Cronfa Grant Cynllun Ailwefru

Os yw eich busnes yn y broses, neu wedi derbyn adolygiad o ganlyniad o fynd drwy'r Cynllun Ailwefru, gallwch nawr wneud cais am hyd at £5,000 o gyllid grant i helpu i weithredu argymhellion yr adolygiad. 

 

Pwy sy'n gymwys? 

Busnesau Gwynedd sydd wedi cael cefnogaeth drwy'r Cynllun Ailwefru, yn wynebu heriau ac yn awyddus i oroesi, tyfu neu arloesi.

Byddwn yn blaenoriaethu cwmnïau yn y sectorau Digidol, Digidol Creadigol, Proffesiynol, Technegol, Gwyddonol, Awyrofod ac Ynni, ond rydym yn agored i geisiadau o sectorau eraill.

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan fusnesau sydd eisoes wedi elwa o grant sylweddol (dros £25,000) yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. 

 

Faint sydd ar gael?

Maint y gronfa yw £50,000 a bydd rhaid i unrhyw gais llwyddiannus i'r gronfa ddarparu 50% o arian cyfatebol (preifat).

Er enghraifft, os oes gan eich cynllun gyfanswm cost o £12,000, gall y gronfa gyfrannu £5,000, gyda'r busnes yn cyfrannu £7,000. Pe bai'r cynllun cyfan yn costio £4,000 gall y gronfa gyfrannu £2,000.

Mae uchafswm o £5,000 ar gael i bob cais a bydd hwn yn cael ei ddyrannu ar sail gwerth am arian a'r effaith y bydd yn ei gael ar eich busnes – Gallwch ddarganfod mwy am y system sgorio yn y dogfennau isod. 

 

Beth sy'n gymwys?

Pwrpas y gronfa yw gweithredu rhai o'r argymhellion a ddaw o'r gefnogaeth a gawsoch drwy'r Cynllun Ailwefru.

 

Amserlen 

Gallwch gyflwyno cais ar unrhyw adeg tan fis Mawrth 2025, neu hyd nes bod y gronfa wedi'i chlustnodi'n llawn os yw hynny’n digwydd yn gynharach, ond rhaid cwblhau pob prosiect a'i hawlio'n llawn erbyn mis Mehefin 2025. 

 

Sut i wneud cais?

Os ydych wedi bod drwy'r Cynllun Ailwefru, neu wrthi'n gwneud hynny, siaradwch â'ch cyswllt Ailwefru am fanylion pellach am y grant. Os hoffech ymuno â'r Cynllun Ailwefru, cysylltwch â ailwefru@m-sparc.com.

 

Dogfennau ychwanegol 

Canllaw Sgorio Grant Ailwefru

Canllawiau Cyhoeddusrwydd Grant Ailwefru