Dychweliad y ffair grefftau: Anrheg Nadolig i'w groesawu i fusnesau crefftio bach

Wrth i’r cyfnod clo agosáu, roedd yr anallu i fynd i gemau chwaraeon, i briodasau, i fedyddiadau a thafarndai yn newyddion mawr. Ond ychydig iawn o sylw fu ar y cyfryngau am ffeiriau crefft, rhywbeth mae llawer o berchnogion busnes bach yn dibynnu arnynt am incwm.

Crefftwyr fel Deborah Williams, sydd yn rhedeg Mooshkin yng Ngwynedd, sy’n gwneud anrhegion â llaw, a fethodd y ffeiriau crefft a’r marchnadoedd yn fawr – a hynny nid yn unig oherwydd y golled mewn incwm.

“Mae cael stondin mewn ffair grefftau am fwy na gwneud arian yn unig,” meddai Deborah, “Mae nhw’n ddigwyddiadau cymdeithasol hefyd. Pan rydych chi’n gwerthu’n rheolaidd yn y digwyddiadau yma rydych yn dod yn gyfeillgar gyda gwneuthurwyr eraill ar y ‘gylchdaith’, yn enwedig mewn digwyddiadau misol rheolaidd ble mae’r un stondinwyr yno bob mis fel arfer. Pan nad ydych chi wedi eu gweld ers amser rydych chi’n eu methu nhw go iawn.”

Un o’r digwyddiadau rheolaidd yma ydi Ffair Grefft Criccieth, ac mae Deborah wedi bod yn ei mynychu fel stondinwraig ers rhai blynyddoedd.

“Rwy’n gweithio o gartref fel dylunydd gwefannau, yn ogystal â rhedeg Mooshkin,” meddai. “Mae diwrnodiau ble rydych yn crefu am ychydig o gwmpeini. Roedd methu cael mynd i ffair Criccieth fel cael fy nhorri i ffwrdd oddi wrth fy ffrindiau. Er bod rhai ohonom ni yn cysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, dydi o ddim yr un fath.”

Mae prif fusnes Deborah wedi tawelu oherwydd ei bod yn gweithio gyda chleientiaid yn y sector twristiaeth yn bennaf, ac fe fu’n rhaid i’r sector gyfan hwnnw gau lawr am gyfnod amhenodol. A gan ein bod hi’n gyfarwyddwr ar gwmni cyfyngedig, yn hytrach na’n fasnachwr unigol, prin oedd yr opsiynau am gymorth ariannol gan y llywodraeth.

“Siaradais gyda Busnes Cymru ychydig o weithiau, gyda’r un ymateb bob tro: does dim cymorth ar gael ar eich cyfer gan eich bod yn gweithio o gartref, felly does dim grant ardreth. Gan nad ydych chi’n hunangyflogedig yn dechnegol, nid ydych yn gymwys am y grant hwnnw chwaith. Yr unig gymorth y gallwn ei gael oedd y taliad ffyrlo, ond oherwydd bod gen i ymrwymiadau i’n nghleientiaid ar gyfer pethau fel grantiau cynnal a chadw gwefannau, doeddwn i ddim yn gallu bod ar ffyrlo yn llawn amser. Yn y cychwyn, roedd yn rhaid i chi fynd ar ffyrlo am leiafswm o dair wythnos ar y tro  - felly fe weithiais i am naw diwrnod cyntaf bob mis a mynd ar ffyrlo am weddill yr amser.” 

Roedd bod ar ffyrlo yn cadw’r blaidd o’r drws, ond fe adawodd Deborah yn rhwystredig oherwydd fod rhaid iddi dreulio tair wythnos ym mhob mis ble na allai wneud unrhyw beth oedd yn gysylltiedig â’r busnes. “Dim ateb galwadau ffôn ac e-byst, dim crefftio, dim hyrwyddo ar gyfer yr un o’r ddau fusnes.... roedd hi’n anodd, ond yn ffodus gallwn ddefnyddio fy amser ffyrlo’n gynhyrchiol drwy droi rhan o’n ngardd yn rhandir a thyfu llysiau yno. Ni gafodd cyfrifau cyfryngau cymdeithasol Mooshkin eu diweddaru am fisoedd ar y tro, ac ni allwn bostio i grwpiau crefft ar Facebook rhag ofn i’r CthEM (Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi) fy nghyhuddo o hawlio tâl ffyrlo trwy dwyll.”

Er bod nifer o ffeiriau ‘rhithiol’ wedi eu hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, ni allai Deborah ymuno â hwy fel gwerthwr, a hynny oherwydd y ffyrlo. Hefyd, meddai, fe helpodd y cyfnod clo nifer o hobïwyr i lansio busnesau bach, oedd yn ychwanegu at ei chystadleuwyr. “Ond beth rwy’n ei weld rŵan, o siarad gyda’r crefftwyr yma ar draws y Deyrnas Unedig mewn grwpiau Facebook, ydi bod eu gwerthiannau wedi codi’n arw ar gyfer Nadolig 2020 a’u bod yn siomedig erbyn hyn am nad ydynt yn gwerthu llawer ar-lein y Nadolig yma. Mae bron fel petai y farchnad gwaith llaw wedi gorlenwi braidd.”

Yn ffodus, mae’r gwrthwyneb wedi bod yn wir i Deborah. “Cefais ychydig o werthiannau ar y wefan y Nadolig diwethaf, diolch i ffrindiau a theulu yn bennaf. Ond mae’r Nadolig yma wedi bod yn dda iawn i Mooshkin – yn ogystal â mwy o werthiannau ar-lein, rwyf hefyd wedi bod mewn pedair ffair Nadolig a’n nerbyniadau wedi bod yn llawer uwch na’r hyn gefais i mewn ffeirau Nadolig cyn Covid.”  Roedd hi’n fis Medi pan welodd Deborah ychydig o ffeiriau Nadolig yn cael eu hysbysebu mewn grwpiau Facebook. “Roeddwn wrth fy modd gweld bod ffeiriau’n cael cymryd lle eto. Yn y dechrau, doedd dim un ohonyn nhw yn ddigon agos i mi deithio iddynt, ond wedyn derbyniais neges gan drefnydd ffair Criccieth ac roeddwn i wedi cynhyrfu go iawn!”

Roedd mis Hydref yn fis distaw iawn i fusnes dylunio gwefannau Deborah, ac wrth fod y cynllun ffyrlo wedi dod i ben, gallai ddechrau crefftio a hyrwyddo Mooshkin unwaith eto. “Treuliais y rhan fwyaf o fis Hydref yng nghanol paent gwydr, fy mheiriant torri papur, pentyrrau o gerdyn, a bocsys a mwy o focsys yn llawn gleiniau a glitter. Roedd y lle’n llanast! Ond roeddwn i’n benderfynol i adeiladu’r stoc ac i gyflwyno ychydig o gynnyrch newydd, yn enwedig cardiau cyfarch, yn barod ar gyfer y Nadolig. Ac mae’n beth da fy mod i wedi gwneud hynny, oherwydd ym mis Tachwedd daeth fy musnes dylunio gwefannau’n hynod o brysur yn sydyn iawn, ac mae wedi bod felly drwy fis Rhagfyr hefyd.”

Dywed Deborah ei bod hi’n reit gynhyrfus ar fore’r ffair gyntaf yn Nghriccieth, a’i bod wedi cyrraedd y Neuadd Goffa hanner awr cyn yr amser yr oedd angen iddi gyrraedd yno. “Roeddwn  wedi deffro llawer yn rhy fuan ac yn poeni ychydig, yn pendroni os fyddai pobl yn dod yno, os byddent yn prynu unrhyw beth, os fyddai’n teimlo’n rhyfedd i wneud popeth tra’n ymbellhau’n gymdeithasol ac yn gwisgo mwgwd .... ond doedd dim angen i mi boeni. Roedd hi’n anhygoel cael gweld fy ffrindiau unwaith eto, a’r cwsmeriaid i weld yn benderfynol i beidio gadael y ffair yn waglaw. Penderfynodd rhai o’r stondinwyr eraill y byddai’n well ganddynt ddisgwyl tan y gwanwyn, pan fyddai risg y Covid yn is o bosib, felly rwy’n parhau i’w colli nhw.... ond mae’n braf cael rhywbeth i edrych ymlaen ato!” 

Bydd Ffair Grefftau Criccieth yn cymryd seibiant ym mis Ionawr a Chwefror ac yn dychwelyd i’r Neuadd Goffa fel digwyddiad misol ym mis Mawrth 2022. Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.facebook.com/FfairGrefftCriccieth os gwelwch yn dda. Gall trefnyddion ffeiriau crefft yng Ngogledd Cymru hysbysebu am stondinwyr drwy ymuno â Craft Fairs North Wales.