Archif: Astudiaethau Achos – Datblygu eich busnes
Gweler isod erthyglau sy'n crynhoi sut mae busnesau Gwynedd wedi manteisio ar y cymorth sydd wedi bod ar gael i ddatblygu a gwella busnesau dros y blynyddoedd diwethaf.
Benthyciad busnes Cyngor Gwynedd yn galluogi ail-lansiad busnes lletygarwch hanesyddol yn Harlech
Gadawodd cyfnodau clo Covid-19 2020 a 2021 lawer o fusnesau mewn trafferthion, gyda llawer yn cau eu drysau am byth. Ond i un teulu, cynigiodd y pandemig gyfle iddynt, mewn ffordd anuniongyrchol, i ddechrau menter newydd sbon.
Bu Jason Way a’i deulu’n ddigon craff i sylweddoli, gan fod neb yn cael teithio dramor, fod Prydeinwyr yn treulio eu gwyliau gartref, ac roedd Eryri’n gweld cynnydd enfawr mewn twristiaeth rhwng y cyfnodau clo. Felly penderfynodd fynd amdani a phrynu tafarn a gwesty yn Harlech, prin 50 metr o’r castell. (Darllen mwy).
Bws gwennol trydan ar gael at ddefnydd y gymuned
Mae menter gymdeithasol yn Nyffryn Ogwen wedi derbyn grant sy’n eu galluogi i brynu bws gwennol trydan er budd trigolion lleol.
Bu Partneriaeth Ogwen yn llwyddiannus gyda’u cais i Gronfa Ewrop, ac mae’r bws 9 sedd wedi cyrraedd erbyn hyn.
O fis Ebrill i fis Hydref defnyddir y bws i gludo teithwyr o Fethesda i Lyn Ogwen ac yn ôl, gan wneud tair taith yn olynol bob dwy awr.
Yn ychwanegol i’r arian ar gyfer prynu’r bws, mae’r grant hefyd wedi eu galluogi i gyflogi tri gyrrwr lleol fydd yn dechrau gweithio ym mis Gorffennaf. (Darllen mwy).
Perchennog busnes yng Ngwynedd yn ennill gwobr glodfawr
Mae perchennog busnes lleol yn mwynhau llwyddiant dwbl eleni. Yn ogystal â nodi 15 mlynedd o fasnachu ym mis Tachwedd, mae Angharad Gwyn o Adra hefyd yn dathlu ennill y wobr am Fusnes Digidol / E-Fasnach y Flwyddyn yng ngwobrau Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) Cymru ym mis Ebrill.
Sefydlwyd Adra ym mis Tachwedd 2007 ac, ers hynny, mae’r busnes wedi hyrwyddo gwneuthurwyr a chynhyrchwyr Cymreig, gan werthu eu cynnyrch Cymreig unigryw drwy wefan Angharad, www.adrahome.com ac yn ei siop ffisegol ym Mharc Glynllifon. (Darllen mwy).
Kodergarten: Y cwmni arloesol yng Ngwynedd sy’n defnyddio systemau sy’n torri tir newydd i helpu busnesau bach, i wella cost-effeithlonrwydd awdurdodau lleol, sydd hefyd â’r potensial i achub bywydau.
Mae busnes yng Ngwynedd wedi ei greu a’i staffio gan gyn-weithwyr un o gwmnïau e-fasnach mwya’r wlad ar ddechrau’r 21ain ganrif yn gweithio ar nifer o brosiectau sy’n torri tir newydd yn y maes casglu a dadansoddi data ledled Cymru – gyda rhai ohonynt â’r potensial i achub bywydau. (Darllen mwy).
Cymuned yng Ngwynedd yn uno i achub tafarn hanesyddol ac i greu swyddi
Pan gaeodd ddrysau tafarn Ty’n Llan ym mhentref Llandwrog a’r dafarn yn cael ei rhoi ar y farchnad, ni fyddai’r pentrefwyr wedi dychmygu y byddai’r cyfle’n dod, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, iddynt i’w phrynu a’i hail-agor fel busnes llwyddiannus. (Darllen mwy).
Prosiect teulu i basio’r amser yn y cyfnod clo a drodd yn gyfle busnes
Gwireddodd fam ifanc o Bwllheli ei breuddwyd o ddechrau ei busnes ei hun, diolch i grantiau, cyngor busnes a chefnogaeth, a llawer o waith caled.
Roedd Alaw Williams yn trin gwallt cyn i’r pandemig daro. Ni allai fynd i’w gweithle arferol oherwydd y cyfnod clo, felly roedd adref gyda’i phartner a dau blentyn bach yn chwilio am ffyrdd i ddiddori’r plant.
“Dwi’n lwcus iawn fod gan fy rhieni fferm,” meddai Alaw. “Roedd gan fy mam hen focs ceffylau yn y cae ac felly meddyliais, ‘reit dwi am wneud rhywbeth hefo hwn!’ Felly aethon ni allan i’r caeau, a’r plant hefo ni, a dyna lle ddechreuodd pethau. Wnaethon ni wagio’r lle, dymchwel y lle’n gyfan gwbl, a dechrau o fanno.”
Canlyniad gwaith caled y teulu oedd Jinsan, bar jin symudol yn gwerthu jin a chwrw crefft o ledled Cymru mewn digwyddiadau a dathliadau. (Darllen mwy).
Cyn-bêldroediwr proffesiynol yn sgorio gyda grantiau a chyngor i lansio busnes yn ystod y cyfnod clo
Roedd cyn-bêldroediwr a wnaeth y penderfyniad i ddechrau busnes hyfforddiant pêl-droed ar gyfer plant yn ystod y cyfnod clo yn falch o ddarganfod fod digon o gefnogaeth ar gael i’w helpu i sefydlu ei fusnes.
Ymunodd Nathan Craig, o Gaernarfon, gydag Everton pan yn 12 mlwydd oed, gan ddod yn ysgolor blwyddyn gyntaf yn 2008. Daeth yn aelod rheolaidd o dîm Dan-18 Everton yn ystod y tymor 2008/09, gan symud ymlaen i’r ail dîm yn 2009/10 ble daeth yn chwaraewr rheolaidd y tymor wedyn. Ym mis Rhagfyr 2009 dechreuodd ei gêm gystadleuol gyntaf i’r tîm cyntaf. Ymunodd â Torquay United yn ddiweddarach, gan wneud 47 ymddangosiad cyn gadael yn 2014, ac wedyn chwaraeodd i Dref Caernarfon am nifer o flynyddoedd cyn gadael i ymuno â Flint Town United. (Darllen mwy).
Bragwr cwrw crefft yng Ngwynedd yn ehangu a chreu swyddi ar ôl derbyn grantiau
Mae bragdy gwobrwyedig ym Mhenygroes wedi derbyn grantiau fydd, ynghyd â chyfraniadau o arian y bragdy ei hun, yn helpu’r busnes i ehangu a chreu swyddi.
Derbyniodd Bragdy Lleu, a sefydlwyd yn 2013, gefnogaeth ariannol drwy Coastal Communities Fund Llywodraeth Cymru a’r rhaglen ARFOR Programme. Mae’r grantiau, gyda chyfraniadau ariannol y bragdy ei hun, wedi cyllido adeiladu Canolfan Ddehongli; prynu fan drydan, offer bragu newydd a wagen fforch godi; cyfraniad tuag at baneli solar; yn ogystal â chyllido dwy swydd am ddwy flynedd. (Darllen mwy).
Menter gymdeithasol yng Ngwynedd yn ehangu eu tîm ac yn datblygu prosiectau i weithredu ar hinsawdd yn ystod y cyfnod clo
Mae menter gymdeithasol wobrwyedig wedi ehangu eu tîm yn ystod y pandemig Covid, gan ychwanegu saith aelod newydd i’r staff fydd yn gyfrifol am drefnu cynulliadau hinsawdd mewn cymunedau yng Ngwynedd.
Mae Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), sydd wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, yn gweithio gyda chymunedau o amgylch gogledd orllewin Cymru, gan eu helpu i ymdopi gyda’r cynnydd yng nghostau tanwyddau ffosil tra’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Sefydlwyd y busnes yn 2014 i ganolbwyntio ar atgyfnerthu’r economi leol trwy weithio gyda chymunedau lleol ar brosiectau ynni. (Darllen mwy).
Busnes yn Aberdaron yn tyfu ac yn gwyrddio yn ystod y pandemig
Mae perchnogion busnes ym Mhen Llŷn wedi addasu i Covid-19 trwy drawsnewid y ffordd maent yn gwneud busnes yn gyfan gwbl.
Mae Geraint Jones, gyda’i wraig Gillian, wedi rhedeg Becws Islyn yn Aberdaron ers 2012. Er nad oeddent wedi pobi nac wedi coginio o’r blaen, prynodd y ddau beth oedd, ar y pryd, yn ‘gwt sinc’ ac wedi dim ond ychydig ddiwrnodiau o hyfforddiant gan y perchennog blaenorol, wedi trawsnewid y busnes yn gyfan gwbl.
Roedd Becws Islyn yn dod yn ei flaen yn dda. “Ac wedyn cawsom syrpreis yn 2020 – daeth Covid a phenderfynu difetha popeth!”
Ond ni roddodd hyn stop ar y pobi. Dechreuwyd gyda gwasanaeth danfon i’r cartref ac yn ffodus, gyda’r cwpwl a’u mab a’u merch a’u partneriaid nhw yn byw yn yr un eiddo dros y cyfnod clo, aethant i’r afael â’r dasg gyda’i gilydd gan greu gwasanaeth dosbarthu ffyniannus. (Darllen mwy).
Dylunydd arobryn o Wynedd yn defnyddio’i phrofiad cyfnod clo fel cyfle i wella ei busnes
Defnyddiodd y dylunydd a’r gwneuthurwr arobryn Ann Catrin Evans y cyfyngiadau Covid i’w mantais drwy gymryd cyrsiau i wella ei sgiliau busnes a chomisiynu siop ar-lein newydd i werthu ei gemwaith unigryw sydd wedi’i wneud â llaw.
O Ddyffryn Ogwen yn wreiddiol, mae Ann wedi bod yn wyneb cyfarwydd yng Nghaernarfon ers iddi lansio ei busnes ym 1989. Mae ganddi weithdy yng Nglynllifon ers 1991, ac fe agorodd ei siop, Siop iard, yn Stryd y Plas, wyth mlynedd yn ôl.
Wedi graddio o’r coleg yn Brighton ym 1989, sefydlodd Ann weithdy ar unwaith gyda chymorth grantiau llywodraeth leol, gan weithio o feudy ar fferm y teulu am ddwy flynedd. “Roedd yn unig iawn gan nad oedd dim gwartheg,” meddai. “Roeddwn i ar fin rhoi fyny yr adeg hynny, roedd hi mor anodd.”
Ond, wedyn, fe enillodd y Fedal Aur am y campwaith celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd ym 1993. “Pan enillais i’r wobr honno rhoddodd yr hwb yna yr oeddwn ei angen i’n ngwthio i ‘mlaen.” (Darllen mwy).
Gwerthwr tai ym Mhen Llŷn yn manteisio ar dechnoleg ac yn gweithio gyda ffotograffydd lleol i barhau i fasnachu yn ystod y pandemig
Fel cymaint o berchnogion busnesau bach, roedd ymateb cyntaf Susan Jones i’r cyfyngiadau Covid yn un o banig braidd. Ond tra roedd siopa oedd yn gwerthu eitemau angenrheidiol yn cael aros yn agored, a mathau eraill o fusnes yn gallu cael eu rhedeg o lofftydd sbâr, roedd busnes Susan yn wahanol – am mai gwerthwr tai annibynnol ydi Susan.
“Roeddwn yn teimlo fel fy mod wedi syrthio dros ddibyn,” meddai. Pan roddodd Cymdeithas y Gyfraith y cyfarwyddyd na allech gyfnewid contractau, roedd yn golygu, yn syml, fod rhaid i bob dim stopio.” (Darllen mwy).
Dychweliad y ffair grefftau: Anrheg Nadolig i’w groesawu i fusnesau crefftio bach
Wrth i’r cyfnod clo agosáu, roedd yr anallu i fynd i gemau chwaraeon, i briodasau, i fedyddiadau a thafarndai yn newyddion mawr. Ond ychydig iawn o sylw fu ar y cyfryngau am ffeiriau crefft, rhywbeth mae llawer o berchnogion busnes bach yn dibynnu arnynt am incwm.
Crefftwyr fel Deborah Williams, sydd yn rhedeg Mooshkin yng Ngwynedd, sy’n gwneud anrhegion â llaw, a fethodd y ffeiriau crefft a’r marchnadoedd yn fawr – a hynny nid yn unig oherwydd y golled mewn incwm. (Darllen mwy).
Gwasanaeth rhad ac am ddim ym Mhorthmadog yn helpu busnesau ac unigolion i hogi eu sgiliau creadigol
Mae gwasanaeth anghyffredin, rhad ac am ddim, ar gyfer busnesau ac unigolion yn gwneud defnydd da o siop wag ar y stryd fawr ac yn helpu pobl i ddysgu sgiliau ymarferol creadigol newydd.
Lansiodd Ffiws, sy’n rhan o Arloesi Gwynedd Wledig, ym mis Medi 2019 ac mae wedi ei leoli mewn hen siop bwci ar Stryd Fawr Porthmadog. Wedi ei ariannu yn rhannol gan gronfa ARFOR Cyngor Sir Gwynedd, gyda gweddill y cyllid yn dod drwy’r rhaglen LEADER, mae Ffiws yn darparu ‘Gofod Gwneud’ sy’n galluogi defnyddwyr i roi cynnig ar brosesau creadigol cyffrous yn cynnwys argraffu 3D, argraffu sublimation a gwasg gwres, torrwyr laser ac engrafiad, torrwyr finyl a gweithio â phren gan ddefnyddio peiriant CNC. (Darllen mwy).
Trefi Smart ar gyfer ffonau clyfar: sut mae trefi a phentrefi Gwynedd yn cadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr
Yn yr oes hon o ymgysylltu, mae cadw mewn cysylltiad o ble bynnag yr ydych chi yn flaenoriaeth uchel i lawer. Felly mae bod heb signal ffôn, sy’n rhwystro pobl rhag cysylltu, yn gallu bod yn broblem.
Yn anffodus, nid yw pob signal ffôn gystal â’i gilydd. Mewn rhai trefi cewch signal cryf gan un darparwr ond un gwan gan ddarparwr arall – a dim signal o gwbl gan rwydweithiau eraill. Felly sut allwch chi gadw mewn cysylltiad?
Yn 2016 daeth perchnogion busnesau yn Aberdaron, oedd yn profi derbyniad ffôn symudol gwael a dim band eang cyflym, i weithio gydag Arloesi Gwynedd Wledig ac arbenigwyr cyfathrebu ar brosiect peilot i osod rhwydwaith wi-fi i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim i’r pentref. Yn ei hanfod, byddai’n bownsio signal wi-fi o un rhan o’r pentref i ran arall, gyda’r system yn gofyn i’r defnyddwyr ddarparu cyfeiriad e-bost a hwythau wedyn yn derbyn wi-fi yn rhad am ddim pan fyddent yn y pentref.
Symudwn ymlaen i 2021 ac erbyn hyn mae deg o drefi a phentrefi yn Ngwynedd wedi cofrestru i ddilyn y cynllun peilot. O dan y cynllun ‘Trefi Smart’ (‘Smart Towns’), a esblygodd o’r peilot yn Aberdaron, mae rhwydweithiau wi-fi cyhoeddus wedi eu gosod yn Y Bala, Beddgelert, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Llan Ffestiniog, Penygroes, Porthmadog a Phwllheli erbyn hyn – ac yn Aberdaron, wrth gwrs, ble dechreuodd popeth. (Darllen mwy).
Tŷ hanesyddol yn cael ei achub: gan droi'n westy bwtîc
Mae adeilad sydd wedi chwarae rôl bwysig yn nhreftadaeth ddiwydiannol Cymru am dros dwy ganrif wedi ei droi i mewn i westy bwtîc, gan greu llety moethus ar gyfer ymwelwyr a swyddi ar gyfer pobl leol.
Roedd Plas Weunydd, cartref hanesyddol y teulu Greaves, sef perchnogion chwarel lechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog o ganol y 19eg ganrif, yn cynnwys 24 o ystafelloedd sydd wedi’u dylunio’n unigryw y gall ymwelwyr eu defnyddio fel lleoliad wrth iddynt archwilio Eryri, neu ar gyfer seibiant bach moethus.
Mae’r llety bwtîc sydd ar gael ym Mhlas Weunydd yn gain ac yn gyfforddus, gyda bar a lolfa ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod caled o antur. (Darllen mwy).
Technoleg newydd a chynnydd mewn gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn helpu un o atyniadau poblogaidd Eryri i ddarparu gwell profiad archebu wedi i’r cyfnod clo lacio
Mae un atyniad poblogaidd yn Eryri wedi mabwysiadu technoleg newydd i helpu i reoli archebion yn fwy effeithlon a chyda phrofiad llyfnach ar gyfer eu cwsmeriaid, ar ôl adnabod bod ‘archebu o flaen llaw’ yn arfer fydd gyda ni am y dyfodol rhagweladwy.
Roedd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, sy’n cynnal teithiau trên stêm hanesyddol a darluniadwy rhwng Caernarfon, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog, yn wynebu’r dilema cyfarwydd erbyn hyn o sut i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel wedi i’r cyfnod clo ddechrau llacio.
Yn flaenorol, gallai teithwyr ddringo ar ac oddi-ar y trenau heb archebu ticed o flaen llaw.
Ond ers i’r cyfnodau clo ddechrau llacio, ac i atyniadau allu dechrau ailagor, mae angen llawer mwy o gynllunio – gan gwsmeriaid a gan ddarparwyr gwasanaeth.
Roedd gan Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri system dicedu ar-lein eisioes ond roeddent yn teimlo fod cwsmeriaid yn gweld y system braidd yn anhylaw i’w defnyddio. Wedi gwneud ychydig o ymchwil daethant ar draws FareHarbor, gwasanaeth sy’n ymgorffori archebion gyda Profi Olrhain Diogelu ac yn galluogi Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri i werthu cynnyrch megis arweinlyfrau a hamperi yn ogystal â’u galluogi i negeseuo cwsmeriaid ar y cyd. (Darllen mwy).
Busnes yng Ngwynedd yn creu hanes
Fe lansiodd y cwmni, sy’n enwog am ei jin Cymreig a’i liqueurs, ei wisgi cyntaf ar Fai 17eg – sef, drwy gyd-ddigwyddiad, Diwrnod Wisgi y Byd – ac fe werthodd bob un o’r 2,000 o boteli o fewn diwrnod.
Whisgi Brag Sengl Aber Falls yw’r cyntaf i gael ei ddistyllu yng Ngogledd Cymru mewn 120 o flynyddoedd, ac fe aeth ar werth wrth i bum distyllfa wisgi yng Nghymru ddechrau eu cais am statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ar gyfer wisgi Cymreig.
Ar yr un diwrnod, agorasant eu canolfan ymwelwyr newydd sbon sy’n cynnwys bistro, siop a gofod arddangos. Mae hefyd yn cynnwys ‘lab jin’ ble gall ymwelwyr ddylunio a chreu eu jin pwrpasol eu hunain. Gallent hefyd fwynhau profiad ciniawa awyr agored ar y teras gyda golygfeydd anfarwol o’r ddistyllfa a Mynyddoedd y Carneddau. Mae’r ganolfan ymwelwyr newydd, sydd wedi costio oddeutu £1.5m i’w hadeiladu, yn darparu swyddi ar gyfer pobl leol. (Darllen mwy).
Siop ar y stryd fawr yn profi hwb enfawr mewn gwerthiannau ar-lein diolch i grant ardrethi, arloesiad a chwsmeriaid hynod o ffyddlon
Mae grantiau ardrethi, y cyfryngau cymdeithasol a chwsmeriaid hynod o ffyddlon wedi helpu un busnes yng Ngwynedd nid yn unig i oroesi’r cyfnod clo, ond i ddod allan yr ochr arall yn gryfach nag erioed.
Mae Tom a Myfanwy Gloster wedi rhedeg eu siop ym Mhorthmadog ers 2014. Tra mae Tom, sydd wedi bod yn grochenydd ers 2004, yn creu’r nwyddau crochenwaith nodweddiadol y maent yn eu gwerthu, mae Myfanwy yn gofalu am y marchnata – rhywbeth mae hi’n dalentog iawn am ei wneud.
Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, yn dilyn y panig ar y dechrau, penderfynodd y cwpl wneud gwelliannau.
Roedd ganddynt wefan e-fasnach eisioes, un oedd yn gwneud yn dda. Ond os oedd y Glosters am dalu costau rhedeg siop wag, byddai angen i’r wefan wneud yn well. (Darllen mwy).
Technoleg a hyfforddiant yn helpu darparwr llety i baratoi i ailagor yn dilyn y cyfnod clo
“Angen yw mam pob dyfais”, ydi’r hen ddywediad. Mae hyn yn sicr yn wir am Sarah Heyworth ac adferiad ei busnes yn dilyn y cyfnod clo.
Mae Sarah yn gyd-berchennog ar Graig Wen, safle llety aml-fath ger Dolgellau, sy’n cynnig gwely a brecwast, bythynnod a iwrthau i ymwelwyr.
Yn ystod y cyfnod clo, roedd Sarah yn ddiolchgar iawn i dderbyn cyllid grant gan Gyngor Gwynedd a hyfforddiant gan Superfast Business Wales – a pheth hyfforddiant glampio gan Sarah Riley – fel fod popeth yn barod i gychwyn unwaith fydd Cymru’n barod i agor i ymwelwyr unwaith eto. Mae hi hefyd wedi gallu gwasgu amser i mewn ar gyfer Cynllun Llysgennad y Parc Cenedlaethol, drwy wirfoddoli i gasglu sbwriel ar Cader Idris. (Darllen mwy).
Technoleg arloesol i godi refeniw yn ystod y cyfnodau clo yn dod â gwobr o fri i atyniad poblogaidd
Mae un o atyniadau hynaf ardal Eryri Mynyddoedd a Môr wedi ennill un o wobrau’r diwydiant fel canlyniad i ddod o hyd i ffordd arloesol i godi incwm yn ystod cyfnod clo.
Roedd system gwe-gamerâu Reilffordd Talyllyn yn cael ei mwynhau gan 565,000 o wyliwyr ledled y byd – wedyn daeth y pandemig Covid-19, gan fygwth incwm y Rheilffordd.
Wedi eu hysbrydoli gan boblogrwydd y system gwe-gamerâu, datblygodd Rheilffordd Talyllyn wasanaeth tanysgrifio ar-lein cyhoeddus, sef Canolfan Reoli Talyllyn (CRT), gyda’r cyhoedd yn gallu tanysgrifio iddo am £5 y flwyddyn. Datblygwyd y system gan ddefnyddio arbenigedd mewnol fel rhan o brosiect meistr, mae gan y CRT 400 o danysgrifwyr o gwmpas y byd yn barod. (Darllen mwy).
Cofiwch gadw ar y blaen drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr cefnogi busnes y Cyngor a dilyn @BusnesGwynedd ar Twitter.