Busnes yn Aberdaron yn tyfu ac yn gwyrddio yn ystod y pandemig

Mae perchnogion busnes ym Mhen Llŷn wedi addasu i Covid-19 trwy drawsnewid y ffordd maent yn gwneud busnes yn gyfan gwbl.

Mae Geraint Jones, gyda’i wraig Gillian, wedi rhedeg Becws Islyn yn Aberdaron ers 2012. Er nad oeddent wedi pobi nac wedi coginio o’r blaen, prynodd y ddau beth oedd, ar y pryd, yn ‘gwt sinc’ ac wedi dim ond ychydig ddiwrnodiau o hyfforddiant gan y perchennog blaenorol, wedi trawsnewid y busnes yn gyfan gwbl. 

Flwyddyn ar ôl prynu’r busnes, dymchwelwyd y cwt sinc a daeth adeilad hardd wedi ei blastro â chalch, gyda tho gwellt, yn ei le. Adeilad sy’n ymddangos fel y gallasai fod wedi gweini pererinion y 13eg ganrif ochr yn ochr â’r adeiladau hynafol sydd gerllaw. 

“Wnaethon ni benderfynu adeiladu becws to gwellt newydd er mwyn i bobl gael rhywbeth i siarad amdano,” meddai Geraint. “Yn hytrach na’r bara’n unig, gallent siarad am yr adeilad hefyd. Dwi’n meddwl ei fod yn reit eiconig erbyn heddiw. Os oes cwsmer yn dod i mewn a’r peth cyntaf maen nhw’n holi amdano ydy’r to gwellt, mae o’n ddechrau da tydi?” 

Roedd Becws Islyn yn dod yn ei flaen yn dda. “Ac wedyn cawsom syrpreis yn 2020 – daeth Covid a phenderfynu difetha popeth!”

Ond ni roddodd hyn stop ar y pobi. Dechreuwyd gyda gwasanaeth danfon i’r cartref ac yn ffodus, gyda’r cwpwl a’u mab a’u merch a’u partneriaid nhw yn byw yn yr un eiddo dros y cyfnod clo, aethant i’r afael â’r dasg gyda’i gilydd gan greu gwasanaeth dosbarthu ffyniannus.

Gan fod popeth wedi mynd mor dda a hwythau’n gwneud cymaint o ddanfoniadau o amgylch ardal Nefyn, prynasant gaffi yn Nefyn gan ei droi yntau yn fecws hefyd. Ar ben hynny, roedd cynnydd yn y danfoniadau yn agosach at Bwllheli hefyd – felly prynasant eiddo masnachol yno er mwyn ei drawsnewid yn fecws, gan greu swyddi ar gyfer dau neu dri o bobl leol.

Gwnaed y penderfyniad, yng nghanol pandemig, i adeiladu estyniad i’r becws, gan dderbyn grant bach Arfor drwy Gyngor Gwynedd. “Mae pob dim yn help, yn tydi?” meddai Geraint.

Roedd Geraint a Gillian yn pryderu am effaith holl filltioedd ychwanegol cymaint o ddanfoniadau ar yr amgylchedd. Felly prynwyd dwy fan drydan, gyda grant gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir yn cyfrannu at gost un a’r busnes yn talu am y llall. 

“Y cynllun yw i fynd yn fwy carbon niwtral,” yn ôl Geraint. “Rydan ni’n ceisio cael ‘popeth yn gompostadwy’ yn y becws rŵan, gyda chaffi steil newydd o tua canol mis Mawrth i Ebrill.”

Y syniad yw i leihau’r defnydd o drydan a dŵr yn sylweddol trwy weini bwyd a diodydd mewn bocsys a chwpanau sy’n gompostadwy. Bydd cwsmeriaid yn gollwng rhain mewn bin wrth iddynt adael, a bydd popeth yn cael ei droi’n wrtaith a’i wasgaru dros y tir ble bydd Geraint wedyn yn tyfu gwenith. 

Maent yn gobeithio derbyn grant arall – gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol y tro hwn – i atgyweirio hen felin Aberdaron er mwyn ei chael i weithio eto. Y cynllun yw i Fecws Islyn felino ei flawd ei hun ar gyfer pobi. “Rydym yn ceisio gwneud cymaint ag y gallwn ni rŵan i leihau ein hôl-troed carbon. Dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn ac fe ddaw â mwy o gwsmeriaid i’r pentref yn fy marn i.”

Mae prosiect arall ar y gorwel yn Aberdaron, un sydd eto’n anelu i ddenu mwy o ymwelwyr yn ystod y gaeaf. Gyferbyn â’r felin mae hen siediau, a gobeithio y gellir eu troi yn unedau masnachol bychain o fewn blwyddyn neu ddwy. Y syniad yw i rhentu’r unedau yma i fusnesau lleol ac i gael mwy o siopau yn y pentref. “Dydyn ni ddim eisiau iddi fynd yn brysurach yn yr haf, ond yn y gaeaf byddai’n braf gweld mwy o fywyd yn y pentref. Dim ond gobeithio na fydd yna unrhyw rwystrau yn y broses gynllunio pan ddaw yr amser hynny.”

 

 

Becws Islyn