Pensel, Caernarfon

Eiddo: 10 & 12 Stryd y Plas
Lleoliad: Caernarfon
Swm y grant: £37,420.00 

Mae eiddo Pensel yn gartref i ddau fusnes eiconig o Gaernarfon, Palas Print a Lotti & Wren, yng nghanol Stryd y Palas lliwgar.   

Pan gododd y cyfle i wneud gwaith uwchraddio i'r adeilad, dyma'r amser perffaith i sicrhau y gellid ei ddiogelu i’r dyfodol. Gyda chynaliadwyedd yn bryder allweddol, roedd y gwaith a wnaed yn cynnwys trwsio ac uwchraddio elfennau o'r adeilad sydd yno eisoes, fel y to a'r ffenestri a gosod arwyddion newydd i sicrhau y byddai'n weladwy am flynyddoedd i ddod.   

Yn ogystal â bod â chynaliadwyedd mewn golwg, crëwyd gwell mynediad i'r ardd gefn fel y gallai'r ddau fusnes gynnal digwyddiadau yn ystod misoedd yr haf.   

"Bydd cwblhau'r gwaith hwn yn dod ag arbedion cost diolch i filiau ynni is ac mae gweld y math hwn o waith sy'n cael ei wneud ar yr adeilad yn annog eraill i wneud yr un peth. Mae cael ffenest siop dda yn hanfodol i ddod â chwsmeriaid i mewn!" – Selwyn Williams, Cyd-Perchennog Pensel.