Rhaglenni buddsoddi ffyniant bro a chymunedol Llywodraeth y DU

Fel rhan o’i agenda ffyniant bro (fel y amlinellwyd yn y Papur Gwyn Ffyniant Bro), mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pedair rhaglen buddsoddi hyd yn hyn. 

Mae’r rhaglenni yma yn cymryd lle’r Cronfeydd Ewropeaidd oedd ar gael yn flaenorol yng Nghymru ac wedi’u gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth DU hefyd wedi cyflwyno Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (Saesneg yn unig) yn senedd y DU. 

Cyflwynir rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r rhaglenni buddsoddi isod.

DIWEDDARAF:

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd nawr ar gau.

Darllenwch yma am ragor o fanylion:Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd

Close

 

Bydd y Gronfa Ffyniant Bro yn weithredol tan Mawrth 2025 ac yn buddsoddi £4.8 biliwn ar draws y DU. 

Mae’r gronfa yn cyllido prosiectau cyfalaf mawr a bydd yn cefnogi: 

  • adfywio canol trefi a’r stryd fawr (hyd at £20 miliwn)
  • asedau diwylliannol a threftadaeth (hyd at £20 miliwn) 
  • prosiectau trafnidiaeth leol (hyd at £50 miliwn) 

Dim ond awdurdodau lleol all gyflwyno cais i’r Gronfa

Gall ardaloedd cyflwyno un cais ar gyfer pob Etholaeth Seneddol o fewn eu ffiniau ac un cais trafnidiaeth leol.  Gall Cyngor Gwynedd felly gyflwyno hyd at dri chais. 

Cynhaliwyd rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Bro yn 2021.  Nid oedd unrhyw geisiadau o Wynedd yn llwyddiannus. 

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd 3 cais i ail rownd Cronfa Ffyniant Bro mis Awst 2022. 

  • Bywiogi Bangor – pecyn o gynlluniau yn cynnwys datblygiad Canolfan Iechyd a Lles, gwelliannau amgylcheddol i Bae Hirael, gwella cysylltedd oddi fewn i’r Ddinas a gwedd gyntaf o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Cynllun yn cyplysu ymyraethau yn gysylltiedig a iechyd a lles tra yn adfywio canol y ddinas.    
  • Coridor Gwyrdd Ardudwy - pecyn yn cynnwys adeiladu ffordd newydd i osgoi pentref Llanbedr, chreu mynediad newydd i’r maes awyr presennol yn ogystal â chyflwyno gwelliannau ehangach i’r ddarpariaeth cerdded a beicio, safleoedd bws a gwasanaeth gwefru ceir trydanol ar hyd coridor y A496 yn ardal Ardudwy
  • Llewyrch o’r Llechi 2023 – Pecyn o gynlluniau ar draws 3 o gymunedau y dyffrynnoedd llechi Gwynedd sydd yn adnabod cyfleon i uchafu ar y buddion i’r gymuned leol a’r economi yn sgil dynodiad Safle Treftadaeth y Byd yn ôl yn 2021. Cynllun sydd yn cynnig cyfleoedd a datblygiadau sydd yn cyfrannu tuag at adfywio y cymunedau hyn. Pecyn penodol yn canolbwyntio ar gynlluniau yn Ogwen, Peris a Ffestiniog. 

Bu i Lywodraeth Prydain yn Ionawr gyhoeddi’r cynlluniau llwyddiannus ar gyfer ail rownd Cronfa Ffyniant Bro. Derbyniwyd cadarnhad fod Llewyrch o’r Llechi yn llwyddiannus gyda buddsoddiad o £18.8m drwy Gronfa Ffyniant Bro tuag at becyn cyflawn werth tua £27m.

Mwy o wybodaeth am y Gronfa Ffyniant Bro  

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn darparu £2.6 biliwn ar draws y DU erbyn Mawrth 2025.  

Bydd cyllid cyfalaf a refeniw ar gael ar draws tair blaenoriaeth fuddsoddi: 

  • Cymuned a Lle
  • Cynorthwyo Busnesau Lleol, a
  • Phobl a Sgiliau 

Bydd pob ardal leol yn derbyn dyraniad ar sail fformiwla cyllido.  Dyrannwyd £24.4 miliwn i Wynedd ar gyfer y cyfnod hyd at Mawrth 2025 - mae’n ofynnol i £4.2 miliwn o’r dyraniad gael ei fuddsoddi yng nghodi lefelau rhifedd ymhlith oedolion.

Yng Nghymru, mae’n ofynnol i ardaloedd lleol cydweithio gydag ardaloedd eraill o fewn eu rhanbarth.  Mae Gwynedd yn rhan o ranbarth Gogledd Cymru, ynghyd a Sir Fôn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam. 

Mwy o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU  

DIWEDDARAF:

Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd nawr ar gau.

Darllenwch yma am ragor o fanylion:Cronfa Ffyniant Gyffredin: Gwynedd

Close

 

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn weithredol hyd at Mawrth 2025 ac yn buddsoddi £150 miliwn ar draws y DU. 

Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol geisio am arian cyfatebol i brynu a/neu adnewyddu asedau a chyfleusterau sydd i’w rhedeg er lles y gymuned leol. 

Bydd o leiaf 8 rownd bidio yn cael eu cynnal. Cynhaliwyd y rownd gyntaf yn 2021 ac agorwyd yr ail rownd agor ym Mehefin 2022. 

Agorwyd y drydedd ffenestr o Rownd 2 ar 15 Chwefror 2023 a bydd yn cau ar 14 Ebrill 2023 am 11:59am. Os byddwch yn ceisio yn ystod y cyfnod yma, bwriedir roi gwybod i chi am ganlyniad yn yr Haf  2023.

Mwy o wybodaeth am y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol  

Yn 2021, darparodd Llywodraeth y DU £200 miliwn ar draws y DU fel mesur interim cyn cyhoeddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. 

Cyflwynwyd ceisiadau i Lywodraeth y DU trwy law Cyngor Gwynedd, yn dilyn galwad agored a phroses blaenoriaethu. 

Roedd naw cais o Wynedd yn llwyddiannus gan sicrhau £2.61 miliwn. Rhaid i bob prosiect fod wedi cwblhau cyn 31 Rhagfyr 2022. 

Gweld mwy o wybodaeth am brosiectau lleol 

ac

Mwy o wybodaeth am y Gronfa Adfywio Cymunedol 


Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: FfyniantBroDU@gwynedd.llyw.cymru

 

Ffyniant Bro