Gwerthwr tai ym Mhen Llŷn yn manteisio ar dechnoleg ac yn gweithio gyda ffotograffydd lleol i barhau i fasnachu yn ystod y pandemig
Fel cymaint o berchnogion busnesau bach, roedd ymateb cyntaf Susan Jones i’r cyfyngiadau Covid yn un o banig braidd. Ond tra roedd siopa oedd yn gwerthu eitemau angenrheidiol yn cael aros yn agored, a mathau eraill o fusnes yn gallu cael eu rhedeg o lofftydd sbâr, roedd busnes Susan yn wahanol – am mai gwerthwr tai annibynnol ydi Susan.
“Roeddwn yn teimlo fel fy mod wedi syrthio dros ddibyn,” meddai. Pan roddodd Cymdeithas y Gyfraith y cyfarwyddyd na allech gyfnewid contractau, roedd yn golygu, yn syml, fod rhaid i bob dim stopio.”
“Roeddwn i’n lwcus,” meddai. “Wrth i ni fynd i mewn i’r cyfnod clo roedd gen i waith wrth gefn, felly cadwodd hynny fi’n brysur am gyfnod. Ond wedyn daeth yn amlwg nad oedd unrhyw ymholiadau o gwbl, ac roeddwn i’n chwilio am bethau i wneud.”
Penderfynodd Susan os na allai fynd i ddangos tai ei hun, y byddai angen iddi ddibynnu ar dechnoleg i wneud hynny yn ei lle. Ar y pryd, yr arweiniad oedd oni bai eich bod yn gallu gweithio o gartref bod caniatâd i chi fynd i’r gwaith. Ond roedd canfyddiad y cyhoedd yn bryder iddi; hyd yn oed os oedd tŷ yn wag, dywed Susan ei bod hi’n teimlo’n anesmwyth yn cael ei gweld yn ymweld â’r lle ei hun.
“Daeth pwynt ble roedd gen i wyth eiddo oedd angen eu mesur, a meddyliais y byddai’n well i mi ddechrau rhoi y rhain mewn rhyw fath o drefn a’u gwneud. Roeddwn i hefyd wedi dechrau derbyn ymholiadau ac yn meddwl sut allwn i ddangos tai pan na allwn i ddangos tai?”
Mae Susan yn credu’n gryf os ydych chi am ddatrys problem fod angen dechrau drwy adnabod y broblem. “Meddyliais, beth os fuaswn i’n gwneud fideos o’r eiddo yma? Fe wnes i ffilmio tri un Dydd Sadwrn gan weithio drwy’r dydd ar y Sul i roi’r fideos at ei gilydd. Ar y bore Dydd Llun roeddwn i wedi gorffen un, wedi ei yrru allan i rhywun yn y prynhawn Dydd Llun, daeth cynnig i mewn a chytunwyd ar y Dydd Mawrth, gan gwblhau y Dydd Gwener hwnnw!”
Sylweddolodd Susan yn sydyn mai dangos tai ar-lein oedd y ffordd ymlaen.
“Gan fod yr arian wedi dod i mewn, meddyliais fod yna bosibiliadau i hyn, felly dechreuais geisio gwneud mwy ohonynt. Ond nid dyma yw fy nghryfder i ac felly dyma pryd ddechreuais i weithio gydag Euron Jones (ffotograffwr). Rydan ni’n gwneud dau fideo, un i’w ddangos yn gyhoeddus, sy’n cael ei rannu ar yr holl lwyfannau a’r cyfryngau cymdeithasol, a’r llall, oherwydd rhesymau diogelwch, y byddaf yn ei yrru allan i bobl rwyf yn gallu eu hadnabod. Mae’n anodd gen i ddeall pam mae rhai gwerthwyr yn rhoi popeth allan yna. Oherwydd nid oes gennych chi unrhyw syniad am bwy sy’n edrych ar yr eiddo hyn yn rhithiol.”
Gan y gallai’r rhywun yna fod yn rhywun sy’n cael golwg ar le er mwyn torri mewn?
“Ia, yn union. Felly am resymau diogelwch rwyf yn ei drîn fel dangos tŷ yn bersonol. Byddwn yn cymryd yr holl fanylion, ac fe fyddai’n arbed amser hefyd gan y byddai’r ymweliad go iawn fel ail ymweliad mewn gwirionedd.”
Ydi’r darganfyddiad yma wedi newid y ffordd y mae Susan yn gwneud busnes yn barhaol?
“Do, mae wedi bod yn gyfle enfawr i mi. Roeddwn i ar y blaen gyda hyn, ond roedd gen i’r fantais o fod yn fasnachwr unigol. Oherwydd fod fy nghystadleuwyr i wedi eu lleoli mewn swyddfeydd bu’n rhaid iddynt gau, ac fe gymerodd amser iddynt i allu rhoi pethau yn eu lle. Pan rydych chi’n hunangyflogedig dydi bod ar ffyrlo ddim yn opsiwn mewn gwirionedd. Doedd dim grantiau ar gael, dim byd. Felly mae’n rhaid i chi ddod o hyd i ffordd i ddatrys y gwahanol broblemau.”
Ydi’r farchnad eiddo wedi newid yn ystod y pandemig? Er enghraifft, pobl yn sylweddoli os ydynt yn gweithio o gartref y gallent weithio o gartref yn nghefn gwlad yn hytrach na’r ddinas?
“Do, ac hefyd mae gennych weithwyr proffesiynol, perchnogion busnes fel arfer, sydd â phlant ac fe allent symud y teulu yma dros yr haf a pharhau i weithio.”
Oes yna ardaloedd o Ben Llŷn sydd yn fwy poblogaidd gyda’r math yna o weithiwr nag eraill? Ydych chi’n gweld pobl yn symud yn barhaol hefyd?
“Mae Covid wedi cael effaith ar lawer o bobl. Roedd ganddoch chi’r bobl hynny oedd wedi ymddeol yma oedd eisiau symud i ffwrdd o’r ardal er mwyn bod yn agosach at deulu, ac i’r gwrthwyneb roedd ganddoch chi bobl oedd wedi symud i lawr i Gaerdydd, er enghraifft, oedd eisiau dod yn ôl adref i fod yn agosach at eu teulu.”
Mae’n ymddangos bod prisiau wedi saethu i fyny yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ac eiddo’n gwerthu’n sydyn iawn. Ydi hynny’n debygol o newid?
“Mae pethau wedi tawelu’n sicr,” meddai Susan. “Mae’r ymholiadau wedi tawelu, ond mae hi’n amser yna o’r flwyddyn. ‘Dwi ddim yn meddwl y bydd hi’n cymryd llawer i bethau droi. ‘Dwi’n meddwl tua diwedd chwarter cyntaf [2022] a dechrau’r ail chwarter, y bydd pethau’n dechrau mynd yn anodd i lawer o bobl. Mae llawer o fusnesau yn talu gormod am staff oherwydd Covid, ac mae rhai sy’n methu cael unrhyw staff, felly os byddant yn mynd i’r wal bydd pobl yn dechrau colli eu swyddi, ac os bydd y cyfraddau llog yn codi, ni fydd pobl yn gallu fforddio eu had-daliadau morgais. Mae llawer o bobl wedi cymryd morgeisi prynu i rentu yn meddwl ei fod yn arian hawdd, ond os fydd cyfraddau llog yn codi, nid yw hynny’n golygu y bydd y rhent yn codi hefyd. Ond mae’r farchnad dai, heb Covid neu gyda Covid, wastad i fyny ag i lawr beth bynnag.”
Os bydd y flwyddyn nesaf yn anodd fydd prisiau tai’n gostwng?
“Mae’n fater o gyflenwad a galw yn tydi? Ar hyn o bryd mae’r galw’n uwch na’r cyflenwad sy’n gwthio prisiau i fyny. Os bydd hynny’n dechrau newid ac adfeddiannau’n cychwyn, a mwy o bobl yn gwerthu oherwydd eu bod yn gallu mynd dramor neu beth bynnag, yna os ydi’r cyflenwad yno a’r galw ddim yno daw’r prisiau i lawr er mwyn galluogi’r gwerthiant.”
Beth sy’n gwneud Susan yn wahanol i’r gwerthwyr tai mwy ydi’r gwasanaeth personol iawn y mae hi’n ei gynnig. Mae’n cynnal y dangosiadau tai ei hun ble’n bosib ac, wedi ei geni a’i magu ym Mhen Llŷn, mae’n rhannu ei gwybodaeth leol ardderchog – ac yn wahanol i’r rhan fwyaf o werthwyr tai yn yr ardal, mae’r mwyafrif o’i chyfathrebiadau cyhoeddus yn ddwyieithog.
Ydi hi’n teimlo fod y pethau hyn yn help iddi sefyll ar wahân?
“Os ydych chi’n gwybod beth rydych yn ei werthu ac yn gwybod pwy sy’n edrych i brynu, gallwch ddod â’r ddau at ei gilydd yn llawer haws. Ond mae’n hawdd pan rydych chi wrth eich bodd yn gwneud beth rydych yn ei wneud!”