Cymuned yng Ngwynedd yn uno i achub tafarn hanesyddol ac i greu swyddi
Pan gaeodd ddrysau tafarn Ty’n Llan ym mhentref Llandwrog a’r dafarn yn cael ei rhoi ar y farchnad, ni fyddai’r pentrefwyr wedi dychmygu y byddai’r cyfle’n dod, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, iddynt i’w phrynu a’i hail-agor fel busnes llwyddiannus.
Dengys cofnodion fod adeilad o rhyw fath wedi sefyll ar y safle ble mae’r dafarn yn sefyll heddiw ers yr 17eg ganrif. Mae’r adeilad presennol, sydd wedi ei restru fel Gradd ll, yno ers yr 1850au, a hynny fel rhan o stâd eang yr Arglwydd Niwbwrch.
Gadawodd denant reolwr diweddaraf y dafarn yn 2017, gan adael y pentref heb unman i’r gymuned gyfarfod, i gymdeithasu ac i ddathlu. Dros y ddwy flynedd nesaf, er fod yr adeilad wedi ei roi ar y farchnad agored gan ei berchennog, ni werthodd yr adeilad; ac wedyn bu farw’r perchennog, gan adael ei phortffolio sylweddol o eiddo i nifer o elusennau.
Erbyn mis Chwefror 2021 roedd y dafarn wedi ei rhestru fel gwerthiant profiant ac fe ostyngwyd y pris – ac fe ddechreuodd y pentrefwyr ystyried a fyddai’n bosibl iddynt ei diogelu rhag cael ei throi’r gartref preifat, gan ddod at ei gilydd i godi digon o arian, nid yn unig i brynu Ty’n Llan, ond i’w hail-agor fel y canolbwynt cymunedol ffyniannus yr arferai fod.
Ffurfiodd cymuned agos Llandwrog bwyllgor, a chyda’r pwyllgor hwnnw, gynllun gweithredu. Y cam cyntaf oedd i ffurfio cymdeithas budd cymunedol ac i ofyn i’r gymuned ehangach am gymorth ar ffurf ‘addewidion benthyciad’. Daeth cynigion ysgrifenedig o fenthyciadau, yn amrywio o’r cannoedd i rai miloedd o bunnoedd, i mewn mor sydyn, o fewn ychydig ddyddiau roedd gan y gymuned fwy na digon yn y cadw-mi-gei rhithiol i wneud cynnig am yr adeilad, cynnig a dderbyniwyd.
Rŵan i gam dau: y cynnig cyfranddaliadau cymunedol. Bu chwe wythnos o weithgarwch dwys ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag enwau adnabyddus Cymreig yn cynnwys Dewi Pws, Mari Lovgreen a Rhys Ifans yn cael eu perswadio i greu fideos yn cefnogi’r fenter. Yn rhyfeddol, cyrhaeddwyd y targed cyfranddaliadau – a dweud y gwir codwyd mwy na’r targed – gan wneud hynny mor sydyn na fu angen y benthyciadau a addawyd.
Gwerthwyd y cyfranddaliadau am £100 yr un, ac mae’n rhaid i’w perchnogion eu cadw am leiafswm o dair blynedd. Gall unrhyw un brynu cyfranddaliadau, ond os yw’r unigolyn yn llai nag 16 oed mae’n rhaid iddynt gael eu cadw mewn ymddiriedolaeth gan riant neu warchodwr. Gan fod Menter Ty’n Llan yn gymdeithas budd cymunedol yn hytrach na busnes, mae’r ‘cyfranddalwyr’ mewn gwirionedd yn ‘aelodau’ ac, yn unol â hynny, yn cael pleidleisio i benderfynu os yw’r gymdeithas am dalu difidendau ai peidio. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid i’r dafarn wneud elw cyn bod modd ystyried talu difidendau – ond yn ôl Wyn Roberts, sy’n aelod o’r pwyllgor, nid yw pobl yn gyffredinol yn buddsoddi yn y pethau hyn er mwyn gwneud arian; maent yn gwneud hyn am eu bod am gefnogi menter leol er budd y gymuned.
Gyda thafarn ychydig yn adfeiliedig yn eu meddiant, ffurfiwyd pwyllgor canolog a nifer o is-grwpiau er mwyn gallu gwneud cynlluniau a chychwyn ar yr adnewyddiadau. Aethant ati i recriwtio gwirfoddolwyr i lanhau a phaentio’r dafarn ac i wneud manion eraill, ac fe wirfoddolodd adeiladwr lleol i drwsio’r to oedd yn gollwng. Gweithiodd y gymuned gyfan gyda’i gilydd i sicrhau y gallai’r dafarn agor unwaith eto – er mai ond ar gyfer gwerthu diodydd fyddai hynny am y tro, gyda gwerthu bwyd yn ganolog i’r cynlluniau i’r dyfodol; mae cais yn cael ei ddatblygu i adeiladu estyniad i’r cefn er mwyn ei ddatblygu fel bwyty ac fel cyfleuster cymunedol mwy na’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd.
Erbyn canol mis Rhagfyr 2021 gallai drysau Ty’n Llan agor unwaith eto yn dilyn cyfnod o bedair blynedd o fod ar gau. Ac, wrth gwrs, roedd hynny brin wythnos cyn i gyfyngiadau Covid Gŵyl San Steffan ddod yn weithredol, gan olygu y bu’n rhaid lleihau’r niferoedd yn y dafarn am gyfnod.
Er y rhwystr hwnnw, mae Ty’n Llan yn gwbl agored eto erbyn hyn, ac wedi ei staffio’n llawn; ac yn wahanol i lawer o fusnesau lleol eraill, nid yw’r dafarn wedi cael unrhyw drafferth dod o hyd i staff awyddus. Ac mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair: yn ychwanegol i’r digwyddiadau rheolaidd presennol yn y dafarn, sy’n cynnwys clwb cerdded, grŵp ymarfer corff eistedd i lawr i bobl hŷn, a sesiwn ‘panad a sgwrs’ bob dydd Gwener, mae cynlluniau ar gyfer cerddoriaeth fyw, noson gwis rheolaidd, sesiynau sgwrsio Cymraeg ar gyfer dysgwyr, a rhywbeth tebyg ar gyfer Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg.
Mae’r pentrefwyr yn hynod falch o’r hyn maent wedi ei gyflawni, ac mae bwrdd yn ei le sydd â chyfoeth o brofiad perthnasol, gwybodaeth ac ymrwymiad i redeg y cyfleuster cymdeithasol gwerthfawr yma i’r dyfodol.
Ac mae Wyn Roberts yn awyddus i dynnu sylw at sut mae pethau’n mynd, “Mae’n llwyddo ac yn mynd yn dda; rydan ni am i bobl wybod fod menter gymdeithasol yn gweithio, a bod cymdeithas budd gymdeithasol yn gweithio i ni. Galluogodd ni i achub tafarn gymunedol a’i throi yn fwy o gyfleuster cymunedol ac mae’n agored rŵan, yn masnachu, ac yn gwneud yn dda – felly pam na wnewch chi bicio draw i ddweud helo?”
Am fwy o wybodaeth am Ty’n Llan, ewch i’w gwefan yn https://tynllan.cymru/ os gwelwch yn dda.