Cwrw Tŷ Mo

Busnes: Cwrw Tŷ Mo

Lleoliad: Bethesda

Swm y grant: £12,912.00 

Derbyniodd Cwrw Tŷ Mo Grant Datblygu Busnes Cyngor Gwynedd (Cronfa Sbarduno) am offer bragu a gweini cwrw i’w galluogi i dyfu’r busnes.  

Pan gododd y cyfle i symud y gweithrediadau bragu i leoliad parhaol ac agor bar, dyma oedd y cam nesaf naturiol i'r perchennog, Morgan Vallely. Nawr wedi'i leoli ar Stryd Fawr Bethesda, mae Cwrw Tŷ Mo yn prysur ddod yn ffefryn lleol.   

Roedd hi’n bwysig i Morgan fod pob cwsmer yn gallu cael hwyl wrth ddangos gwerthfawrogiad o'r Gymraeg felly mae gan y cwrw enwau Cymraeg unigryw a ysbrydolwyd gan chwedlau, a graffeg trawiadol a grëwyd gan arlunydd lleol.  

"Rwy'n gwerthfawrogi'r gronfa sbarduno gan ei fod wedi fy helpu i wireddu fy mreuddwyd o fod yn berchen ar asedau a fydd yn datblygu'r bragdy, yn ogystal â gallu arddangos mwy o gynhyrchion i gwsmeriaid sy'n ymweld â'r bar." – Morgan Vallely, perchennog.