Busnesau: Defnyddio Technoleg ar gyfer Effeithlonrwydd Busnes

Gweminar Zoom

28 Chwefror 2023

9:30am - 11:00am

Mewn ymateb i’r argyfwng costau byw a’r costau rhedeg busnes cynyddol, mae Uned Cefnogi Busnesau Lleol y Cyngor wedi trefnu gweminar ar gyfer busnesau bach a chanolig eu maint wedi eu lleoli yng Ngwynedd fydd yn edrych ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd busnes er mwyn gostwng costau a chynyddu refeniw.

Yn cymryd rhan yn y gweminar Zoom bydd Siwan Lisa Evans, Prosiect Platfform Digidol ar gyfer y Sectorau Bwyd a Lletygarwch, Cyngor Gwynedd, Geraint Huws a Zoe Pritchard, Grŵp Ymgynghori Lafan a Sarah Morris, Busnes Cymru.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: https://bit.ly/3YuiCd2 

Dylid nodi mai dolen ar gyfer cofrestru yw hon ac y bydd dolen Zoom yn cael ei hanfon i chi drwy e-bost cyn bore’r digwyddiad ar gyfer cael mynediad i’r gweminar.

Cysylltwch â’r Tîm Cefnogi Busnesau Lleol ar busnes@gwynedd.llyw.cymru os ydych angen rhagor o wybodaeth neu gymorth.