Menter gymdeithasol yng Ngwynedd yn ehangu eu tîm ac yn datblygu prosiectau i weithredu ar hinsawdd yn ystod y cyfnod clo

Mae menter gymdeithasol wobrwyedig wedi ehangu eu tîm yn ystod y pandemig Covid, gan ychwanegu saith aelod newydd i’r staff fydd yn gyfrifol am drefnu cynulliadau hinsawdd mewn cymunedau yng Ngwynedd.

Mae Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), sydd wedi eu lleoli yng Nghaernarfon, yn gweithio gyda chymunedau o amgylch gogledd orllewin Cymru, gan eu helpu i ymdopi gyda’r cynnydd yng nghostau tanwyddau ffosil tra’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Sefydlwyd y busnes yn 2014 i ganolbwyntio ar atgyfnerthu’r economi leol trwy weithio gyda chymunedau lleol ar brosiectau ynni.

Pan ddaeth y cyfnod clo tua dechrau 2020, rhoddodd y cyfarwyddwr Grant Peisley ei dîm bach ar ffyrlo am bum mis, gan redeg y swyddfa ei hun, yn ddi-dâl. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu hefyd yn gwirfoddoli ei amser i helpu gyda menter dosbarthu bagiau bwyd yn Ward Peblig oedd yn gysylltiedig â’r Banc Bwyd Arfon, gan helpu i godi dros £7,500 ar gyfer danfoniadau bwyd i gartrefi bregus.

Gyda phob prosiect ar stop, nid oedd unrhyw arian yn dod i mewn i’r busnes, felly bu’r grant ardreth o £10,000 a dderbyniodd DEG yn help i gadw’r busnes yn rhedeg tra roedd y staff ar ffyrlo. “Defnyddiwyd rhywfaint o’r arian hwnnw i dalu am amser er mwyn i’r busnes allu parhau i fodoli,” meddai Grant, “i wneud yr holl stwff gweinyddol, siarad gyda’r cyllidwyr a’r rhanddeiliaid allweddol, diweddaru’r wefan gyda gwybodaeth Covid – stwff oedd yn dal i fod angen ei wneud. Ac edrych ar ôl y staff hefyd, gwneud yn siwr eu bod nhw’n iawn adref a sicrhau eu bod nhw’n ymdopi.”

Unwaith roedd y gweithwyr wedi dychwelyd i’r gwaith, trodd y ffocws at sut y gallai DEG barhau gyda’i waith heb fynd allan i’r cymunedau hynny mae’n eu cefnogi. 

“Cyn i Covid daro roedden ni wedi bod yn gweithio ar gael cyllid ar gyfer prosiect newydd, a daeth hwnnw drwodd tua diwedd 2020,” yn ôl Grant. Arweiniodd hyn at yr angen i recriwtio staff, ac wedyn cawsom hefyd y cynnig o arian gan y ‘National Lottery Community Fund Climate Action Boost’. Defnyddiwyd yr arian hwnnw i brynu les tair blynedd ar gerbyd gwyrdd y gall pobl leol ei ddefnyddio, ac mae staff DEG yn ei ddefnyddio hefyd.”

Derbyniodd DEG gefnogaeth hefyd i fanwl diwnio eu syniadau parthed datblygu gwasanaeth digarboneiddio ac ôl-ffitio ar gyfer perchnogion tai yng Ngwynedd, gan ddefnyddio’r arbenigedd mae DEG wedi ei ddatbygu dros y blynyddoedd gydag effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau. Esboniodd Grant: “Roedd pobl yn dal i ofyn i ni eu helpu gyda’u tai, felly fe wnaethon ni droi hynny’n wasanaeth, gan dderbyn ychydig o gymorth gan y Ganolfan Cydweithredol Cymru a dalodd am dipyn o amser gan BIC Innovation i’n helpu ni gyda’r cynlluniau marchnata ac i fireinio ein syniadau mewn gwirionedd – felly datblygwyd rhai gwasanaethau mwy arbenigol yn ystod Covid.” 

Yn ystod y cyfnod clo yn dilyn Nadolig 2020 datblygwyd brosiect mawr arall DEG, GwyrddNi. Mae’r mudiad gweithredu ar hinsawdd yma sydd wedi ei leoli a’i arwain yn gymunedol yn anelu i ddod â phobl at ei gilydd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu yn lleol er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd drwy’r ‘cynulliadau hinsawdd’. Roedd DEG angen tîm i redeg GwyrddNi, ond roedd recriwtio yn ystod amrywiol gamau’r cyfnodau clo yn heriol.

“Roedd recriwtio yn her, roedd hi’n wirioneddol anodd,” meddai Grant. “Doedd pobl ddim yn edrych i newid gyrfa yr adeg hynny, roeddent am aros yn gwneud yr hyn yr oeddent yn ei wneud; dyna oedd yr un darn yna o sicrwydd i ddal gafael ynddo, efallai mai dyna oedd rhan o’r peth. Ac roedd pobl yn canolbwyntio ar Covid, a ninnau’n cyflogi pobl ar gyfer newid hinsawdd, rhywbeth oedd ddim yn flaenoriaeth i bobl feddwl amdano ar y pryd, mae’n debyg.”

Sut wnaeth Covid newid y broses recriwtio? 

“Roedd ein cyfweliadau i gyd ar Zoom, oedd ychydig yn anodd i ni mewn rhai ffyrdd gan ein bod yn sefydliad ble mae pobl yn ganolog iddo – rydan ni’n meddwl yn gymdeithasol ac yn bobl cymdeithasol iawn, felly roedd methu cyfarfod pobl wyneb yn wyneb… mae cymaint mwy i’w gael o hynny.”

Fydd Covid yn effeithio ar y ffordd y bydd cynulliadau hinsawdd DEG yn gweithio? Fyddan nhw’n ddigidol hefyd? 

“Mae llawer o ansicrwydd amdano’n parhau i fodoli a dweud y gwir,” meddai Grant. “Dydan ni ddim eisiau iddyn nhw fod yn ddigidol, rydan ni eisiau eu cynnal nhw wyneb yn wyneb – ond efallai y bydd yn rhaid i ni eu gwneud nhw’n ddigidol. Mae gennym ni gynllun ar gyfer y ddau, sy’n creu mwy o waith mewn ffordd! Ac rydym yn gwneud rhywbeth newydd yn fama – mae’n ddigon anodd trio gwneud rhywbeth newydd mewn amseroedd sicr, heb sôn am wneud rhywbeth newydd mewn amser ansicr!”

Bydd cynulliadau GwyrddNi DEG yn dechrau ym mis Mai 2022. Bydd y rhai hynny sy’n byw o fewn yr ardaloedd sy’n cymryd rhan yn derbyn manylion drwy’r post, ond yn y cyfamser bydd GwyrddNi yn cael ei wefan ein hun ym mis Chwefror fydd yn darparu mwy o wybodaeth.

 

deg-logo-450px