Gwasanaeth rhad ac am ddim ym Mhorthmadog yn helpu busnesau ac unigolion i hogi eu sgiliau creadigol

Mae gwasanaeth anghyffredin, rhad ac am ddim, ar gyfer busnesau ac unigolion yn gwneud defnydd da o siop wag ar y stryd fawr ac yn helpu pobl i ddysgu sgiliau ymarferol creadigol newydd.

Lansiodd Ffiws, sy’n rhan o Arloesi Gwynedd Wledig, ym mis Medi 2019 ac mae wedi ei leoli mewn hen siop bwci ar Stryd Fawr Porthmadog. Wedi ei ariannu yn rhannol gan gronfa ARFOR Cyngor Sir Gwynedd, gyda gweddill y cyllid yn dod drwy’r rhaglen LEADER, mae Ffiws yn darparu ‘Gofod Gwneud’ sy’n galluogi defnyddwyr i roi cynnig ar brosesau creadigol cyffrous yn cynnwys argraffu 3D, argraffu sublimation a gwasg gwres, torrwyr laser ac engrafiad, torrwyr finyl a gweithio â phren gan ddefnyddio peiriant CNC.

Rhys Gwilym, cydlynydd y prosiect, sy’n rhedeg y gwasanaeth ar ran Arloesi Gwynedd Wledig, tra mae tri technegydd llawrydd wedi eu cyflogi i ddarparu hyfforddiant ac i oruchwylio defnydd yr ymwelwyr o’r offer. Hyd yn hyn, mae oddeutu 300 o bobl wedi defnyddio’r gwasanaeth. 

Mae’r gwasanaeth yn agored i bawb, o bob oedran, profiad a statws cyflogaeth. Mae wedi bod yn brofiad sydd wedi gwneud gwahanieth mawr i lawer o berchnogion busnesau crefftwaith bach sydd eisiau rhoi cynnig ar offer all fod yn ddrud i’w brynu cyn cymryd y cam hwnnw o brynu y peiriannau eu hunain. 

Ond mae Ffiws hefyd yn cael ei ddefnyddio gan hobïwyr, rhai sydd wedi ymddeol, myfyrwyr, a rhai sydd â diddordeb yn y crefftau, er mwyn cynhyrchu eitemau megis mygiau a bagiau, arwyddion a matiau diod o bren, a dyluniadau finyl addurniadol hunanlynol. 

Tra mae rhyddid i ddefnyddwyr werthu yr hyn maent yn ei gynhyrchu yn Ffiws, dywed Rhys Gwilym nad Ffiws yw’r lle i fynd os rydych chi am gynhyrchu eitemau ar lefel ddiwydiannol. Darperir eitemau crefftio gwag, fel mygiau, bagiau a thaflenni finyl, ond ar sail ‘blwch gonestrwydd’. Mae rhestr uwchben y blwch yn hysbysu’r defnyddwyr gyda syniad o bris y deunyddiau, sy’n helpu’r defnyddwyr i gyfrifo faint y dylent ei roi tuag at gostau cynnal y gwasanaeth.  

Esbonia Rhys mai: “Un o’r prif amcanion sydd gennym ni yw ei fod yn hygyrch i bawb waeth beth yw eu hoedran a’u cefndir. Mae’n ofod agored i bobl ddysgu mwy am yr offer ac i ddysgu sgiliau newydd. Mae’r Gofod Gwneud yn gysyniad gweddol newydd i sir wledig fel Gwynedd, a tra rydym wedi gweld pob math o bobl yn dod i mewn, ceisiwn annog busnesau i fanteisio ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig.”

Mae angen i unrhyw un sy’n dymuno defnyddio Gofod Gwneud Ffiws gwblhau sesiwn anwytho ar gyfer pob darn o’r offer cyn dechrau cynhyrchu. Unwaith y bydd sesiwn anwytho wedi’i chwblhau ar gyfer pob darn o offer, gall y defnyddiwr drefnu sesiynau pellach  - fydd yn cael eu goruchwylio gan un o’r technegwyr  - i ddefnyddio’r peiriannau i wneud eitemau i’w cadw neu i’w gwerthu. 

Yn ychwanegol i ddarparu mynediad at yr offer, gall Arloesi Gwynedd Wledig ddarparu cefnogaeth bellach i ddefnyddwyr y gwasanaeth drwy eu pecyn cefnogi busnes a gyflwynwyd eleni. Er enghraifft, os yw perchennog busnes bach yn cwblhau sesiwn anwytho Ffiws ac yn mynd ymlaen i brynu offer cyffelyb eu hunain, gall Arloesi Gwynedd Wledig gyllido ar gyfer i un o o’r technegwyr fynd i weithdy’r perchennog busnes i’w helpu i osod y peiriant er mwyn dechrau cynhyrchu.

Mae’r prosiect Ffiws i fod i ddod i ben yn Ebrill 2023, pan ddaw’r rhaglen LEADER i ben yng Ngwynedd. Ond gobaith Rhys yw y bydd y prosiect yn parhau o fewn y gymuned wedi iddo ddod i ben, a hynny o fewn llyfrgelloedd lleol neu ganolfannau cymunedol o bosib. 

I ddarganfod mwy am Ffiws ewch i’r isod, os gwelwch yn dda - www.arloesigwyneddwledig.cymru/en/prosiectau/ffiws/