Trefi Smart ar gyfer ffonau clyfar: sut mae trefi a phentrefi Gwynedd yn cadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr

Yn yr oes hon o ymgysylltu, mae cadw mewn cysylltiad o ble bynnag yr ydych chi yn flaenoriaeth uchel i lawer. Felly mae bod heb signal ffôn, sy’n rhwystro pobl rhag cysylltu, yn gallu bod yn broblem.

Yn anffodus, nid yw pob signal ffôn gystal â’i gilydd. Mewn rhai trefi cewch signal cryf gan un darparwr ond un gwan gan ddarparwr arall – a dim signal o gwbl gan rwydweithiau eraill. Felly sut allwch chi gadw mewn cysylltiad?

Yn 2016 daeth perchnogion busnesau yn Aberdaron, oedd yn profi derbyniad ffôn symudol gwael a dim band eang cyflym, i weithio gydag Arloesi Gwynedd Wledig ac arbenigwyr cyfathrebu ar brosiect peilot i osod rhwydwaith wi-fi i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim i’r pentref. Yn ei hanfod, byddai’n bownsio signal wi-fi o un rhan o’r pentref i ran arall, gyda’r system yn gofyn i’r defnyddwyr ddarparu cyfeiriad e-bost a hwythau wedyn yn derbyn wi-fi yn rhad am ddim pan fyddent yn y pentref. 

Symudwn ymlaen i 2021 ac erbyn hyn mae deg o drefi a phentrefi yn Ngwynedd wedi cofrestru i ddilyn y cynllun peilot. O dan y cynllun ‘Trefi Smart’ (‘Smart Towns’), a esblygodd o’r peilot yn Aberdaron, mae rhwydweithiau wi-fi cyhoeddus wedi eu gosod yn Y Bala, Beddgelert, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Llan Ffestiniog, Penygroes, Porthmadog a Phwllheli erbyn hyn – ac yn Aberdaron, wrth gwrs, ble dechreuodd popeth.

Byddai’n hawdd i’r rhai hynny ohonom ni sy’n llai technegol i ddiystyrru yr angen am wi-fi fel esgus arall i bobl fod â’u trwynau yn eu ffonau yn hytrach na gwneud y mwyaf o’r hyn sydd o’u hamgylch. 

Ond nid ar gyfer rhannu lluniau i’r cyfryngau cymdeithasol yw unig bwrpas ffonau symudol  – mae defnydd mwy ymarferol iddynt hefyd. Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol erbyn hyn apiau wedi eu gosod arnynt, megis Messenger, Facetime a WhatsApp, sy’n galluogi gwneud galwadau dros wi-fi, felly mae’n dal yn bosib i bobl wneud galwadau sain neu fideo heb fod signal ffôn yn bresennol os oes cysylltiad wi-fi ar gael. 

Mae achos cryf ar gyfer busnes dros gynnig system wi-fi gyhoeddus yn rhad ac am ddim. Y theori gyda Trefi Smart yw y bydd pobl yn ymweld yn amlach, yn aros yn hirach, ac yn defnyddio busnesau lleol – gan gyfrannu at yr economi leol. 

Mae dau fudd arall sydd hefyd yn annog busnesau mewn Trefi Smart i fod yn arloesol. 

Y cyntaf yw dod â gwell dealltwriaeth o niferoedd ymwelwyr, neu’r ‘footfall’. Mae gwybod pa ddiwrnodiau ac amseroedd sydd brysuraf yn hanesyddol yn helpu perchnogion busnesau i gynllunio popeth o oriau agor i amserlenni staff. 

Yr ail fudd yw’r posibilrwydd o allu defnyddio’r data sydd wedi ei gasglu drwy’r system i ddeall yr ymwelwyr eu hunain: i ddeall yr hyn y maent eisiau a’i angen, i ddarparu ar gyfer yr anghenion hynny’n fanwl gywir, ac i’w hysbysu ynghylch digwyddiadau a chynigion allai eu denu yn ôl i’r dref yn y dyfodol. 

Yn y prosiect peilot yn Aberdaron, crêwyd gwefan ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth ynghylch y pentref, a’r ardal o’i amgylch, yn cynnwys digwyddiadau, gweithgareddau a hanes. Gofynnwyd i’r rhai hynny oedd yn cofrestru ar y system wi-fi am eu diddordebau - bwyd a diod, gweithgareddau antur, cerdded, cymdeithasu, ac yn y blaen – gan yrru newyddlenni iddynt oedd wedi eu teilwra i’w diddordebau, gyda dolenni i’w cysylltu i’r erthyglau mwyaf perthnasol ar y wefan. 

Ym Mhwllheli, gwneir defnydd da o’r data – yn cynnwys yr ystadegau niferoedd, ac fe ellir gweld y data yma yn www.patrwm.io.

Yn ôl Eric Price, Clerc y Dref, Pwllheli:

“Rydan ni wedi bod yn defnyddio’r system ers dros flwyddyn ac mae’n rhoi data amhrisiadwy i ni o ran faint o bobl sy’n mewngofnodi i’r wi-fi cymunedol, ond hefyd ar ba amser o’r dydd, ac rydym wedyn yn cael eu cyfeiriadau e-bost sy’n ein galluogi i weithio gyda busnesau lleol i hyrwyddo eu gwasanaethau drwy ein newyddlen i’r rhai hynny sydd wedi cael mynediad i’r wi-fi – boedd hynny’n bobl leol neu’n ymwelwyr. Rydym hefyd yn fwy ymwybodol erbyn hyn  o’r amseroedd pan mae’r dref ar ei phrysuraf, ac yn gallu bwydo’r wybodaeth honno i’r busnesau lleol i sicrhau eu bod yn agored i fanteisio’n llawn ar y niferoedd hynny.”

Nid yw’r ffôn symudol yn mynd i ddiflannu yn fuan. Yn 2020, dywedodd 60% o bobl y Deyrnas Unedig, mewn ymateb i holiadur, mai eu ffôn clyfar oedd eu prif ddyfais ar gyfer mynediad i’r rhyngrwyd – felly os ydych chi’n hoff ohonynt neu beidio, mae’r ffonau clyfar yma i aros. Ac os mai hynny yw’r achos, peidiwch â synnu os bydd mwy o drefi’n dod yn ‘smart’ er mwyn cadw i fyny gyda’r duedd yma.

Gweithdai Trefi SMART Towns Cymru.