Grant Gwella Sgiliau Gweithlu

Oes gennych weithwyr sydd angen uwch-sgilio ond yn wynebu rhwystrau?

Mae grant o hyd at £3,000 fesul busnes (ar sail hyd at 100% o gostau) ar gael i alluogi busnesau i hyfforddi gweithwyr sydd:

  • Ar hyn o bryd wedi’i hyfforddi i lefel 1 a 2 (Dysgu mwy am y lefelau)
  • Mewn swyddi lefel mynediad
  • Mewn tlodi gwaith

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i helpu busnesau i uwch-sgilio’u gweithwyr, trwy eu galluogi i ryddhau amser eu staff i hyfforddi, ac i oresgyn rhwystrau eraill.

Gallwch ddefnyddio’r grant yma i dalu am:

  • Hyfforddiant
  • Costau teithio
  • Costau cyllido person arall i wneud gwaith yr aelod staff sy’n cael eu hyfforddi, tra mae nhw’n derbyn yr hyfforddiant
  • Costau eraill ynghlwm â rhyddhau staff i fynychu hyfforddiant.

Diolch i arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) a ddyrannwyd gan Gyngor Gwynedd mae’r gronfa Grant Gwella Sgiliau Gweithlu nawr yn agored. Rhaid cwblhau’r broses hawlio erbyn mis Medi 2024, felly mae angen manteisio ar y cyfle cyn gynted â phosib.

 

Gwneud cais

Cyn gwneud cais, rhaid llenwi Ffurflen Datgan Diddordeb

Rhaid dychwelyd y ffurflen datgan diddordeb i GwaithGwynedd@gwynedd.llyw.cymru

 

Cefnogaeth bellach

Os oes gennych unrhyw anghenion hyfforddiant fel unigolyn neu fel busnes sydd ddim yn gymwys fel rhan o’r Grant Gwella Sgiliau Gweithle, gallwch barhau i gysylltu â Gwaith Gwynedd am gefnogaeth. 

Ffyniant Bro