Siop ar y stryd fawr yn profi hwb enfawr mewn gwerthiannau ar-lein diolch i grant ardrethi, arloesiad a chwsmeriaid hynod o ffyddlon
Mae grantiau ardrethi, y cyfryngau cymdeithasol a chwsmeriaid hynod o ffyddlon wedi helpu un busnes yng Ngwynedd nid yn unig i oroesi’r cyfnod clo, ond i ddod allan yr ochr arall yn gryfach nag erioed.
Mae Tom a Myfanwy Gloster wedi rhedeg eu siop ym Mhorthmadog ers 2014. Tra mae Tom, sydd wedi bod yn grochenydd ers 2004, yn creu’r nwyddau crochenwaith nodweddiadol y maent yn eu gwerthu, mae Myfanwy yn gofalu am y marchnata – rhywbeth mae hi’n dalentog iawn am ei wneud.
Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, yn dilyn y panig ar y dechrau, penderfynodd y cwpl wneud gwelliannau.
Roedd ganddynt wefan e-fasnach eisioes, un oedd yn gwneud yn dda. Ond os oedd y Glosters am dalu costau rhedeg siop wag, byddai angen i’r wefan wneud yn well.
“Roedd ein gwerthiannau ar-lein yn tyfu’n barod yn 2020,” meddai Myfanwy. “Roedden ni’n rhoi mwy o ymdrech i mewn iddo fo, dwi’n meddwl. Ac wedyn cawsom ein cau i lawr, a cawsom y panig yna’n y cychwyn o ‘sut ar y ddaear ydan ni’n mynd i dalu am bopeth?’ Cawsom y grant [ad-daliad ardreth] am gau, felly gwnaethom wario darn da o hwnnw ar ailwneud ein gwefan. Ac fe wnaethon ni roi ein holl amser i mewn iddo fo, ac fe dalodd i ni.”
Helpodd bod â siop ar-lein i leddfu’r panig o’r posibilrwydd o fod wedi eu cloi i lawr am fisoedd, meddai Myfanwy. I ddweud y gwir, mae’r gwerthiannau ar-lein wedi mwy na dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf. Hyd yn oed wedi iddynt gael caniatâd i ailagor, mae’r gwerthiannau ar-lein wedi parhau i dyfu.
Her arall oedd cadw i fyny â’r archebion ar-lein pan roedd yr odynau’n dal i chwythu’r trydan yn y gweithdy, oedd uwchben y siop. Roedd Myfanwy a Tom wedi bod yn ceisio dod o hyd i ffordd i ddelio â’r broblem yma’n barod, ond rhoddodd y cyfnod clo y cyfle iddynt wneud hynny ynghynt.
“Roedd gennym ddau opsiwn, sef i dyllu’r ffordd y tu allan i’r siop a rhoi cyflenwad tri cham i mewn, neu symud,” meddai. “Ac roedd yr unig le y gallem symud iddo yn anferth, a doedd gennym ni ddim digon o arian yn dod i mewn nac yn gwneud digon i gyfiawnhau hynny. Wedyn cafodd popeth ei gloi i lawr a dechreuodd y busnes dyfu ar raddfa syfrdanol, ond roedd yr odynau’n dal i gamfihafio, ac fe sylweddolon ni pe buasem yn parhau i gael ein cloi i lawr yna byddai’n rhaid i’r odynau weithio, neu ni fyddem yn goroesi. Ond doeddwn i ddim wedi rhagweld y byddai wedi bod mor llwyddiannus â hynny.”
Mae Myfanwy wastad wedi postio’n doreithiog ar Facebook – mae’n dweud ei bod yn defnyddio’r platfform cyfryngau cymdeithasol ychydig fel dyddiadur, gan ddweud wrth eu dilynwyr am bethau mae’r Glosters yn eu gwneud, pryd y bydd lliwiau a siapiau newydd ar gael – ac fe drodd at ddilynwyr Facebook y siop unwaith eto, ond i ofyn am eu cymorth y tro hwn.
Dechreuodd Myfanwy a Tom apêl cyllido torfol gan gynnig amrywiaeth o wobrau, o fathodynnau a mygiau i gyrsiau crochenwaith a chinio gyda’r Glosters yn yr eiddo newydd. Byddai’r arian oedd wedi ei godi yn cael ei ddefnyddio i ariannu symud y gweithdy i’r eiddo newydd smart, gyda mwy o le i weithio ac, yn hollbwysig, y cyflenwad trydan cywir.
Yn anhygoel, roedd yr ymgyrch wedi cyrraedd ei darged o fewn dwy awr. Wedyn, o fewn 24 awr o’r lansiad, roedd y cwpl wedi codi mwy na’r targed estynedig hefyd gan godi’r swm trawiadol o £40,000.
Mae Myfanwy’n llawn canmoliaeth am gwsmeriaid y busnes am wneud y symud yn llwyddiant.
“Maen nhw mor ffyddlon, ac mae ganddynt gymaint o ddiddordeb yn y ddau berson a’r busnes bach ac yn ein cynorthwyo i dyfu, a dwi’n meddwl yn yr amser hynny pan oedd popeth braidd yn wael, ei fod yn deimlad braf gallu cyfrannu at rhywbeth da.”
Y fath yw ffyddlondeb cwsmeriaid y Glosters, maent yn fodlon iawn i fuddsoddi mewn nwyddau newydd heb iddynt gael y cyfle i’w gweld yn bersonol.
“Y diwrnod cyntaf y cawsom ein cloi i lawr ym mis Mawrth oedd y diwrnod y gwnaethon ni lansio mwg newydd, llai. Am saith mis, roedd gennym y mwg yma yr oeddem yn ei werthu ond doedd neb wedi ei weld, wedi gafael ynddo nac yn gwybod sut roedd yn teimlo mewn gwirionedd. Oni bai am y mwg hwnnw, dwi ddim yn meddwl y byddai’r ddau fis cyntaf yna wedi mynd yn dda iawn!”
Er fod grant ardreth y cyfnod clo wedi bod yn hwb mawr i’r Glosters, gan helpu i dalu’r biliau tra roedd y siop ar gau, roedd rhan penodol o fodel busnes y cwpl – ynghyd â’r cwsmeriaid teyrngar hynny – hefyd yn gymorth mawr i helpu i gadw eu cyllid mewn trefn. Am tua tair blynedd, mae Glosters wedi cynnig y cyfle i’w cwsmeriaid ymuno â’r ‘Glosters Mug Club’, clwb sy’n darparu mwg o ddyluniad am unwaith yn unig, sydd mewn nifer cyfyngedig, a hynny hyd at bedair gwaith y flwyddyn.
“Mae fel chwistrelliad ariannol yn syth, pan rydych yn ei lansio ac mae pobl yn ei brynu,” yn ôl Myfanwy, “ac mae fel archeb ymlaen llaw sy’n eich cadw chi’n brysur am dipyn.”
Dioddefodd ddau ran arall o’r busnes yn ystod y cyfnod clo: y gallu i gynnal sesiynau hyfforddi, a’r ‘hwb’ sy’n darparu gofod gweithdy a hyfforddi ar gyfer gwneuthurwyr eraill. Byddai angen i’r ddau fod â phellter cymdeithasol erbyn hyn, fydd yn llawer haws rwan gan fod y gofod gwaith newydd yn weithredol.
“Rydym wedi adeiladu’r sied enfawr yma o bren rydym yn ei galw’n sied grochenwaith,” meddai Myfanwy. “Mae’n anferth ac fe all ddal 20 o bobl yn braf; mae ganddi fyrddau mawr ac fe fyddwn yn cynnal ein cyrsiau yno. Bydd hefyd yn le ble gall pobl eraill gynnal eu cyrsiau hefyd, fel o’r blaen.”
Gafodd yr anallu i gynnal cyrsiau effaith mawr ar gyllid y Glosters?
“Do. Roeddem wedi gwerthu ein holl gyrsiau Nadolig, felly roedd yn rhaid i ni eu canslo nhw i gyd a’u had-dalu, felly doedd hynny ddim y peth gorau. Ond mae pethau’n dechrau dod yn fwy normal erbyn hyn, felly mae gobaith!”
Mae un agwedd arall o’r busnes wedi ei drawsnewid yn gynharach nag oedd wedi ei gynllunio, oherwydd y cyfnod clo, sef y newid i becynnu sydd yn gwbl ailgylchadwy ar gyfer archebion ar-lein.
“O fewn dim, roedd yn rhaid i ni bacio bob dim, sydd ddim yn beth yr ydych yn meddwl amdano wrth werthu mewn siop. Wedyn, yn sydyn, rydych yn ymchwilio bocsys a phacio a’r ffordd orau i yrru pethau. Felly rwan, er ein bod yn gyrru crochenwaith, rydym yn eu gyrru mewn papur tebyg i ddiliau mêl, sydd yn ddewis amgen yn hytrach na defnyddio lapio swigen. Maent wedyn yn cael eu hamgylchynu gyda nwdls pyffion gwenith sy’n hydoddi mewn dŵr. Ac wedyn mae’r tâp papur sydd hefyd yn ailgylchadwy, ac mae’r bocsys cardbord yn ailgylchadwy hefyd, wrth gwrs.”
Wedi dod drwy’r cyfnod clo i gyfnod fydd, gobeithio, ychydig yn llai cythryblus i’r busnes, fyddai Myfanwy wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol?
“Na, dwi ddim yn meddwl. Dwi’n meddwl fod y cyfnod clo yn sicr wedi ein gwthio ni i ehangu yn fwy ac yn gyflymach ac efallai fod hynny’n beth da. Dwi’n meddwl y buasem yn dal i bendroni amdan y peth fel arall!”
Mae gan Busnes Cymru nifer o gynlluniau i helpu busnesau yng Nghymru, yn cynnwys Helo Blod, gwasanaeth cyfieithu rhad ac am ddim; cymorth i sefydlu’r cynllun ailgylchu yn y gweithle; a Yn Gefn i Chi, porth sgiliau ar gyfer busnesau.