Dylunydd arobryn o Wynedd yn defnyddio'i phrofiad cyfnod clo fel cyfle i wella ei busnes
Defnyddiodd y dylunydd a’r gwneuthurwr arobryn Ann Catrin Evans y cyfyngiadau Covid i’w mantais drwy gymryd cyrsiau i wella ei sgiliau busnes a chomisiynu siop ar-lein newydd i werthu ei gemwaith unigryw sydd wedi’i wneud â llaw.
O Ddyffryn Ogwen yn wreiddiol, mae Ann wedi bod yn wyneb cyfarwydd yng Nghaernarfon ers iddi lansio ei busnes ym 1989. Mae ganddi weithdy yng Nglynllifon ers 1991, ac fe agorodd ei siop, Siop iard, yn Stryd y Plas, wyth mlynedd yn ôl.
Wedi graddio o’r coleg yn Brighton ym 1989, sefydlodd Ann weithdy ar unwaith gyda chymorth grantiau llywodraeth leol, gan weithio o feudy ar fferm y teulu am ddwy flynedd. “Roedd yn unig iawn gan nad oedd dim gwartheg,” meddai. “Roeddwn i ar fin rhoi fyny yr adeg hynny, roedd hi mor anodd.”
Ond, wedyn, fe enillodd y Fedal Aur am y campwaith celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd ym 1993. “Pan enillais i’r wobr honno rhoddodd yr hwb yna yr oeddwn ei angen i’n ngwthio i ‘mlaen.”
Dywed Ann ei bod hi’n gwneud y “gwaith mawr a budr” yn ei gweithdy yng Nglynllifon, cyn mynd â’i darnau gemwaith o’r efail i’w gorffen yn ei gweithdy arall yn Siop iard. “Mae marciau’r engan ar y gemwaith, hyd yn oed y darnau bach, cain,” meddai. “Mae’r marciau’n ei wneud ychydig yn fwy garw a’i wneud yn fwy organig, fel ei fod yn edrych ychydig yn agosach at natur, ac mae pob darn yn wahanol.”
Mae gan un gyfres, “Amrwd” beth mae Ann yn ei ddisgrifio fel gwead “arwyneb y lleuad neu lechen wedi’i hollti”.
Ydi natur yn dylanwadu ar lawer o waith Ann?
“Yndi, fuaswn i’n dweud ei fod o. Natur y deunyddiau hefyd, sut mae pethau’n byhafio. A ‘dwi’n meddwl, pan ‘dwi’n gweithio hefo haearn neu fetelau gwerthfawr neu aur, fy mod i’n trin y ddau beth yn yr un ffordd, gyda’r un math o gariad os hoffech chi, oherwydd i mi mae’r ddau’n werthfawr a’r ddau yn haeddu’r un gofal a sylw.”
Sut wnaeth ymddangosiad Covid effeithio ar fusnes Ann?
“Bu’n ergyd i mi yn ariannol ac roedd hynny’n eithaf brawychus. Gosodais fainc gemwaith adref i ddechrau. Sylweddolais ar ôl tua 3 wythnos y gallwn i gerdded i’r gwaith a mynd i mewn oherwydd nad oedd neb arall yno. Ceisiais feddwl am rhywbeth positif yn y sefyllfa, a meddyliais y gallwn i wneud y pethau oedd ar y rhestr aros, a chymryd yr amser yma i ddysgu, felly cofrestrais ar gyfer ychydig o bethau ar-lein. Roedd yna weminarau gydag eurychod (‘goldsmiths’) a phethau felly. Wnes i lawer o bethau felly, oherwydd mewn ffordd roedden ni wedi ennill amser, felly fe wnes i’r mwyaf o’r amser.”
Derbyniodd Ann rhywfaint o gymorth ariannol – grantiau ardreth a grant yr hunagyflogedig – ac yn hwyr yn 2020 sefydlodd siop ar-lein ar Spotify gyda chymorth ei chymorthyddion siop, Laura a Hannah – roedd hyn i gyd yn help i gadw’r blaidd o’r drws, a hynny mewn pryd ar gyfer cyfnod clo’r Nadolig.
“Roedd gan bawb arall eu gwefan eu hunain ac rwy’n meddwl fod bron iawn pawb yn gwerthu hefyd, boed hynny ar Etsy neu ar eu gwefan eu hunain, felly roeddwn i’n bell ar eu holau. Felly wnaethon ni sefydlu ar Spotify yn sydyn ac roedd hynny’n help. Roedd Siop iard hefyd wedi bod yn gwerthu cyrsiau crefft ar-lein felly fe wnaethon ni droi hynny i werthu nwyddau ar-lein. Felly pan fu rhaid i ni gau flwyddyn yn ôl cefais ychydig o werthiannau.”
Yn haf 2021 cofrestrodd Ann ar gyfer gweminar Busnes Cymru arweiniodd at sesiwn un-i-un gydag un o’r cynghorwyr, a asesodd fusnes Ann a’i helpu i adnabod gwelliannau posib. Yn dilyn y sesiynau hyn, penderfynodd Ann gyfuno ei phrif wefan busnes gyda siop ar-lein a chomisiynu dylunydd gwefan lleol i adeiladu gwefan e-fasnach ddwyieithog newydd sbon sydd wedi dod â nifer o werthiannau yn barod.
“Mae rhai pobl wedi dechrau busnesau ac yn gwerthu ar-lein yn unig, ond dydi gwerthu ar-lein ddim byd o’i gymharu â siop cerdded i mewn,” meddai Ann. “Gyda gemwaith mae pobl eisiau gafael ynddo, ei deimlo, ei gyffwrdd a’i weld o, gweld y manylion a’i agweddau manwl, a gwybod sut mae’n teimlo. ‘Dwi’n meddwl, gyda’r siop, mai beth sy’n bwysig ydi’r profiad.”
Er ei bod yn amcangyfrif bod tua 85% o ymwelwyr i’r siop yn bobl leol, ychwanegodd Ann “mae pobl sy’n hoff o’r gwaith o lefydd llawer pellach na Gwynedd neu Gaernarfon ac ni allent ddod i’r siop ei hun, felly gall y wefan ddechrau llenwi’r bwlch hwnnw erbyn hyn. Ac mae pobl yn prynu pethau heb eu gweld o flaen llaw, sy’n anhygoel.”
Ydi byw drwy’r pandemig wedi gwneud i Ann feddwl am y tymor hirach a sut y bydd hi, o bosib, yn newid y modd mae hi’n gwneud busnes?
“Mae wedi gwneud i mi sylweddoli os na all pobl gyffwrdd pethau, mae angen i chi wneud fideos bach neu gynnwys mwy o luniau. Mae hefyd wedi gwneud i mi feddwl fod angen i mi ddal i jyglo gwahanol beli gan nad ydych chi’n gwybod pa un sy’n mynd i syrthio. Roedd cau’r siop yn dyngedfenol i’m mywoliaeth i felly, yndi, mae gwerthu ar-lein yn bwysig iawn ac mae wedi gwneud i mi sylweddoli ei bod hi’n amser rwan am restr bostio ... mae pawb yn dweud mai e-bost ydi’r ffordd i dargedu eich cynulleidfa darged, a’r bobl hynny sydd wedi arwyddo gyda chi ydi’r rhai sydd eisiau chi, felly nhw yw’r rhai i’w bwydo a’u meithrin, a ‘dwi’n meddwl bod hynny’n bwysig iawn wrth symud ymlaen.”
Aeth Ann ymlaen: “[Mae rhestr bostio] yn beth da gan ei fod yn gwahanu a didoli’r wybodaeth ac yn eich galluogi i dargedu yn union pwy yw eich cwsmeriaid. ‘Dwi ddim yn meddwl eich bod yn sylwi ar hynny gyda’r siop mewn gwirionedd, ond ar-lein ‘dwi’n meddwl eich bod angen gwybod am hynny.”
A busnes wedi’r pandemig? “Mae’n mynd i fod yn fyd arall – bywyd yn llawn addewid ar y wefan!”
Mae Ann yn cynnig gostyngiad o 10% i danysgrifwyr i’r newyddlen ar hyn o bryd yn ei siop ar-lein.