Tŷ hanesyddol yn cael ei achub: gan droi'n westy bwtîc
Mae adeilad sydd wedi chwarae rôl bwysig yn nhreftadaeth ddiwydiannol Cymru am dros dwy ganrif wedi ei droi i mewn i westy bwtîc, gan greu llety moethus ar gyfer ymwelwyr a swyddi ar gyfer pobl leol.
Roedd Plas Weunydd, cartref hanesyddol y teulu Greaves, sef perchnogion chwarel lechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog o ganol y 19eg ganrif, yn cynnwys 24 o ystafelloedd sydd wedi’u dylunio’n unigryw y gall ymwelwyr eu defnyddio fel lleoliad wrth iddynt archwilio Eryri, neu ar gyfer seibiant bach moethus.
Mae’r llety bwtîc sydd ar gael ym Mhlas Weunydd yn gain ac yn gyfforddus, gyda bar a lolfa ar gyfer ymlacio ar ôl diwrnod caled o antur.
Mae ystafelloedd Plas Weunydd, sydd wedi’u dodrefnu’n gain, yn addas ar gyfer deiliaid sengl, cyplau, teuluoedd a chŵn hyd yn oed. Mae cyfeiriadau yn yr ystafelloedd at gysylltiadau’r adeilad i fwyngloddio yng ngogledd orllewin Cymru, ac maent wedi eu haddurno gyda gwaith celf gan artistiaid lleol a chenedlaethol sydd â chysylltiadau â Llechwedd.
Mae’r gwesty wedi ei leoli ar safle Zip World Llechwedd sy’n cynnig nifer o gyfleoedd i ymwelwyr sy’n chwilio am gyffro i gael yr adrenalin yn pwmpio. Mae Zip World wedi caffael chwarel Llechwedd ers 2021 ac mae’n cynnwys profiadau llawn cyffro megis gwifren wib a thrampolinau tanddaearol, yn ogystal â theithiau i berfeddion tyfn y fwynglawdd.
Mae’r gwesty hefyd o fewn cyrraedd hawdd i atyniadau lleol a darparwyr gweithgreddau eraill yn lleol, yn cynnwys Antur Stiniog, Surf Snowdonia a Zip World Fforest – gan ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer twristiaid anturus.
Mae trawsnewidiad Plas Weunydd yn dilyn sefydliad diweddar safle glampio moethus Llechwedd sy’n cynnig profiad glampio unigryw 5-seren yng nghefn gwlad mwyaf trawiadol y rhanbarth.
Mae’r safle glampio’n cynnig chwe phabell safari 5* sy’n sefyll ar y bryniau’n edrych dros yr ardal, ac wedi eu lleoli’n berffaith ar gyfer mwynhau’r golygfeydd godidog o gefn gwlad, yn ogystal â chynnig y lleoliad perffaith i edmygu’r sêr yng Ngwarchodfa Awyr Dywyll Eryri.
Nawr mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi sicrhau statws Treftadaeth y Byd UNESCO, mae trawsnewidiad Plas Weunydd yn ddarn arall o newyddion da ar gyfer yr economi leol, diolch i’r cyfleoedd swyddi fydd yn cael eu creu ar gyfer pobl leol a’r cynnydd ym mhoblogrwydd y ‘gwyliau gartref’ ers ergyd y pandemig Covid-19.
Am fwy o wybodaeth, ewch i www.plasweunydd.co.uk