunedau'n llai dibynnol ar system grid ardal.
Mae Tanygrisiau, pentref yn Ffestiniog, wedi roi mlaen i ddefnyddio SLES drwy dair gorsaf ynni dŵr lleol, gan gryfhau'r cynlluniau blaenorol i ddiogelu mynediad yr ardal at ynni'r ardal.
Mae'r astudiaeth dichonoldeb hefyd wedi cyflymu cynlluniau i ddatganoli'r broses o gynhyrchu ynni ar gyfer canolfan ddatgarboneiddio bresennol ym Mhenygroes, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi i osod a chynnal offer i ddatgarboneiddio cartrefi.
Yn ogystal, mae cynllun cysyniad newydd wedi ei nodi yn ystod yr astudiaeth i drydaneiddio systemau gwresogi mewn adeiladau cymunedol, fel ysgolion a chanolfannau hamdden yng Nghaernarfon, gyda chwmpas posib i efelychu'r cynllun ym Mhorthmadog, Pwllheli, a Thywyn.
Bydd y cyfleoedd ar gyfer SLES a gwresogi di-garbon yn golygu y bydd cymunedau'n llai dibynnol ar welliannau seilwaith grid drud sydd eu hangen yn aml mewn ardaloedd gwledig. Mae hyn yn arwain at amrywiaeth o fuddion lleol, megis buddsoddiadau mewn swyddi newydd ar gyfer cyflenwi, gosod a chynnal a chadw'r systemau newydd hyn yn ogystal â lleihau costau ynni i'r gymuned.
- Am wybodaeth pellach ewch i Smart Local Energy Systems – Feasibility Study | EA Technology
- Cyswllt: elgansionroberts@buegogleddcymru.co.uk
Gwybodaeth pellach am y gronfa ar gael drwy gysylltu â: CronfaAdfywioCymunedol@gwynedd.llyw.cymru