Bws gwennol trydan ar gael at ddefnydd y gymuned

Mae menter gymdeithasol yn Nyffryn Ogwen wedi derbyn grant sy’n eu galluogi i brynu bws gwennol trydan er budd trigolion lleol.

Bu Partneriaeth Ogwen yn llwyddiannus gyda’u cais i Gronfa Ewrop, ac mae’r bws 9 sedd wedi cyrraedd erbyn hyn. 

O fis Ebrill i fis Hydref defnyddir y bws i gludo teithwyr o Fethesda i Lyn Ogwen ac yn ôl, gan wneud tair taith yn olynol bob dwy awr. 

Yn ychwanegol i’r arian ar gyfer prynu’r bws, mae’r grant hefyd wedi eu galluogi i gyflogi tri gyrrwr lleol fydd yn dechrau gweithio ym mis Gorffennaf.

Yn ystod y tymor distaw bydd y bws a’r gyrrwyr ar gael i gefnogi grwpiau a mentrau lleol er mwyn cludo trigolion lleol i wahanol weithgareddau. Defnyddiwyd y bws yn barod gan y gymuned leol, yn cynnwys taith i Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych a diwrnod allan ym Miwmares ar gyfer trigolion hŷn.

Mae’r cynlluniau i’r dyfodol yn cynnwys rhoi cyfleoedd i glybiau chwaraeon, ysgolion a sefydliadau amgylcheddol lleol, megis Partneriaeth Cwm Idwal, i gludo gwirfoddolwyr i’r ardal mewn cerbyd eco-gyfeillgar.

Bydd y gwasanaeth sefydlog rhwng Bethesda a Llyn Ogwen yn lansio ar 21 Gorffennaf, gan redeg yn ddyddiol, heblaw am ar ddydd Mercher pan na fydd y bws yn weithredol. Am fanylion llawn am yr amserlen, neu am wybodaeth ar gyfer llogi’r bws trydan ar gyfer defnydd cymunedol, e-bostiwch cludiant@ogwen.org neu ffoniwch ar 01248 602131 os gwelwch yn dda.