Cyn-bêldroediwr proffesiynol yn sgorio gyda grantiau a chyngor i lansio busnes yn ystod y cyfnod clo
Roedd cyn-bêldroediwr a wnaeth y penderfyniad i ddechrau busnes hyfforddiant pêl-droed ar gyfer plant yn ystod y cyfnod clo yn falch o ddarganfod fod digon o gefnogaeth ar gael i’w helpu i sefydlu ei fusnes.
Ymunodd Nathan Craig, o Gaernarfon, gydag Everton pan yn 12 mlwydd oed, gan ddod yn ysgolor blwyddyn gyntaf yn 2008. Daeth yn aelod rheolaidd o dîm Dan-18 Everton yn ystod y tymor 2008/09, gan symud ymlaen i’r ail dîm yn 2009/10 ble daeth yn chwaraewr rheolaidd y tymor wedyn. Ym mis Rhagfyr 2009 dechreuodd ei gêm gystadleuol gyntaf i’r tîm cyntaf. Ymunodd â Torquay United yn ddiweddarach, gan wneud 47 ymddangosiad cyn gadael yn 2014, ac wedyn chwaraeodd i Dref Caernarfon am nifer o flynyddoedd cyn gadael i ymuno â Flint Town United.
Yn gweithio’n llawn amser yn Ysgol Syr Huw Owen erbyn hyn, penderfynodd Nathan ddechrau ei fusnes, Pêl-Droed Nathan Craig Football, yng nghanol cyfnod clo haf 2020. Trwy ei fusnes, mae Nathan yn darparu hyfforddiant pêl-droed drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ar gyfer pobl ifanc yn Nghaernarfon a’r ardal gyfagos – ond gall hefyd ledaenu’r gwasanaeth ledled Cymru gan ddefnyddio Zoom.
Pam benderfynodd Nathan ddechrau busnes yn ystod cyfnod clo?
“Roedd gen i lawer o amser i mi fy hun, adref, a dwi’n angerddol am bêl-droed,” meddai. “O’n i am rannu’r profiad gwerthfawr gefais i dros y blynyddoedd gyda phlant yr ardal yma.”
Mae heriau i ddechrau busnes newydd ar unrhyw amser – ond roedd yn arbennig o heriol yn ystod cyfnod blo. Yn ffodus, roedd digon o gefnogaeth – yn ariannol ac yn ymarferol – ar gael, ac fe dderbyniodd Nathan gymorth gan nifer o asiantaethau.
“Cefais grant drwy Sports Wales i helpu tuag at offer pêl-droed i ddechrau’r busnes,” meddai Nathan. “Cefais hefyd grant bach gan Gyngor Tref Caernarfon i’n helpu i brynu iPad er mwyn fy ngalluogi i gynnal sesiynau hyfforddi dros Zoom yn ystod y cyfnod clo. Cefais lawer o gymorth gan Llwyddo'n Lleol/Menter Môn hefyd.”
Roedd y gefnogaeth dderbyniodd Nathan yn amrywio o gefnogaeth ariannol a chyngor i gyngor busnes cyffredinol gan sefydliadau gyda blynyddoedd maith o arbenigedd busnes y gallai alw arno. Derbyniodd hefyd gefnogaeth gan Business Wales.
Gan fod pêl-droed yn gêm mor gymdeithasol, sut wnaeth Covid effeithio ar fusnes Nathan?
“Cafodd Covid effaith ar bob busnes,” meddai. “Ond roedd rhaid i bawb addasu eu ffordd o feddwl ac o weithio, felly fe wnes i lot o sesiynau ‘ball master skills’ ar Zoom. Ac, gan fod y sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg , roedd yna blant yn ymuno o Gaerdydd, Abertawe a Llanelli hefyd.”
Rŵan mae’r cyfnodau clo wedi llacio a phobl yn gallu cymysgu’n rhwyddach, sut mae busnes Nathan wedi newid?
“Mae’n brysur iawn,” meddai. “Gallwn fod yn brysurach, ond mae gen i swydd llawn amser yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, felly dwi’n trio gwneud cymaint ag y gallai.”
Mae cynlluniau Nathan ar gyfer ei fusnes i’r dyfodol yn cynnwys cyflogi 3-4 o hyfforddwyr pêl-droed ychwanegol yn llawn amser, fydd yn ysgafnhau ychydig ar lwyth gwaith Nathan tra’n ei helpu i ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn i blant yn ardal Caernarfon.