Prosiect teulu i basio'r amser yn y cyfnod clo a drodd yn gyfle busnes

Gwireddodd fam ifanc o Bwllheli ei breuddwyd o ddechrau ei busnes ei hun, diolch i grantiau, cyngor busnes a chefnogaeth, a llawer o waith caled.

Roedd Alaw Williams yn trin gwallt cyn i’r pandemig daro. Ni allai fynd i’w gweithle arferol oherwydd y cyfnod clo, felly roedd adref gyda’i phartner a dau blentyn bach yn chwilio am ffyrdd i ddiddori’r plant.

“Dwi’n lwcus iawn fod gan fy rhieni fferm,” meddai Alaw. “Roedd gan fy mam hen focs ceffylau yn y cae ac felly meddyliais, ‘reit dwi am wneud rhywbeth hefo hwn!’ Felly aethon ni allan i’r caeau, a’r plant hefo ni, a dyna lle ddechreuodd pethau. Wnaethon ni wagio’r lle, dymchwel y lle’n gyfan gwbl, a dechrau o fanno.”  

Canlyniad gwaith caled y teulu oedd Jinsan, bar jin symudol yn gwerthu jin a chwrw crefft o ledled Cymru mewn digwyddiadau a dathliadau.

Sut esblygodd Jinsan o brosiect oedd yn hwyl i’r teulu i mewn i fusnes?

“Penderfynais beidio mynd yn ôl i’r gwaith i drin gwallt ar ôl y pandemig,” meddai Alaw. “Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth i wneud mewn gwirionedd, ond o’n i’n gwybod fy mod i am fod yn berchen ar fy musnes fy hun a meddwl ‘oes yna rhywbeth dwi’n licio fwy na jin?!’ Meddyliais nad oedd unrhyw beth fel hyn yn bodoli’n barod, rhywbeth hollol wahanol, felly penderfynodd fy mhartner a minnau y gallem agor bar, ac i’w wneud o hyd yn oed yn fwy gwahanol ei stocio gyda jin Cymreig yn unig a trio ei werthu. Roeddan ni eisiau cefnogi busnesau lleol hefyd, felly roeddan ni eisiau’r cyfle i gael jin pobl allan yna er mwyn i bobl allu trio gwahanol fathau o jin.”

Mae’r brandiau jin mae Jinsan yn eu gwerthu ar hyn o bryd yn cynnwys  Afallon, Aber Falls, a pHure LIQUORS o Gonwy, a dyma ei ffefryn yn ôl Alaw. “Rhain yw fy mhrif rai. A bob tro dwi’n mynd i ddigwyddiad, dwi’n cael mathau gwahanol o jin i mewn, felly mae’n wahanol bob tro. Dwi’n eu cael nhw o Gwin Llyn fel arfer, felly mae nhw’n mynd i fod yn jins Cymreig.” 

Gyda syniad da, gweledigaeth eglur a’r penderfyniad i wneud iddo weithio, y pethau nesaf roedd Alaw eu hangen oedd cyllid a dipyn o gyngor busnes.  “Roeddwn i’n lwcus iawn i ddweud y gwir,” meddai Alaw. “Roeddwn i’n ffodus iawn i fod yn rhan o gwrs deg wythnos Llwyddo’n Lleol lle roeddan ni’n cyfarfod bob wythnos a hwythau’n rhoi £1,000 ar gyfer y deg wythnos hynny tuag at ein busnes.”

Aeth Alaw ymlaen: “Roedd rhai cyfleodd i ennill dipyn o arian, felly roeddan ni’n ceisio gwneud y cyflwyniad perffaith ar y diwedd ble roeddach chi’n cyflwyno eich syniad busnes gyda’r enillyd yn derbyn £1,000. Yn anffodus nid fi enillodd! Busnes gwych arall enillodd hwnnw. Ond cefais £200 ychwanegol am bobl yn pleidleisio i mi ar Facebook, gan gael yr ail wobr am hwnnw, oedd yn anhygoel. Ac wedyn, gan fy mod i wedi gwneud hyn gyda Llwyddo’n Lleol, agorodd hyn cymaint o ddrysau i mi.”

Roedd Alaw yn falch o ddarganfod y byddai’n gallu elwa o wasanaethau cynghorwr busnes yn rhad ac am ddim. “Roedd hynny’n wych. Helpodd fi gyda sefydlu’r busnes a threfnu cynllun busnes, drwy ei gael i lawr ar bapur, a cefais grant Barriers to Start Up, oedd bron yn £1,500, am wneud hynny, oedd yn anhygoel – roedd hynny’n ddigon i orffen y trelar. Heb y rhain fuaswn i byth wedi gallu talu amdano fo.”

Er mor newydd yw Jinsan, mae gan Alaw gynlluniau i ehangu’n barod. “Pan ddechreuais i hyn, gofynnodd Llwyddo’n Lleol i ni roi ein nod a beth oedd ein targedau. Ar y pryd, fy nod bach i oedd i agor y trelar yma, ond rŵan mae gen i freuddwyd fawr o leoliad ble gallwn i agor bar jin bach ar yr eiddo, ac efallai cael Jinsan hefyd i fynd allan i briodasau a digwyddiadau a phethau felly. Hoffwn le parhaol y gallwn ei agor drwy’r flwyddyn – oherwydd mae’n rhaid i mi gau yn y gaeaf gyda’r trelar am ei bod hi’n rhy oer!”

I ddarganfod mwy neu ar gyfer bwcio Jinsan i’ch digwyddiad chi, ewch i broffil Instagram neu Facebook y cwmni.

Jinsan