Busnes yng Ngwynedd yn creu hanes

Fe lansiodd y cwmni, sy’n enwog am ei jin Cymreig a’i liqueurs, ei wisgi cyntaf ar Fai 17eg – sef, drwy gyd-ddigwyddiad, Diwrnod Wisgi y Byd – ac fe werthodd bob un o’r 2,000 o boteli o fewn diwrnod.

Whisgi Brag Sengl Aber Falls yw’r cyntaf i gael ei ddistyllu yng Ngogledd Cymru mewn 120 o flynyddoedd, ac fe aeth ar werth wrth i bum distyllfa wisgi yng Nghymru ddechrau eu cais am statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ar gyfer wisgi Cymreig.

Ar yr un diwrnod, agorasant eu canolfan ymwelwyr newydd sbon sy’n cynnwys bistro, siop a gofod arddangos. Mae hefyd yn cynnwys ‘lab jin’ ble gall ymwelwyr ddylunio a chreu eu jin pwrpasol eu hunain. Gallent hefyd fwynhau profiad ciniawa awyr agored ar y teras gyda golygfeydd anfarwol o’r ddistyllfa a Mynyddoedd y Carneddau. Mae’r ganolfan ymwelwyr newydd, sydd wedi costio oddeutu £1.5m i’w hadeiladu, yn darparu swyddi ar gyfer pobl leol.

Mae distyllu wisgi yn cael effaith bositif ar fusnesau Cymreig eraill yn barod. Mae’r cwmni’n caffael ei haidd brag o Sir Benfro; rhoddir ‘grawn y distyllydd’ i’r ffermwr llaeth lleol, sydd wedi ei leoli nesaf at y ddistyllfa, i fwydo ei gyr. Mae llaeth y gwartheg hyn yn mynd i Hufenfa De Arfon, ger Pwllheli.

Mae Distyllfa Aber Falls wedi derbyn peth cefnogaeth a chyllid busnes ac wedi gweithio gyda chynllun ‘Clwstwr Bwyd Da’ Cywain ym Menter a Busnes a chyda Chronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru.

Bydd y gefnogaeth gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir hefyd yn galluogi Aber Falls i ddatblygu marchnad ffermwyr ar y safle, gan helpu gyda’r strategaeth fwyd a diod o fewn Cymru, tra’n cefnogi mwy o fusnesau lleol drwy greu llwyfan ar gyfer eu cynnyrch.

Sefydlwyd Gronfa Cymunedau’r Arfordir, sydd wedi cau erbyn hyn, yn 2012 ac fe ddarparodd 102 o brosiectau gyda chyfanswm o £22m mewn cyllid. Wedi ei gweithredu gan Cronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol, ar ran Llywodraeth Cymru, sefydlwyd y gronfa er mwyn annog datblygiad economaidd cymunedau arfordirol yn Nghymru drwy ddarparu grantiau i greu tŵf economaidd cynaliadwy a swyddi.

Mae Cywain yn gynllun sy’n cael ei reoli gan Menter a Busnes, gan ddarparu cefnogaeth datblygu busnes a chynnyrch i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol i wella sgiliau ac, drwy ei Glwstwr Bwyd Da, yn annog busnesau bwyd a diod Cymreig i gydweithio.

Yn ychwanegol i’r ganolfan ymwelwyr newydd, mae Aber Falls yn cynnig teithiau tywys o’r ddistyllfa sy’n para am awr, ac fe ellir eu harchebu ar-lein.

Distyllfa Aber Falls

Distyllfa Aber Falls DSC_0712